Beth sydd angen i’n dysgwyr ei ddysgu a pham?

Nod y gweithdy hwn yw eich cefnogi i ddethol y dysgu wrth i chi ddatblygu eich cwricwlwm Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn eich ysgol. Mae e wedi cael ei greu i ddilyn ein gweithdy blaenorol ar greu gweledigaeth wedi ei rannu ar gyfer dysgu yn y Maes hwn.

Bydd yn ystyried y canlynol:

  • Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm sy'n cael ei lywio gan ddibenion

  • y shifft o'r cynnwys i'r dysgu

  • sut i ddefnyddio eich gweledigaeth i ddethol y dysgu

  • sut i ddethol y dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

  • eich camau nesaf fel tîm.

Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm sy'n cael ei lywio gan ddibenion

Caiff Cwricwlwm i Gymru ei lywio gan y pedwar diben. Golyga hyn fod y pwyslais yn symud o’r hyn y mae’r dysgwyr yn ei wybod i’r bobl y byddant yn tyfu i fod. Dylai pob dysgu yn Cwricwlwm i Gymru felly alluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben hyn.

Mae fframwaith CiG yn rhoi yr ymreolaeth i ymarferwyr i ddethol y dysgu ar gyfer eu dysgwyr ac mae'r gweithdy hwn yn awgrymu sut allech chi fynd ati i benderfynu yr hyn sydd angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.

Y shifft o'r cynnwys i'r dysgu

Yn Cwricwlwm i Gymru, mae'r ffocws ar ddysgu yn disodli’r ffocws ar gynnwys. Wrth gynllunio cwricwlwm, felly, mae angen i ysgolion ofyn, Beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu? a Pam mae'r dysgu hwn yn bwysig?
Bydd y ddau gwestiwn hwn yn arwain at well ddealltwriaeth o'r hyn sydd wir yn bwysig mewn dysgu er mwyn cynllunio cwricwlwm a fydd yn galluogi dysgwyr i wireddu y pedwar diben.


'Dylai fod diben clir i’r holl waith o ddatblygu’r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth glir o ddiben dysgu a pham mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn helpu i roi ffocws i’r gwaith o gynllunio cynnydd a dysgu ac addysgu.'

Y daith i weithredu'r cwricwlwm, 2021

Dewch i ni archwilio’r hyn a olygir wrth y newid hwn o gynnwys i ddysgu trwy gymryd y weithgaredd yn y llun fel enghraifft. Gofynnwyd i'r dysgwyr hyn gymryd rhan mewn dadl ysgol ar bwnc dadleuol cyfredol, sy'n rhoi'r cynnwys i'r dasg hon.
Pe byddem yn gofyn i'n hunain, fodd bynnag, beth sydd wir yn cael ei ddysgu yma, gallem ddod i'r casgliad bod y dysgwyr yn dysgu sut i wella eu sgiliau cyfathrebu, sut i gydweithio, i ymgymryd ag ymchwil, i fyfyrio ar a mireinio eu dadleuon, i fod yn atebol i eraill, ac ati.

Dyma ddysgu na all ddigwydd mewn un dasg neu weithgaredd yn unig. Mae'n ddysgu sy'n eang ei gwmpas, ac sydd angen cael ei drosglwyddo a'i ehangu dros gyfnod o amser, a hynny mewn nifer o gyd-destunau gwahanol. Dyma'r math o ddysgu sy'n ofynnol i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru, ac felly wrth gynllunio'r dysgu, bydd angen i'n ffocws symud o'r cynnwys i'r dysgu ei hun.

Ymateb a myfyrio

Dyma ffotograff o eitem newyddion lle croesawodd y gymuned leol yn Arberth, Sir Benfro, grŵp o ymfudwyr i'r dref. Gellid ei ddefnyddio i ysgogi'r dysgu yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw’r dysgu yma ?

  • Pam mae’r dysgu hwn yn bwysig i’n dysgwyr?

  • Ydy e’n eu galluogi i weithio tuag at y pedwar diben?

