Beth ydyn ni am i'n dysgwyr ei ddsygu a pham?
Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm a arweinir gan ddibenion gyda ffocws ar ddysgu. Dywed Cwricwlwm i Gymru 'nad yw cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar gynnwys yn sicrhau dysgu ystyrlon, dim ond bod rhai pynciau yn cael sylw i ryw raddau'; rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddeall y newid o gynnwys i ddysgu ystyrlon. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi’r ymreolaeth i ysgolion ac ymarferwyr ddewis dysgu ar gyfer eu dysgwyr a ddylai eu galluogi i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Dylai fod diben clir i’r holl waith o ddatblygu’r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth glir o ddiben dysgu a pham mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn helpu i roi ffocws i’r gwaith o gynllunio cynnydd a dysgu ac addysgu.
Y daith i weithredu’r cwricwlwm 2021
Y newid o gynnwys i ddysgu
Y peth pwysicaf i'w ddeall am Gwricwlwm i Gymru yw ei fod yn cael ei lywio gan ddibenion ac mae hyn yn golygu bod y pwyslais yn symud o'r hyn y mae dysgwyr yn ei wybod i'r bobl y byddant yn tyfu i fod. Dylai cwricwlwm ysgol hyrwyddo dysgu a fydd yn arfogi pob dysgwr ar gyfer dysgu parhaus, gwaith a bywyd. Gyda'r newid yng Nghwricwlwm i Gymru yn symud o gynnwys i ddysgu, mae'n bwysig iawn bod gennym ddealltwriaeth dda o'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd.
Ymateb a myfyrio
Dyma ddelwedd o’n rhanbarth y gellid ei defnyddio i ysgogi'r dysgu yn y Dyniaethau.
Mae Cwricwlwm i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr ganolbwyntio ar y dysgu, nid y cynnwys. Ystyriwch pa ddysgu a allai ddeillio o'r ysgogiad hwn. Ceisiwch symud eich syniadau o gynnwys, pynciau neu themâu i feddwl am y deilliannau dysgu. Ystyriwch y tri chwestiwn isod.
Beth yw'r dysgu yma?
Pam mae’r dysgu hwn yn bwysig i’n dysgwyr?
A yw'n eu galluogi i symud ymlaen tuag at y pedwar diben?
Sut ydyn ni'n mynd ati i ddewis dysgu ar gyfer ein cwricwlwm?
Sut ydyn ni’n penderfynu beth sydd angen i’n dysgwyr ei ddysgu?
Yn ystod y cyfnod ymgysylltu wrth ddatblygu’r cwricwlwm byddwch wedi ymgysylltu â deunyddiau’r cwricwlwm ac wedi cael amser i wneud synnwyr ohonynt. Mae’n bosibl bod ysgolion wedi diweddaru eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, ac awgrymir eich bod yn cyd-greu gweledigaeth ar gyfer dysgu, y gallech fod wedi’i hysgrifennu fel datganiad os oedd hynny’n ddefnyddiol, sy’n cyfleu’r hyn yr ydych ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr yn y Dyniaethau.
Fe wnaethom awgrymu eich bod yn:
ceisio ysbrydoliaeth o'r pedwar diben a'u nodweddion,
cael dealltwriaeth ddyfnach o weledigaeth y Celfyddydau Mynegiannol a deall yr hyn sy’n newydd yn y canllawiau,
archwilio anghenion eich dysgwyr ac anghenion eich cymunedau,
ystyried pwysigrwydd y celfyddydau i gefnogi lles
Gallai’r weledigaeth hon ar gyfer dysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol fod yn fan cychwyn i chi ar gyfer dewis y dysgu.
Beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu yn y Dyniaethau?
Eich gweledigaeth ar gyfer y Dyniaethau
Sut gall eich gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dysgu lywio eich dewis o ddysgu a nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu?
Ystyriwch sut y gall eich gweledigaeth fod yn fan cychwyn i chi ddechrau nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.
Mae eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn cynrychioli’r dyheadau ar gyfer eich dysgwyr ac felly mae angen ichi gyfeirio ati drwy gydol y broses ddylunio. Bydd dadansoddiad o’r weledigaeth yn nodi agweddau allweddol ar ddysgu y gallech ddewis eu treiddio trwy eich cwricwlwm ar gyfer y Dyniaethau. Defnyddir gweledigaeth enghreifftiol, a grëwyd at ddiben y dasg hon, yn yr ymarfer ymateb a myfyrio isod.
Ymateb a Myfyrio
Yn y weledigaeth enghreifftiol mae'r testun mewn print trwm yn amlygu'r dysgu posibl sydd wedi'i nodi yn y weledigaeth hon ar gyfer dysgu. Ar ôl i'r dysgu gael ei nodi, bydd angen cael trafodaeth sy'n cynnwys cwestiynau megis:
Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau y mae ar y dysgwyr eu hangen i feithrin ymdeimlad o ryfeddod?
Pa fath o brofiadau a fydd yn eu helpu i ddod yn gyfranwyr gweithredol?
Pa faterion pwysig sy'n wynebu dynoliaeth y bydd yn ofynnol i chi ganolbwyntio arnynt, a sut y byddwch yn cynllunio i feithrin eu dealltwriaeth o'r materion hyn?
