Meddwl am Ddethol y Dysgu

Ar ôl datblygu gweledigaeth a nodi’r nodweddion perthnasol yn y pedwar diben, mae angen i ysgolion yn awr benderfynu pa dysgu hanfodol sydd angen cyflawni. Dylent ddefnyddio’r 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig i lywio’r broses ddethol hon a hefyd ystyried pa gyd-destun y gellir ei ddefnyddio i fframio’r weledigaeth, y pedwar diben cysylltiedig, y dilyniant dymunol a’r dysgu a ddewiswyd.

Mae'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i dysgu, ac maen nhw’n darparu'r un disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.

Canllawiau Cwricwlwm i Gymru

Mae’r arweiniad yn nodi’n glir mewn mwy nag un lle. y dair agwedd sy’n allweddol i ddatblygu cwricwlwm yn lleol ac i ddethol dysgu. Yr agweddau hyn yw: datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu.

  • Ceir 27 datganiad o'r hyn sy’n bwysig i gyd ac mae’r rhain yn cynrychioli cyfanswm yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei wybod a’i ddeall pan fyddant yn gadael addysg orfodol. Dyma hanfodion pob Maes a rhaid i’r holl ddysgu gysylltu’n ôl â nhw.

  • Mae’r disgrifiadau dysgu yn lleisio sut y dylai dysgwyr symud ymlaen o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.

  • Cânt eu trefnu’n bum cam cynnydd sy’n ffurfio’r continwwm dysgu. Mae egwyddorion cynnydd yn rhoi lefel uwch o ddealltwriaeth i ymarferwyr o sut mae dysgwyr yn symud ymlaen.

Bydd yr elfennau hyn yn cael eu defnyddio gyda'i gilydd i lywio dysgu, addysgu ac asesu. Bydd y cam hwn yn canolbwyntio ar y cyntaf o’r tair elfen hyn ac yn ystyried sut y gall y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ein helpu i nodi’r hyn y mae angen i’n dysgwyr ei ddysgu.

Egwyddorion Allweddol

  • Mae'r ffocws ar y dysgu ac nid y cynnwys.

  • Mae'r holl ddysgu yn cefnogi datblygiad y pedwar diben.

  • Mae dysgu yn datblygu’r dyheadau a’r uchelgeisiau a nodir yn y weledigaeth.

  • Mae cwmpas y dysgu yn eang ac nid yw'n rhwym i gyd-destunau penodol.

  • Mae dysgu yn ymgorffori'r cysyniadau, syniadau ac ymholiadau allweddol o fewn disgyblaeth neu faes.

  • Mae dysgu yn ysgogi meddwl dwfn, trafodaeth, ymholiad, dealltwriaeth newydd a chwestiynau newydd.

  • Mae dysgu yn caniatáu ar gyfer ailddigwydd a throsglwyddo i gyd-destunau eraill.

  • Dylid dysgu dros amser a defnyddio dulliau asesu lluosog.

Ystyriaethau allweddol:

  1. Ble ydyn ni yn y broses gynllunio?

  2. Beth yw ystyr symud o gynnwys i ddysgu?

  3. Sut gall y canllawiau ein helpu i gynllunio ein cwricwlwm?

  4. Sut mae mynd ati i benderfynu beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu?

  5. Beth yw’r camau nesaf i ni fel tîm?

Adnodd:

🌐 PDF o Is/isn't ?

I gael cymorth penodol ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad a gwybodaeth ar ddethol dysgu, cliciwch ar y ddolen briodol isod.