Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

“Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu fframwaith deddfwriaethol i wella’r broses o gynllunio a chyflawni darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ganfod anghenion yn gynnar, rhoi cymorth a monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni’r deilliannau a ddymunir.Bydd y fframwaith cyfreithiol a sefydlir gan y Ddeddf hon yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi’r cwricwlwm i ddarparu ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles. Mae’r Fframwaith yn ceisio rhoi cyfle i ehangu dysgu, gan sicrhau bod pob dysgwr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni ei botensial llawn.”

Canllawiau Cwricwlwm i Gymru Ionawr 2020

Egwyddorion allweddol

  • Bydd Sefydliadau Dysgu Effeithiol sy’n gynhwysol yn gwneud y canlynol:

  • Nodi ac archwilio nifer y dysgwyr sydd ag ADY, ynghyd â’r mathau o ADY.

  • Defnyddio ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau bod dysgwyr wrth galon y dysgu er mwyn cyflawni’r hyn ‘sy’n bwysig iddynt ac ar eu cyfer’.

  • Meddu ar weledigaeth glir o ran y modd y mae’r cwricwlwm yn bodloni holl anghenion y dysgwyr, yn seiliedig ar y pedwar diben. Meddu ar ddealltwriaeth gytunedig o’r hyn y maent yn ei olygu ar gyfer dysgwyr ag ADY.

  • Defnyddio amrywiaeth o addysgeg briodol yn seiliedig ar y deuddeg o egwyddorion addysgegol. Darparu cyfleoedd dysgu sydd wedi’u gwahaniaethu mewn modd addas ac sy’n cyd-fynd ag anghenion y dysgwyr.

  • Cydweithredu â phartneriaid i greu ymagweddau cyfannol at ddysgu, gan gynnwys ysgolion eraill, asiantaethau perthnasol a gweithwyr proffesiynol ehangach.

  • Sicrhau profiad ymarferol a chyd-destunau dysgu dilys sy’n arwain at ddysgu ystyrlon.

  • Darparu manylion am amrywiaeth gyfoethog o ymyraethau targededig yn eu map darpariaeth, gan gynnwys y rheiny sy’n barhaus dros amser (nad ydynt yn gysylltiedig â disgybl/charfan benodol) ac sy’n debyg i’r rhai mewn ysgolion eraill. Ystyrir darpariaeth o’r fath yn rhan o’r broses wahaniaethu ar lefel yr ysgol/y dosbarth.

Ystyriaethau allweddol:

  1. Pa dystiolaeth sydd ar gael bod ein holl staff yn rhannu dealltwriaeth o Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a sut i lunio Proffiliau Un Dudalen?

  2. Sut y mae ein staff yn cyfrannu at y broses o adeiladu’r Cwricwlwm ac yn gwerthfawrogi eu dylanwad ar y broses honno?

  3. Sut yr ydych yn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at bob MDPh, er enghraifft:

  4. Dysgwyr â nam ar y golwg, disgyblion â nam ar y clyw, disgyblion byddar-ddall?

  5. Dysgwyr ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)?

  6. Dysgwyr ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)?

  7. Dysgwyr ag anawsterau cyfathrebu, lleferydd ac iaith?

  8. Dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog?

  9. Beth y mae’r pedwar diben yn ei olygu ar gyfer ein dysgwyr ag ADY? Sut y gallwn feithrin dealltwriaeth o hyn sy’n cael ei rhannu ymhlith y disgyblion a’r staff?

  10. Sut yr ydym yn sicrhau bod yr holl staff yn deall bod asesu yn rhan annatod o’r broses o gynllunio’r cwricwlwm, ac mai ei ddiben trosfwaol yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd?

  11. Sut yr ydym wedi meithrin dealltwriaeth o’r 12 o egwyddorion addysgegol, ac i ba raddau y mae’r staff yn cydnabod bod y rhain yn darparu tegwch ar gyfer yr holl ddysgwyr?

  12. Sut yr ydym yn sicrhau bod gan y staff yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol i’r modd yr ydym yn darparu cymorth ymarferol yn yr ystafell ddosbarth er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion ymhlith y dysgwyr?

  13. Sut yr ydym yn sicrhau bod penderfyniadau strategol yn berthnasol i’r hyn sy’n gweithio/nad yw’n gweithio o ran ein map darpariaeth – ymyraethau ar gyfer amrywiaeth o ddysgwyr?

  14. Pa gyfleoedd dysgu proffesiynol yr ydym wedi eu darparu ar gyfer y staff er mwyn cymryd rhan mewn ymchwil i wella eu sgiliau i ddarparu profiadau addysgu a dysgu cynhwysol?