- Gweledigaeth - Y Pedwar Diben
Mae’r gweithdy hwn yn rhoi cyfle i staff feddwl am weledigaeth yr ysgol ynghyd â’r pedwar diben a thrafod sut y gellir eu defnyddio wrth gynllunio dyfodol eich ysgol.
Tasg:
Cynlluniwyd y dasg hon i hyrwyddo meddwl am y pedwar diben a’r prif nodweddion. Dylid annog staff i drafod a rhestru’r sgiliau y bydd angen i bob dysgwr eu hennill er mwyn cyflawni’r nodweddion yn ogystal â rhoi enghreifftiau o’r profiadau sydd eu hangen i hwyluso hyn.
Mae pedair tudalen ar gael, pob un yn ymwneud ag un o’r Pedwar Diben. Efallai yr hoffech hwyluso’r dasg mewn pedwar grŵp gwahanol neu garwsél i alluogi trafodaeth gyfoethog. Dylai hwyluswyr gyfeirio at yr egwyddorion a’r ystyriaethau a roddir yma i arwain y drafodaeth. Rydym hefyd wedi darparu enghraifft o sgiliau a phrofiadau, ond nid yw hyn yn gynhwysfawr o bell ffordd. Bydd clicio ar ddelwedd isod yn mynd â chi i ‘Porth’ i lawrlwytho’r adnoddau.
2. Egwyddorion Cynllunio - Ymagwedd Ysgol Gyfan
Mae’r gweithdy hwn yn rhoi cyfle i staff i ymgysylltu ag egwyddor ymagwedd ysgol gyfan.
Gweithgaredd:
Bydd staff yn trafod ystyr ymagwedd ysgol gyfan mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru, gan ystyried yr egwyddorion allweddol y gellir eu defnyddio fel man cychwyn. Yn ogystal, darperir cyfres o gwestiynau i’w hystyried wrth ddylunio’ch cwricwlwm lleol eich hun.
Gan ddefnyddio tudalen 10, darllenwch y naratif a’r egwyddorion ac yna trafodwch yr ystyriaethau allweddol fel staff cyfan neu mewn grwpiau. Efallai yr hoffech ystyried y cwestiynau ychwanegol isod.
Gan ystyried y pedwar diben:
Ble maen nhw’n cael eu cyfathrebu?
Sut maen nhw’n cael eu cyfathrebu?
Ble maen nhw’n cael eu trafod?
Ble maen nhw’n cael eu gweld, eu teimlo neu eu clywed?
Gan ystyried buddion ymagwedd ysgol gyfan i’r dysgwr:
Pwy sydd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau hyn?
Beth yw’r buddion?
Pwy sydd angen cydweithredu?
Pa agweddau sydd wedi’u trafod?
Gan ystyried cynllunio ysgol gyfan:
Pwy sydd angen bod yn rhan o’r cynllunio?
Beth yw ein man cychwyn?
Beth yw ystyr addysg gynhwysfawr?
Beth na ellir ei adael i siawns?
Yn dilyn trafodaeth, efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r adnodd cyn cychwyn i raddio’ch ysgol o ran ymagwedd ysgol gyfan o ystyried i ba raddau y mae pawb yng nghymuned eich ysgol yn rhannu ymrwymiad i addysg gyfannol pob dysgwr.
Efallai, mae hwn yn agwedd yr hoffech ddychwelyd ati wrth i chi ddatblygu a mireinio eich cwricwlwm.
3. Methodoleg - 'Y Bachyn'
Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio data o StreetCheck, adnodd wedi’i seilio ar wefan sy’n cynhyrchu graffiau i gynrychioli tirwedd gymdeithasol, ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd cymuned eich ysgol. Dyma un ffordd o archwilio cyd-destun unigryw eich ysgol.
Tasg:
Dilynwch y ddolen canlynol i agor StreetCheck a lawrlwythwch y data ar gyfer eich ardal chi.
🌐 https://www.streetcheck.co.uk/
Efallai yr hoffech drafod yr hyn y mae’r data’n ei ddweud wrthych am eich ardal, er enghraifft:
Os yw troseddau rhywiol a threisgar yn ystyriaeth fawr yn eich ardal, a yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cynllunio iechyd a lles?
Os yw cyflogaeth yn isel, ystyriwch sut mae hyn yn effeithio ar ddyhead eich dysgwyr.
Ystyriaethau pellach:
A oes gennym ni fel arweinwyr ysgol, athrawon a llywodraethwyr ddealltwriaeth gytûn o dirwedd gymdeithasol, ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd ein hysgol a’i chymuned?
Beth yw anghenion y gymuned hon?
Beth yw anghenion ein dysgwyr?
Sut ydyn ni’n defnyddio’r ‘bachyn’ i ddylunio cwricwlwm sy’n adlewyrchu’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n unigryw i’n hysgol ni?
Sut allwn ni ddefnyddio’r bachyn wrth gynllunio datblygiad sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau i’n holl ddysgwyr?
Sylwch mai dim ond un ffordd yw’r gweithgaredd yma o drafod y bachyn ar gyfer eich ysgol a dylid ei ddefnyddio ar y cyd ag ystod o ffynonellau data perthnasol gan gynnwys ffocws ar lais y dysgwr. Wrth ddefnyddio Street Check, byddwch yn ymwybodol y dylai chwiliadau ystyried ble mae’ch dysgwyr yn byw.
Gellir lawrlwytho enghraifft o’r data y gellir ei greu o ‘Porth’ trwy glicio ar y ddelwedd ar y dde.