Ymchwil Weithredol
Ystyriaethau allweddol:
I ba raddau yr ydym yn darparu cyfleoedd i’n staff ar hyn o bryd i gynnal eu hymchwil weithredol eu hunain?
Sut y gallwn hyrwyddo buddion ymchwil weithredol i’n staff addysgu?
Ym mha fodd yr ydym yn cefnogi athrawon i ymgymryd ag ymchwil weithredol yn eu hystafelloedd dosbarth?
Sut yr ydym yn rhannu myfyrdodau’r athrawon yn ystod eu hymchwil weithredol?
Mae ymchwil weithredol yn broses archwilio ac iddi ffocws clir, a gellir rhannu ei chanfyddiadau er mwyn cyfoethogi arfer ysgol. Gellir ymgymryd â’r dull gwerthuso a myfyriol hwn yn unigol neu’n gydweithredol, a gall arwain at newid mewn ymarfer a gwell profiad i’r dysgwr.
Egwyddorion Allweddol
Mae prosesau ymchwil weithredol yn helpu i lywio’r broses o gynllunio a datblygu’r cwricwlwm.
Mae ymchwil weithredol yn cefnogi athrawon i ddod yn asiantau eu dysgu proffesiynol eu hunain.
Mae ymholiad cydweithredol yn cyfoethogi dealltwriaeth athrawon o arferion esblygol a’u heffaith bosibl.
Mae ymchwil weithredol yn darparu cyfleoedd ar gyfer arloesedd, gan annog athrawon i werthuso effaith newidiadau.
Mae ymchwil weithredol yn cefnogi athrawon i ymchwilio i ddulliau ehangach o addysgeg, sy’n briodol i’w lleoliadau.
Gall ymchwil weithredol feithrin gallu mewn ysgol i gyflawni’r cwricwlwm newydd.