Gallai'r weledigaeth ar gyfer dysgu fod yn fan cychwyn ar gyfer eich trafodaethau ar yr hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.
Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig
Mae angen i bob ymarferwr fod yn ymwybodol o'r ffaith bod pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn cynnwys manylion sydd o dan ei 'deitl' pennawd ac yma y mynegir yr hyn a ddysgir ar gyfer y datganiad hwnnw. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn statudol yng Nghwricwlwm i Gymru.
Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ym mhob maes dysgu a phrofiad yn gweithredu fel ‘lens’ ar gyfer archwilio gwahanol gynnwys, testunau a materion, gan roi hyblygrwydd i ymarferwyr nodi’r rhai sy’n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu hysgol neu leoliad a’u cymuned. Gyda'i gilydd maent yn cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Cyn edrych ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Dyniaethau, mae'n bwysig ystyried y berthynas rhwng y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Yn y Maes dylid ystyried eu bod yn deg ac aflinol, ac mae yna gydgysylltiadau amlwg rhwng y datganiadau. Golyga hyn na ddylid mynd i'r afael â'r datganiadau ar eu pen eu hunain. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm cyfannol ac felly gall y dysgu gwmpasu llawer o agweddau o nifer o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Dylai natur integredig y dysgu hefyd olygu y gellir mynd i'r afael ag agweddau ar ddatganiadau eraill o Feysydd eraill, a dyma lle bydd trosglwyddo a dysgu dyfnach yn digwydd. Wrth gynllunio ar gyfer y dysgu, byddem yn eich annog i ystyried pob un o'r 27 o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig.
Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r ddealltwriaeth allweddol y mae’n rhaid i ddysgwyr ei datblygu ac mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd yn orfodol.
Y daith i weithredu’r cwricwlwm 2021
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Ymateb a Myfyrio
Isod gwelwch un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn.
Mae'r dysgu wedi'i nodi trwy amlygu a thanlinellu ymadroddion allweddol ym mhob brawddeg. Ystyriwch yn ofalus a yw'r ymadroddion yn nodi'r dysgu neu'r deilliannau dysgu.
Bydd y gweithgaredd hwn yn eich cefnogi i nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu yn y datganiad hwn. Rydym yn awgrymu eich bod yn rhannu ac yn cymharu eich syniadau â'ch cyd-weithwyr, ac yn rhoi syniadau at ei gilydd ar gyfer y dysgu yn eich cwricwlwm.
Ewch trwy'r un broses ar gyfer y datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ac rydych yn sicr o weld pethau cyffredin rhyngddynt, sy'n adlewyrchiad o ba mor gydgysylltiedig ydynt. Byddwch hefyd yn dechrau gweld iaith gyffredin yn datblygu ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Cwestiynau allweddol i'w hystyried yn ystod y gweithgaredd hwn
Beth y mae angen i'ch dysgwyr ei wybod a'i ddeall?
Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau y mae eu hangen ar eich dysgwyr i ddatblygu'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis?
Pam y mae’r dysgu hwn yn bwysig a sut y mae’n galluogi eich dysgwyr i weithio tuag at y pedwar diben?
Gallai creu tabl tebyg i’r enghraifft a ddarperir fod yn un ffordd o ymdrin â'r cam hwn o gynllunio'r cwricwlwm. Yn yr enghraifft hon gallwch nodi’n glir y dysgu a ddewiswyd o’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig, a'r modd y mae hyn wedi’i ddehongli er mwyn ystyried hanfod y dysgu hwnnw. Mae lle wedi'i ddarparu i'r ymarferwyr ystyried yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau y mae angen i'w dysgwyr eu datblygu. Mae enghreifftiau wedi'u darparu o ran y modd y gallai'r dysgu hwn ddatblygu rhai o nodweddion y pedwar diben.
Mae'n hanfodol cofio wrth i chi ddatblygu eich cwricwlwm na ddylai datganiadau o'r hyn sy'n bwysig gael eu datblygu ar eu pen eu hunain.
Y camau nesaf
Fel eich camau nesaf rydym yn awgrymu'r canlynol:
Ailedrychwch ar eich gweledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad
Dethol y dysgu o'ch gweledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad
Dethol y dysgu o bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig
Trafodwch y ffordd orau o gofnodi a chynrychioli'r dysgu rydych wedi'i ddewis.
Yn olaf, bydd yn bwysig eich bod yn rhannu eich dysgu gyda MDPh eraill.
Mae'n debyg y gwelwch fod pethau cyffredin yn y dysgu â MDPh eraill. Mae’r dysgu hwn yn cynnig cyfleoedd i gydweithio ac i adeiladu cysylltiadau ar draws y cwricwlwm er mwyn creu profiad dysgu cyfannol ac ystyrlon i’r dysgwr.
Mae’n bwysig eich bod yn buddsoddi amser gyda’ch gilydd fel timau i ddatblygu’r cam hwn o ddethol y dysgu yn y Dyniaethau ac ystyried y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cefnogi eich dysgwyr i symud ymlaen tuag at bedwar diben Cwricwlwm i Gymru.