Beth a olygwn wrth gynnydd ?
Ymateb a Myfyrio
Yn eich tîm, ysgol, neu yn eich clwstwr, meddyliwch am sut y gallech ddiffinio cynnydd ar gyfer :
Eich dysgwyr
Cynllun eich cwricwlwm
Ystyriwch hefyd ym mha ffyrdd yr hoffech weld dysgwyr yn gwneud cynnydd.
Gellir diffinio cynnydd fel:
Symud ymlaen
Yn gwella
Datblygu dyfnder ac ehangder mewn dysgu
Cynyddu soffistigeiddrwydd
Trosglwyddo a chymhwyso
Beth rydym am i'n dysgwyr wneud cynnydd ynddo?
Beth mae dysgwyr yn ei wybod? (gwybodaeth)
Beth maen nhw'n ei ddeall ?(deall)
Yr hyn y gall dysgwyr ei wneud (sgiliau)
Eu gallu
Eu priodweddau a'u hagweddau
'Mae cynnydd yng nghyd-destun dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth yw ystyr gwneud cynnydd mewn maes penodol neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau. '
Cwricwlwm i Gymru
Gallwn weld y pwyntiau hyn yn amlwg wedi’u nodi yn y diffiniad o gynnydd fel y’i nodir yng nghanllawiau CiG. Felly, wrth gynllunio ar gyfer dysgu byddwn yn cefnogi ein dysgwyr i gynyddu eu gwybodaeth, i ddyfnhau dealltwriaeth ac i wella eu sgiliau ond gallwn hefyd eu helpu i ddatblygu eu galluoedd, eu priodwedddau a’u hagweddau.
Ymateb a Myfyrio
Sut ydyn ni’n cefnogi ein dysgwyr i ddod yn ddysgwyr gydol oes mwy effeithiol wrth iddynt symud ymlaen ar hyd y continwwm 3-16?
Mae yna gyfanswm o 27 o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig, ac mae'r rhain yn cynrychioli crynswth yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei wybod a'i ddeall pan fyddant yn gadael addysg orfodol. Nhw yw hanfodion pob Maes, a rhaid i'r holl ddysgu gysylltu'n ôl â nhw. Mae'r egwyddorion cynnydd yn darparu lefel uwch o ddealltwriaeth i ymarferwyr o ran y modd y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd. Mae'r disgrifiadau dysgu yn cyfleu'r modd y dylai dysgwyr wneud cynnydd yn unol â phob datganiad o'r hyn sy'n bwysig. Maent wedi'u trefnu yn ôl pum cam cynnydd, sy'n ffurfio'r continwwm dysgu.
Beth yw 'dealltwriaeth gyffredin o gynnydd’?
'Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn golygu bod ymarferwyr, gyda’i gilydd yn eu hysgol neu leoliad, ar draws eu clwstwr, a chydag ysgolion eraill y tu hwnt i’w clwstwr, yn archwilio, yn trafod ac yn deall y canlynol gyda’i gilydd:
eu disgwyliadau ar y cyd o ran sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd a pha wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ddylai gyfrannu at hyn yng nghwricwla’r ysgolion a’r lleoliadau;
sut i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr gydol eu taith ddysgu ac yn arbennig yn ystod cyfnodau pontio;
sut mae eu disgwyliadau ar gyfer cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill.'
Cwricwlwm i Gymru
Ble ydym yn dechrau datblygu'r gyd-ddealltwriaeth o gynnydd?
Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu, mae angen i ni ddechrau gyda'r Egwyddorion Cynnydd.
Mae'r egwyddorion cynnydd yn creu gofyniad gorfodol o ran yr hyn y mae’n rhaid i gynnydd ei olygu i ddysgwyr. Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:
ddeall beth yw ystyr cynnydd a’r hyn y bydd yn ei olygu ym mhob Maes
datblygu’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu er mwyn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir
datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud.
O edrych ar y datganiadau hyn yn fanylach, gallai fod yn fuddiol symleiddio'r iaith a myfyrio ar eu hystyr. Mae'r golofn ar y dde yn cynnig un dehongliad o'r egwyddorion.
Bydd rhannu'r ddealltwriaeth hon a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol ar draws yr ysgol a rhwng ysgolion yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gyffredin ac iaith gyffredin o ran cynnydd.
Datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd
Wrth i chi ddarllen trwy bob Egwyddor Cynnydd yn ei thro, efallai y byddwch yn dechrau nodi ymadroddion ac iaith allweddol sy’n helpu i nodi sut olwg allai fod ar gynnydd mewn dysgu. Bydd amlygu neu danlinellu ymadroddion allweddol ym mhob un o’r egwyddorion, mewn timau neu mewn clystyrau, yn helpu i ddechrau'r broses o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.
