'Y Bachyn'

Bydd gan bob ysgol ei ‘bachyn’ ei hun, a all ddeillio o ymdeimlad unigryw yr ysgol o’i chynefin. Y ‘bachyn’ yw’r man cychwyn a all danio cydymrwymiad i gwricwlwm yr ysgol, gan sicrhau bod pob aelod o staff a phob dysgwr yn ymgysylltu ac yn teimlo cysylltiad emosiynol â datblygiad y cwricwlwm.

Egwyddorion Allweddol

  • ‘Y bachyn’ yw sail y cwricwlwm ym mhob ysgol ac mae’n adlewyrchu hunaniaeth gymdeithasol, ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd yr ysgol.

  • Dylai’r ‘bachyn’ helpu dysgwyr i wireddu’r pedwar diben.

  • Dylai’r ‘bachyn’ ddatblygu mwy o synnwyr o berthyn, mwy o gyfrifoldeb a mwy o barch at amgylchedd lleol, cenedlaethol a byd-eang y dysgwyr.

  • Bydd ysgolion yn defnyddio’r ‘bachyn’ i ddatblygu eu cwricwlwm a fydd yn cynnwys y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau sy’n ofynnol ar gyfer dysgu dwfn.

  • Dylai’r ‘bachyn’ adlewyrchu’r dull amlddisgyblaethol tuag at ddysgu a chaniatáu cyd-destunau eang ac amrywiol er mwyn helpu pawb i ymgysylltu.

Ystyriaethau allweddol:

  1. Sut ydym yn defnyddio’r ‘bachyn’ i ddylunio cwricwlwm sy’n adlewyrchu cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol unigryw ein hysgol?

  2. A ydym wedi ystyried sut yr ydym yn defnyddio ein cyd-destun unigryw i greu cysylltiadau dysgu ar draws a rhwng y Meysydd Dysgu a Phrofiad?

  3. A ydym ni fel arweinwyr ysgolion, athrawon a llywodraethwyr wedi cytuno ar ein dealltwriaeth o natur gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd ein hysgol a’i chymuned?

  4. A yw’r ddealltwriaeth hon yn sylfaen i’n huchelgais a’n dyheadau ar gyfer pob dysgwr yn ein hysgol?

  5. Sut y gallwn sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu synnwyr o hunaniaeth unigol a thorfol a fydd yn fodd iddynt gyfrannu’n hyderus yn eu cymuned a’r tu hwnt?