Cydweithio

Mae cydweithio yn cynnwys cysylltu â phobl eraill i gyfnewid syniadau, profiadau ac arferion sy’n hwyluso gwell dysgu. Mae cydweithio yn arwain at ymdeimlad gwirioneddol o gyfrifoldeb ar y cyd am ddatblygiad y dysgwyr yng nghyd-destun y pedwar diben.

Egwyddorion Allweddol

  • Mae cydweithio yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol, a dylid mynd ati’n fwriadol i’w hyrwyddo yn yr ysgol, yng nghymuned ehangach yr ysgol, a’r tu hwnt.

  • Mae aelodau tîm yr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd i dderbyn newid, rhannu adnoddau a chefnogi ei gilydd wrth iddynt lunio cwricwlwm sy’n diwallu anghenion pob dysgwr ac sy’n ddilys i’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

  • Mae cydweithio effeithiol yn galluogi’r ysgol i ymdrin â dysgu mewn modd amlddisgyblaethol. Mae adrannau a disgyblaethau yn cydweithio i sefydlu cysylltiadau dwfn yn y dysgu.

  • Mae cydweithio yn un o’n hegwyddorion addysgeg allweddol yn yr ystafell ddosbarth, sy’n galluogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth.

  • Mae cynnwys disgyblion yn y broses o wneud penderfyniadau am eu dysgu yn sicrhau bod ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar y dysgwr. Mae yna sawl ffurf ar hyn, ac mae’n golygu bod disgyblion yn ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb wrth iddynt symud trwy ein hysgol. 

Ystyriaethau allweddol:

  1. Sut yr ydym yn cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd lle mae pob aelod o’n tîm ysgol yn cydweithio ag eraill?

  2. I ba raddau yr ydym yn dyrannu amser i’n staff gydweitho fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus?

  3. Ym mha fodd yr ydym yn cryfhau gweithgareddau cydweithredol fel ein bod yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd am gynnydd pob dysgwr?

  4. Ym mha fodd yr ydym yn defnyddio dulliau cydweithredol i ddarparu cwricwlwm cyfannol sy’n dyfnhau dysgu ac yn galluogi trosglwyddiad?

  5. Pa strategaethau yr ydym yn eu defnyddio i baratoi dysgwyr i berchnogi eu cynnydd eu hunain fwyfwy?