Effeithiolrwydd
Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr
Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd o fewn y Maes hwn, byddant yn gofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig. Byddant yn dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a gwneud penderfyniadau ynghylch dibynadwyedd a chyfleustod, ymysg pethau eraill. Byddant hefyd yn gallu gweithio'n fwy effeithiol gydag eraill, yn enwedig wrth gymryd rhan mewn gwaith cymdeithasol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Gwybodaeth
Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol
Caiff cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau (Maes) ei ddangos wrth i ddysgwyr ymgysylltu â gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol cynyddol eang a dwfn. Mae dysgwyr yn datblygu’r gallu i drefnu a nodi cysylltiadau rhwng gwybodaeth osodiadol yn gynyddol, er mwyn nodi a datblygu cysyniadau ategol mwy pwerus, a gwneud penderfyniadau wedi’u hategu mewn cyd-destunau mwy cymhleth.
Mae dysgwyr yn cysylltu syniadau a gwybodaeth newydd â gwybodaeth sy’n deillio o ddysgu blaenorol yn yr ysgol a’r tu hwnt iddi, ac yn eu defnyddio i feithrin dealltwriaeth gynyddol glir a chydlynol o’r byd o’u cwmpas.
Dealltwriaeth
Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad (Maes/Meysydd)
Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei ddangos yn ystod y cyfnodau cynnar wrth i ddysgwyr brofi dulliau holistaidd o archwilio’r byd o’u cwmpas, a chael eu cefnogi i feithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd. Bydd dysgwyr yn symud ymlaen i ymwybyddiaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar fywydau pobl eraill, yn eu cyd-destun cymdeithasol eu hunain, mewn mannau eraill yn y byd ac mewn gwahanol oesoedd. Wrth iddyn nhw symud drwy’r continwwm dysgu, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gynyddol o’r nodweddion sy’n diffinio’r disgyblaethau sylfaenol (gan gynnwys hanes; daearyddiaeth; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol) a’r ffordd y gellir dod â’r rhain at ei gilydd i ddarparu ffyrdd gwahanol o ystyried materion a mynd i’r afael â chwestiynau neu broblemau.
Sgiliau
Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau
Wrth i ddysgwyr brofi, deall a chymhwyso cysyniadau cynyddol gymhleth, maent yn dangos cywirdeb a rhuglder cynyddol wrth ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau a nodwyd yn y disgrifiadau dysgu a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.
Wrth iddynt wneud cynnydd, bydd dysgwyr yn mireinio’r sgiliau disgyblaethol allweddol yn barhaus ac yn datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag ymholi, megis llunio cwestiynau a defnyddio tystiolaeth i lunio ac ategu ateb a chysylltu hynny gyda chynrychioli a dehongli canlyniadau ymholi. Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei ddangos drwy’r gallu i weithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson.
Cymhwyso
Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd
Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei nodweddu hefyd gan ddefnydd mwy soffistigedig o’r sgiliau perthnasol a’r gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau cynyddol anghyfarwydd. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddan nhw’n gallu nodi cysylltiadau mewn cyfnodau a lleoedd a rhyngddyn nhw, gan adnabod yr hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol, newidiadau a pharhad, a defnyddio’r ddealltwriaeth o gysyniadau i nodi cysylltiadau rhwng dysgu newydd a dysgu blaenorol. Gyda dealltwriaeth well o’r byd, o bobl eraill a’u gwerthoedd, mewn gwahanol gyfnodau, lleoedd ac amgylchiadau, ac o’u hamgylchedd a’r ffordd y cafodd ei lunio, bydd dysgwyr yn dangos mwy o allu i ddylanwadu ar ddigwyddiadau drwy fod yn ddinasyddion gwybodus a chyfrifol.
Ymateb a Myfyrio
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd ati ’nawr i archwilio pob un o’r egwyddorion cynnydd a’u rhesymeg gysylltiedig ar gyfer Dyniaethau yn fanylach fel tîm/adran/clwstwr ysgol.
Pam mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn bwysig i'ch cwricwlwm?
Cydlyniaeth - Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ymhlith ymarferwyr mewn ysgol, lleoliad neu ar lefel clwstwr yn helpu i sicrhau bod profiadau dysgwyr yn gydgysylltiedig, yn ddilys ac yn berthnasol, ac hefyd yn helpu i nodi sut i ddilyniannu dysgu’n effeithiol.
Cyfnodau pontio llyfn - mae dealltwriaeth gyffredin ar draws clwstwr yn sicrhau’r cyfnodau pontio gorau posibl o fewn a rhwng lleoliadau ac ysgolion cynradd ac ysgolion cynradd ac uwchradd i ddysgwyr, gan y bydd sefydliadau yn deall sut a beth mae dysgwyr wedi bod yn ei ddysgu ac y byddan nhw’n ei ddysgu a beth ddylai eu camau dysgu nesaf fod er mwyn cefnogi eu haddysg a’u lles.
