Y Pedwar Diben
Mae’r pedwar diben wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru. Maent yn cynrychioli ein dyheadau a’n huchelgeisiau ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru, er mwyn iddynt allu dod yn:
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu trwy gydol eu hoes
cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywydau gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Yr Egwyddorion Allweddol
Mae’r pedwar diben yn sbarduno’r newid ar bob lefel yn ein hysgol, gan ddarparu’r weledigaeth fewnol ar gyfer dylunio a datblygu ein cwricwlwm.
Dylai pob aelod o gymuned yr ysgol rannu dealltwriaeth o sut a pham y mae’r pedwar diben yn gosod sylfaen gadarn i’r holl weithgareddau dysgu yn yr ysgol.
Mae’r pedwar diben yn golygu bod angen datblygu ymagwedd holistaidd at ddysgu ac felly maent yn annog cydweithio, cydweithredu a rhannu profiadau ac arferion.
Ystyriaethau allweddol:
A yw’r pedwar diben yn cael eu hadlewyrchu yn ein gweledigaeth?
A ydym wedi darparu cyfleoedd i’n staff, ein dysgwyr a’n cymuned ymgysylltu â’r pedwar diben er mwyn deall y goblygiadau i’r dysgu yn ein hysgol?
I ba raddau y mae ein staff yn defnyddio’r pedwar diben fel man cychwyn wrth gynllunio ar gyfer dysgu a chynnydd?
I ba raddau ydym yn deall holl nodweddion y pedwar diben?
A ydym wedi ystyried y sgiliau cyfannol sy’n hanfodol i’r pedwar diben?