Beth ydym ni am i'n dysgwyr ei ddysgu a pham?

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm a arweinir gan ddibenion gyda ffocws ar ddysgu. Dywed Cwricwlwm i Gymru 'nad yw cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar gynnwys yn sicrhau dysgu ystyrlon, dim ond bod rhai pynciau yn cael sylw i ryw raddau'; rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddeall y newid o gynnwys i ddysgu ystyrlon. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi’r ymreolaeth i ysgolion ac ymarferwyr ddewis dysgu ar gyfer eu dysgwyr a ddylai eu galluogi i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.


Dylai fod diben clir i’r holl waith o ddatblygu’r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth glir o ddiben dysgu a pham mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn helpu i roi ffocws i’r gwaith o gynllunio cynnydd a dysgu ac addysgu.

Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm

Y newid o gynnwys i ddysgu

Y peth pwysicaf i'w ddeall am Gwricwlwm i Gymru yw ei fod yn cael ei lywio gan ddibenion ac mae hyn yn golygu bod y pwyslais yn symud o'r hyn y mae dysgwyr yn ei wybod i'r bobl y byddant yn tyfu i fod. Dylai cwricwlwm ysgol hyrwyddo dysgu a fydd yn arfogi pob dysgwr ar gyfer dysgu parhaus, gwaith a bywyd. Gyda'r newid yng Nghwricwlwm i Gymru yn symud o gynnwys i ddysgu, mae'n bwysig iawn bod gennym ddealltwriaeth dda o'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd.

Ymateb a myfyrio

Beth yw'r dysgu?

Dyma lun o gôr plant yn perfformio ar lwyfan mewn Eisteddfod. Heb gyfeirio'n benodol ar y cynnwys neu'r gweithgaredd, beth yw'r dysgu dwfn sy'n digwydd?

Gall rhai enghreifftiau o ddysgu gynnwys datblygu gwytnwch a hyder, sgiliau cyfathrebu, mireinio, dyfalbarhad, parch, perthyn neu amrywiaeth. Mae'r rhain yn enghreifftiau o ddysgu na all ddatblygu mewn un gweithgaredd neu mewn un wers; mae'n ddysgu y mae angen ei gyfoethogi a'i ddyfnhau, a'i drosglwyddo o un cyd-destun i'r llall dros gyfnod o amser.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu nodi mwy. Fodd bynnag, yr hyn a ddylai fod yn glir yw'r newid ffocws o'r dasg ei hun i'r dysgu ystyrlon. Gall y cwestiynau canlynol eich helpu i ddiffinio ac adnabod y dysgu wrth ddylunio eich cwricwlwm.

  • Beth yw'r dysgu yma?

  • Pam mae’r dysgu hwn yn bwysig i’n dysgwyr?

  • A yw'n eu galluogi i symud ymlaen tuag at y pedwar diben?

Sut ydyn ni'n mynd ati i ddewis dysgu ar gyfer ein cwricwlwm?

Sut ydyn ni’n penderfynu beth sydd angen i’n dysgwyr ei ddysgu?

Yn ystod y cyfnod ymgysylltu wrth ddatblygu’r cwricwlwm byddwch wedi ymgysylltu â deunyddiau’r cwricwlwm ac wedi cael amser i wneud synnwyr ohonynt. Mae’n bosibl bod ysgolion wedi diweddaru eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, ac awgrymir eich bod yn cyd-greu gweledigaeth ar gyfer dysgu, y gallech fod wedi’i hysgrifennu fel datganiad os oedd hynny’n ddefnyddiol, sy’n cyfleu’r hyn yr ydych ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr yn y Celfyddydau Mynegiannol.

Fe wnaethom awgrymu eich bod yn:

  • ceisio ysbrydoliaeth o'r pedwar diben a'u nodweddion,

  • cael dealltwriaeth ddyfnach o weledigaeth y Celfyddydau Mynegiannol a deall yr hyn sy’n newydd yn y canllawiau,

  • archwilio anghenion eich dysgwyr ac anghenion eich cymunedau,

  • ystyried pwysigrwydd y celfyddydau i gefnogi lles

Gallai’r weledigaeth hon ar gyfer dysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol fod yn fan cychwyn i chi ar gyfer dewis y dysgu.

Beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol?

Eich gweledigaeth ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol

Sut gall eich gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dysgu lywio eich dewis o ddysgu a nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu?

Ymateb a myfyrio

Ystyriwch sut y gall eich gweledigaeth fod yn fan cychwyn i chi ddechrau nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.

Mae eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn cynrychioli’r dyheadau ar gyfer eich dysgwyr ac felly mae angen ichi gyfeirio ati drwy gydol y broses ddylunio. Bydd dadansoddiad o’r weledigaeth yn nodi agweddau allweddol ar ddysgu y gallech ddewis eu treiddio trwy eich cwricwlwm ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol. Defnyddir gweledigaeth enghreifftiol, a grëwyd at ddiben y dasg hon, yn yr ymarfer ymateb a myfyrio isod.

Gan edrych ar yr enghraifft hon ar y dde, sy’n mynegi’r dyheadau ar gyfer dysgwyr yn y Celfyddydau Mynegiannol, gallwn ddewis elfennau o’r weledigaeth a llunio cwestiynau sy’n darparu’r sail ar gyfer datblygu elfen o ddysgu.

  • Sut gallwn ni ddatblygu creadigrwydd yn ein dysgwyr?

  • Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau fydd eu hangen ar ddysgwyr i fynegi eu hunain a fydd yn cefnogi eu gwytnwch, eu hyder a’u hunan-barch?

  • Pa brofiadau sydd eu hangen arnynt i werthfawrogi gwahanol ddiwylliannau, traddodiadau, treftadaeth a chymdeithasau?

  • Sut mae’r dysgu a nodwyd yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben?

Y weledigaeth ar gyfer ein dysgwyr yw iddynt fod yn greadigol, yn ddychmygus ac i ddatblygu hyder wrth fynegi eu hunain. Byddant yn archwilio, creu ac yn ymateb i'r celfyddydau fel artist ac fel y gynulleidfa a byddant yn datblygu gwytnwch, hyder a hunan-barch wrth iddynt wneud hynny.

Bydd pob dysgwr yn ennill gwerthfawrogiad o ddiwylliannau, traddodiadau, treftadaeth a chymdeithasau yng Nghymru ac yn y byd. Bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn darparu llwyfan i gefnogi lles ac ymgysylltu â materion sy'n codi ac yn paratoi i ddod yn ddinasyddion gweithredol yr 21ain ganrif.

Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Mae angen i bob ymarferwr fod yn ymwybodol o'r ffaith bod pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn cynnwys manylion sydd o dan ei 'deitl' pennawd ac yma y mynegir yr hyn a ddysgir ar gyfer y datganiad hwnnw. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn statudol yng Nghwricwlwm i Gymru. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym mhob maes dysgu a phrofiad yn gweithredu fel ‘lens’ ar gyfer archwilio gwahanol gynnwys, testunau a materion, gan roi hyblygrwydd i ymarferwyr nodi’r rhai sy’n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu hysgol neu leoliad a’u cymuned. Gyda'i gilydd maent yn cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm. Ategir y dysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol gan dri datganiad o’r hyn sy’n bwysig a dylid eu hystyried yn gyfannol wrth ddylunio cwricwlwm ysgol. Maent yn rhyngddibynnol, gyda phob un yn cefnogi datblygiad y ddau arall.

Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

Wrth archwilio’r Maes hwn trwy eu gwaith creadigol eu hunain a gwaith eraill, mae dysgwyr yn mynd i’r afael â genres, technegau, offer, deunyddiau a dulliau. Mae hyn yn eu galluogi i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol. Drwy archwilio ffurfiau a disgyblaethau yn y celfyddydau mynegiannol, boed drwy arbrofi, chwarae neu ymchwilio ac ymholi mwy ffurfiol, gall dysgwyr ddod i ddeall y ffordd y mae’r celfyddydau mynegiannol yn cyfathrebu drwy ddulliau gweledol, corfforol, geiriol, cerddorol a thechnolegol. Mae’r archwilio hwn hefyd yn dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae’r celfyddydau mynegiannol yn ffurfio syniadau a theimladau. Gall hyn eu hannog i feithrin eu dychymyg a thynnu ar eu profiadau, eu sgiliau a’u doniau er mwyn iddyn nhw ddod yn artistiaid creadigol eu hunain.Mae’r celfyddydau mynegiannol hefyd yn gyfrwng grymus y gall dysgwyr ei ddefnyddio i archwilio Cymru, ei thraddodiadau, ei hanes a’i diwylliannau unigryw ac amrywiol. Gallan nhw gynnig cyfle i ddysgwyr archwilio eu hetifeddiaeth ddiwylliannol eu hunain yn ogystal â rhai pobl, llefydd a chyfnodau eraill. Trwy hyn gallan nhw ddarganfod sut y gellir defnyddio’r celfyddydau mynegiannol i ffurfio a mynegi hunaniaeth bersonol, gymdeithasol a diwylliannol. Bydd dysgwyr yn cael edrych ar waith o ddiwylliannau a chymdeithasau amrywiol, gan ddysgu am eu dylanwadau, eu hanesion a'u heffaith. Gall dysgwyr hefyd edrych sut y gellir defnyddio'r celfyddydau mynegiannol i gwestiynu a herio safbwyntiau a bod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol.

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Mae ymateb o fewn y celfyddydau mynegiannol yn ysgogi ein hemosiynau a’n deall. Gall yr ymateb fod yn adwaith syml y synhwyrau i ysgogiad artistig, neu’n ddadansoddiad beirniadol o waith creadigol. Bydd y gallu i fyfyrio yn dyfnhau wrth i ddysgwyr gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o sut a pham y caiff gwaith creadigol ei ddatblygu a’i greu.Gall mabwysiadu’r sgiliau a’r eirfa feirniadol o fewn y Maes hwn alluogi dysgwyr i ystyried gwaith creadigol mewn amrywiaeth o gyfryngau, ffurfiau, genres ac arddulliau.Gall dysgu sgiliau dadansoddi pwysig o fireinio a dadansoddi gyfrannu at eu datblygiad creadigol.Yn ogystal, gellir datblygu gwydnwch dysgwyr wrth iddyn nhw gael eu hannog i adnabod sut y gallan nhw wella eu gwaith, ac ymateb i adborth gan eraill.Mae ymwneud â’r Maes hwn yn annog ymateb, ac mae hyn yn ysgogi dysgwyr i fyfyrio ar effeithiolrwydd eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, gan gynnwys gwaith artistiaid amrywiol o Gymru a thu hwnt.


Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Trwy ymwneud â’r Maes hwn, bydd cyfleoedd yn cael eu rhoi i ddysgwyr fod yn arloesol a beiddgar, i greu gwaith unigol ac i ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain fel artistiaid yng Nghymru. Gall y dysgu a’r profiad hwn feithrin gwydnwch a hyblygrwydd i oresgyn heriau.Mae creu yn y celfyddydau mynegiannol yn cwmpasu ystod o weithgareddau gan gynnwys cynllunio, drafftio, dylunio, gwneud, coreograffu, siapio, cyfansoddi a golygu. Mae creu yn gofyn i ddysgwyr ddatblygu a dangos rheolaeth ar ystod o sgiliau, a’r gallu i gymhwyso gwybodaeth.Yn ystod y broses greadigol mae dysgwyr yn cyfathrebu drwy amrywiaeth o ffurfiau a disgyblaethau celfyddydol. Mae cyfathrebu yn cynnwys perfformio, cyflwyno, rhannu, arddangos a chynhyrchu, gan ystyried y gynulleidfa.Yn y Maes hwn, wrth ymwneud â’r broses greadigol, gall dysgwyr adnabod cyfleoedd i drawsnewid eu syniadau, yn ddiogel ac egwyddorol, mewn i waith sydd â gwerth diwylliannol a masnachol, yn ogystal â defnyddio eu sgiliau creadigol i wireddu uchelgais.



Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn cynnwys pum disgyblaeth: celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol a cherddoriaeth. Er bod gan bob disgyblaeth ei gorff unigryw o wybodaeth a sgiliau, cydnabyddir eu bod gyda'i gilydd yn rhannu'r broses greadigol o archwilio, ymateb a chreu - y broses greadigol yw'r llinyn cyffredin.

Mae'r broses greadigol o archwilio, ymateb a chreu yn cael ei dangos yn glir trwy'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r ddealltwriaeth allweddol y mae’n rhaid i ddysgwyr ei datblygu ac mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd yn orfodol.

Cwricwlwm i Gymru: Y daith i weithredu'r cwricwlwm

Ymateb a myfyrio

Ar y dde mae tasg efallai yr hoffech ei gwneud fel maes dysgu neu fel ysgol i ddethol y dysgu a nodwyd yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i’r Celfyddydau Mynegiannol. Mae un ohonynt wedi'i wneud a'r dysgu a ddewiswyd wedi'i danlinellu; ydych chi'n cytuno â'r dysgu sydd wedi'i nodi? Nid yw'r dysgu a ddewiswyd yn ymwneud â chyd-destun, neu themâu, neu bynciau - mae'r dysgu a ddewiswyd yn eang ac yn eich arwain tuag at hanfod y dysgu a ddewiswyd. Mae’n caniatáu cynnydd a gellir ei ddefnyddio i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau disgyblaeth-benodol a bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

Bydd y gweithgaredd hwn yn eich cefnogi i nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu yn y datganiad hwn. Rydym yn awgrymu eich bod yn rhannu'ch gwaith gydag eraill yn eich hysgol ac yn cymharu eich syniadau gyda’ch cydweithwyr a rhoi syniadau at ei gilydd ar gyfer y dysgu yn eich cwricwlwm.

Ailadroddwch y broses gyda’r datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig, ac rydych yn siŵr o weld yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt, sy’n adlewyrchiad o ba mor gydgysylltiedig ydyn nhw.

Gallai creu tabl tebyg i’r enghraifft a ddarparwyd fod yn un dull ar gyfer y cam hwn o ddylunio’r cwricwlwm. Yn yr enghraifft hon gallwch nodi’n glir y dysgu a ddewiswyd o’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig a sut mae hyn wedi’i ddehongli i ystyried hanfod y dysgu hwnnw. Mae lle wedi'i ddarparu i'r ymarferwyr ystyried y wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau y mae angen i'w dysgwyr eu datblygu. Mae enghreifftiau wedi'u darparu ar sut y gallai'r dysgu hwn ddatblygu rhai o nodweddion y pedwar diben. Click on the image to download a copy.

Y camau nesaf

Fel eich camau nesaf rydym yn awgrymu'r canlynol:

  • Ailedrychwch ar eich gweledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad.

  • Dethol y dysgu o'ch gweledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad.

  • Dethol y dysgu o bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig.

  • Trafodwch y ffordd orau o gofnodi a chynrychioli'r dysgu rydych wedi'i ddewis.

  • Yn olaf, bydd yn bwysig eich bod yn rhannu eich dysgu gyda MDPh eraill.

Mae'n debyg y gwelwch fod pethau cyffredin yn y dysgu â MDPh eraill. Mae’r dysgu hwn yn cynnig cyfleoedd i gydweithio ac i adeiladu cysylltiadau ar draws y cwricwlwm er mwyn creu profiad dysgu cyfannol ac ystyrlon i’r dysgwr.

Mae’n bwysig eich bod yn buddsoddi amser gyda’ch gilydd fel timau i ddatblygu’r cam hwn o ddethol y dysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol ac ystyried y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cefnogi eich dysgwyr i symud ymlaen tuag at bedwar diben Cwricwlwm i Gymru.