"Mae Gordon Ramsey, Heston Blumenthal a'r holl gogyddion byd-enwog eraill yn eu cael hi lawer yn haws nag athrawon. Mae ganddyn nhw'r moethusrwydd o ddewis rysáit sengl i wneud dysgl berffaith. Waeth faint fyddai athrawon (a llunwyr polisi) yn ei hoffi i fodyn wir, does y fath beth â rysáit sy'n gweithio ym mhob amgylchiad mewn byd addysg yn bodoli."

Dr. Pedro De Bruyckere (Gwyddonydd Addysg ac Awdur)

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yw addysgeg?

  • Pe byddech yn ysgrifennu datganiad yn egluro addysgeg, beth fyddech yn ei ysgrifennu?

Mae addysgeg yn cwmpasu mwy na'r 'addysgu' sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'n ymwneud â dewis y dulliau hynny mewn modd meddylgar yng nghyd-destun dibenion y cwricwlwm, ac anghenion a cham datblygu'r plant a'r bobl ifanc.

Mae'n gofyn am gyfuno gwybodaeth a sgiliau damcaniaethol ac ymarferol â dealltwriaeth fanwl o'r hyn y mae ei angen i hyrwyddo dysgu effeithiol mewn cyd-destunau penodol.

Yn ei hanfod, mae addysgeg wrth wraidd yr hyn sy'n gwneud athro rhagorol.


Mae addysgeg wrth wraidd y cwricwlwm.

Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddynt eu rhoi ar waith i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben.

Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n rhoi ystyriaeth i 'pam' a 'sut', yn ogystal â 'beth’.

Mae hyn yn golygu ein bod yn chwilio am hanfod y dysgu yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â hanfodion cynnwys (gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei haddysgu), ond yn bennaf mae'n ymwneud â'r broses ddysgu a chymhwyso dysgu (y modd yr ydych yn addysgu a pham y mae angen i ddysgwyr ddeall yr wybodaeth hon), gan fyfyrio bob amser a symud dysgwyr ymlaen tuag at y pedwar diben.

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yw eich gweledigaeth o ran dysgu ac addysgu?

  • Beth yw'r gwahaniaethau mewn cwricwlwm sy'n seiliedig ar ddatblygu'r dibenion yn ein dysgwyr yn hytrach na deilliannau?

Yr Egwyddorion Addysgegol

Bydd angen i ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a thrylwyr o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddynt. Caiff y broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ei hategu gan ddeuddeg o egwyddorion addysgegol, sy'n datgan bod dysgu ac addysgu da yn …

  1. canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm

  2. rhoi her i’r holl ddysgwyr trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gyflawni disgwyliadau sy'n uchel, ond sydd o fewn eu cyrraedd

  3. defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys addysgu uniongyrchol

  4. defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol, a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol

  5. golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb

  6. creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu

  7. dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu

  8. ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd

  9. atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer

  10. annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain

  11. hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol

  12. hybu cydweithio.

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yr ydych yn ei wneud / gallech ei wneud i hyrwyddo ac ymgorffori'r 12 egwyddor addysgegol?

  • Pa un neu rai o'r egwyddorion hyn sydd fwyaf effeithiol yn eich ysgol?

  • A yw'r dulliau addysgegol yn amrywio o un maes dysgu i'r llall?

  • Sut y bydd eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn adlewyrchu'r deuddeg egwyddor addysgegol?

  • Pa amgylchedd dysgu y mae angen i chi ei greu i gefnogi eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn llawn?

Rhaglen dysgu proffesiynol ar-lein yw Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth, wedi'i seilio ar y 12 egwyddor addysgegol. Dyluniwyd y rhaglen gan athrawon ar gyfer athrawon, gyda'r nod o ddarparu'r canlynol i athrawon ac arweinwyr:

  • Y sgiliau i amlygu lefel uwch o ddealltwriaeth o'r 12 o egwyddorion addysgegol a nodir yn nogfennaeth canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru.

  • Y ddealltwriaeth i gydweithio'n effeithiol â chyd-weithwyr yn eu hysgol eu hunain ac mewn ysgolion eraill er mwyn codi safonau.

  • Y gallu i greu ethos rhagweithiol yn yr ysgol, lle mae dealltwriaeth ddyfnach o werthoedd ac egwyddorion sylfaenol addysgeg yn llywio arfer ystafell ddosbarth ac yn dylanwadu ar ein holl ddulliau o addysgu ar gyfer ein dysgwyr.

Mae'r Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth yn rhoi'r offer i athrawon archwilio egwyddor addysgegol yn fanwl, myfyrio ar ymchwil, ac ystyried sut y gellid defnyddio'r wybodaeth a'r adnoddau a gyflenwir i gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.