Nod y tri chwestiwn uchod yw i symud ein ffocws o'r cynnwys i'r dysgu. Maent yn ddefnyddiol i bennu y 'beth' a'r 'pam' o'r dysgu. Dylai'r atebion eich arwain yn syth at weledigaeth CiG ac at eich gweledigaeth chi ar gyfer dysgu yn y Maes.

Sut i ddefnyddio eich gweledigaeth i ddethol y dysgu

Felly, 'nawr bod gennym well dealltwriaeth o'r math o ddysgu sy'n ofynnol yn Cwricwlwm i Gymru, y cwestiwn nesaf i'w ofyn yw, Sut y mae penderfynu ar yr hyn y mae angen i'n dysgwyr ei ddysgu?

Yn y gweithdy diwethaf, awgrymwyd eich bod yn ysgrifennu, gyda'ch gilydd, ddatganiad gweledigaeth sy'n cyfleu'r hyn y mae arnoch ei eisiau i'ch dysgwyr yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Er mwyn gwneud hyn, awgrymwyd eich bod yn gwneud y canlynol:

  • ceisio ysbrydoliaeth o'r pedwar diben a'u nodweddion,

  • meithrin dealltwriaeth ddyfnach o weledigaeth Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, a deall yr hyn sy'n newydd yn y canllawiau,

  • archwilio tirwedd ieithyddol eich dysgwyr ynghyd â'u hanghenion ac anghenion eich cymunedau

  • ac ystyried datblygiadau cymdeithasol a fydd â goblygiadau i ddysgu yn y Maes hwn.

Os ydych wedi datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu yn y Maes hwn, gall fod yn fan cychwyn ar gyfer dethol y dysgu yn eich cwricwlwm Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Ystyriwch yr hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu er mwyn gwireddu eich dyheadau ar eu cyfer a thrafodwch pam y mae'r dysgu hwn yn bwysig.

Ymateb a myfyrio

Dyma enghraifft wedi ei chreu. Defnyddiwch y cwestiynau isod i'ch harwain.

  • Beth sy'n ein gwneud yn ddefnyddwyr ieithoedd hyderus?

  • Pam y mae angen i'n dysgwyr fod yn ddefnyddwyr ieithoedd hyderus?

  • Beth y mae angen iddynt ei ddysgu i ddod yn ddefnyddiwr ieithoedd hyderus?

Ein gweledigaeth ar gyfer dysgwyr Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw bod pob unigolyn yn tyfu’n ddefnyddiwr ieithoedd hyderus sy'n cael ei gyffroi gan gyfoeth llenyddiaeth. Rydym am i'n dysgwyr fod yn ieithyddwyr uchelgeisiol nad oes arnynt ofn bod yn greadigol wrth ddysgu a defnyddio ieithoedd. Ein dymuniad yw y bydd ein dysgwyr yn dod yn ymholwyr wrth iddynt wneud cysylltiadau rhwng ieithoedd ac yn chwilio am gyfleoedd i’w hymarfer. Bydd ein dysgwyr yn cofleidio ieithoedd a diwylliannau eraill ac yn ymhyfrydu yn amrywiaeth ddiwylliannol ein cymuned.

Yn ystod y trafodaethau hyn, bydd y dysgu ar gyfer eich cwricwlwm yn dechrau dod i'r amlwg. Gallwch ddefnyddio yr un cwestiynau neu rai tebyg i durio yn ddyfnach i uchelgeisiau eraill yr wedi eu hamlinellu yn eich gweledigaeth, e.e. Beth yw ystyr bod yn chwilfrydig am ieithoedd? Pam mae hyn yn bwysig i'ch dysgwyr? Pa gyfleoedd sydd angen arnynt i ddod yn chwilfrydig am ieithoedd?

Sut i ddethol dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Mae pob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cynnwys sail resymegol sy'n gorwedd o dan ei bennawd, a dyma lle mynegir y dysgu ar gyfer y datganiad hwnnw. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn statudol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Gyda'i gilydd maent yn cyfrannu at gefnogi'r dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.


'Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r ddealltwriaeth allweddol y mae’n rhaid i ddysgwyr ei datblygu.'

Cwricwlwm i Gymru: Y daith i weithredu'r cwricwlwm

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd.

Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch.

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Mae'r pedwar datganiad yn y Maes hwn yn cyfeirio at Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Dylid eu hystyried yn gyfannol wrth gynllunio cwricwlwm eich cwricwlwm ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Maent yn gyd-ddibynnol, wrth i bob un gefnogi datblygiad y tri arall. Mae pob datganiad yn cydnabod y gall meithrin sgiliau a gwybodaeth mewn un iaith gefnogi dysgu ym mhob iaith ddilynol.

Dylai natur integredig dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru olygu y gellir cyfeirio at agweddau ar ddatganiadau o Feysydd eraill, a dyma lle bydd trosglwyddo dealltwriaeth a dysgu dyfnach, cysylltiedig yn digwydd. Wrth gynllunio'r dysgu, awgrymwn eich bod yn ystyried pob un o'r 27 datganiad o'r hyn sy'n bwysig.

Ymateb a myfyrio

Mae'r dysgu o fewn y datganiad Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd yn treiddio trwy yr holl ddysgu yn y Maes hwn ac mae felly yn fan cychwyn da ar gyfer dewis dysgu yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Myfyriwch ar y dysgu sy'n ofynnol o fewn y datganiad hwn, gan ddefnyddio y cwestiynau isod i arwain eich trafodaethau.

Beth sydd wir angen i’n dysgwyr ei wybod a’i ddeall?

Pa sgiliau a gwerthoedd sydd angen iddynt eu datblygu?

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd.

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â phobl, lleoedd a chymunedau. Mae’r Maes hwn wedi’i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr, fel dinasyddion Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog, yn gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill mewn cyd-destun lluosieithog. Mae profiadau dysgu iaith ystyrlon yn mynd law yn llaw â dysgu am ein hunaniaeth ddiwylliannol ein hunain yn ogystal â hunaniaeth ddiwylliannol pobl eraill. Gall ymwneud â’r Maes hwn felly feithrin balchder dysgwyr yn eu hymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn i Gymru yn ogystal â’r byd.

Drwy godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithoedd o oedran cynnar, y nod yw galluogi dysgwyr i adnabod tebygrwydd rhwng ieithoedd a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Gall dysgu a phrofiad yn y Maes hwn gefnogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o darddiad, esblygiad a nodweddion amrediad o ieithoedd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw i feithrin eu creadigrwydd, ynghyd â chyfres o sgiliau sy’n cynnwys sgiliau cyfryngu, hyblygrwydd ac empathi.

Ewch trwy'r un broses ar gyfer y datganiadau eraill, ac rydych yn sicr o weld pethau cyffredin rhyngddynt, sy'n adlewyrchiad o ba mor gydgysylltiedig ydynt.
Mae'n bwysig yw eich bod yn neilltuo amser gyda'ch gilydd yn eich timau i ddatblygu'r cam hwn o ddewis y dysgu yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a chytuno ar y wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sy'n ofynnol i wneud cynnydd yn y Maes hwn.

Eich camau nesaf fel tîm

Awgrymwn eich bod yn:

  • ailedrych ar eich gweledigaeth ar gyfer y MDPh

  • dethol y dysgu o'ch gweledigaeth ar gyfer y MDPh,

  • dethol y dysgu o bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig

  • trafod y ffordd orau o gofnodi a chynrychioli'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis

  • rhannu eich dysgu â'r Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill

Mae'n debyg y gwelwch fod yna elfennau sy'n gyffredin yn y dysgu nid yn unig ar draws y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn ILlaCh, ond ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill. Mae Cwrciwlwm i Gymru yn cynnig cyfleoedd i gydweithredu a meithrin cysylltiadau, er mwyn creu profiad dysgu cyfannol ac ystyrlon i'r dysgwyr wrth i chi eu cefnogi i wireddu y pedwar diben.​