Cyflymder a her disgwyliadau - mae’r broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin yn galluogi ymarferwyr ac ysgolion a lleoliadau i ystyried a yw eu disgwyliadau ar gyfer dysgwyr yn ddigon heriol a realistig.
Sut y dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd?
Ym mhob ysgol a lleoliad.
Ym mhob clwstwr - er mwyn cefnogi cydlynu dulliau o ymdrin â chynnydd rhwng gwahanol ysgolion cynradd, rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ac o ran cyfnodau pontio.
Lle mae’n bosibl, gan gynnwys ysgolion neu leoliadau eraill y tu hwnt i’r clwstwr. Dylai ysgolion uwchradd yn arbennig gymryd rhan mewn deialog broffesiynol ag ysgolion uwchradd eraill er mwyn cefnogi trefniadau cydweithio a chydlyniaeth ar draws darparwyr uwchradd.
Rhwng ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys trefniadau cydweithio rhwng ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion ac eraill sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol y mae ganddyn nhw gydberthnasau â nhw.
Ymateb a Myfyrio
Defnyddiwch y tabl Egwyddorion Cynnydd uchod yn ystod y myfyrdod hwn.
Ystyriwch 'llinyn' dysgu yr ydych wedi'i nodi o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Dyniaethau. 'Llinyn' dysgu yw'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a fydd yn rhedeg trwy'r continwwm dysgu 3-16.
Nesaf, ystyriwch yr egwyddorion cynnydd y gellid eu harsylwi trwy'r dysgu hwn.
Yn olaf, gan weithio mewn timau neu mewn clwstwr, trafodwch sut y gallai'r dysgwyr fod yn gwneud cynnydd yn y dysgu hwnnw gan ganolbwyntio ar yr egwyddor a nodwyd. Cofnodwch eich trafodaethau mewn tabl fel yr un isod.
Gweithgaredd
Enghraifft
Sut gallwn ni rannu ein dealltwriaeth o gynnydd?
Efallai y byddwch am ystyried y modd y byddwch yn cofnodi'r cynnydd hwn er mwyn gallu ei rannu ag eraill yn eich ysgol a'ch clwstwr.
Gallai'r ddelwedd isod fod yn un ffordd o gynrychioli'r cynnydd hwn. Yn yr enghraifft hon, 'llinyn' y dysgu a ddewiswyd yw achos ac effaith.
Gan ddechrau gyda dysgu cynnar, efallai y bydd y dysgwr yn dechrau deall yr effaith bersonol y mae’n ei chael ar ei amgylchedd neu ei ardal leol, ac yn datblygu’r ddealltwriaeth hon trwy archwilio a chwarae yn yr amgylchedd awyr agored. Bydd dysgu pellach yn adeiladu ar y ddealltwriaeth hon a gallai'r dysgwr ddechrau archwilio'r syniadau hyn ar raddfa genedlaethol ac mewn ffordd fwy haniaethol. Gallai hefyd roi sylw i'r rhyngweithio rhwng pobl a lle a lle a phobl. Yn ddiweddarach byddai'r dysgu hwn yn datblygu i allu cynnig esboniadau ar gyfer y rhyngweithiadau hyn, a gallai'r dysgwr gael profiadau fel y gellir deall y dysgu hwn ar ystod o raddfeydd ac o gyfnodau amser gwahanol. Daw'n fwy soffistigedig yn ei esboniadau, a dechrau gwneud cysylltiadau o fewn cyfnodau a lleoedd a rhyngddynt, gan nodi tebygrwydd a gwahaniaethau, newidiadau a pharhad. Yn y cylch olaf hwn gallwn weld y modd y gallai'r dysgwr 'nawr gynnig atebion a rhoi esboniadau sy'n disgrifio'r rhyng-gysylltiadau. Bydd yn gallu delio â gwybodaeth newydd a gwneud cysylltiadau ar draws ei ddysgu.
Rydym wedi defnyddio cylchoedd yn y gosodiad hwn i ddangos y modd y gall y dysgu adeiladu dros amser ar gyfer dysgwr unigol. Rydym hefyd wedi cyfeirio at y modd y gallai'r egwyddorion cynnydd fod yn berthnasol yma. Enghraifft yw hyn ac nid yw'n rhestr gyflawn.
Y camau nesaf
Myfyrio ar eich dealltwriaeth o gynnydd a’r modd y mae'n cael ei fynegi yn eich cwricwlwm
Adnabod llinynnau dysgu ac ystyried cynnydd ar hyd y llinellau hynny
Ystyried y modd y gallwch weithio gyda chyd-weithwyr yn eich ysgol ac yn eich clwstwr, a, lle bo hynny'n bosibl, gydag ysgolion tebyg eraill, i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd trwy gydol y cwricwlwm
Meddwl sut y gellid defnyddio’r ddealltwriaeth hon a’i rhannu ag eraill.