Pam y mae addysgeg yn bwysig i alluogi'r ysgol i wireddu ei gweledigaeth?

Addysgeg yw’r dull a’r arfer o addysgu sy’n seiliedig ar ddamcaniaethau dysgu ac ar ddealltwriaeth o anghenion a diddordebau dysgwyr. Mae addysgeg effeithiol yn galluogi’r ysgol i wireddu ei gweledigaeth.

Egwyddorion Allweddol

  • Dylai ysgolion ystyried eu hegwyddorion addysgeg wrth gynllunio eu cwricwlwm gan eu bod yn greiddiol i wireddu’r pedwar diben.

  • Mae amrywiaeth o ddulliau addysgegol yn darparu tegwch ac yn arwain at yr ymgysylltiad a’r cynnydd gorau posibl ar gyfer pob dysgwr.

  • Mae addysgeg amrywiol a pherthnasol yn cefnogi holl ddysgwyr i ymaddasu i gymdeithas sy’n newid yn gyflym.

  • Mae gan addysgeg effeithiol y gallu i gyffroi ac ysbrydoli dysgwyr i ddymuno dysgu, ynghyd a’u galluogi i ddysgu mewn modd annibynnol trwy gydol eu bywydau.

Ystyriaethau allweddol:

  1. A oes gan y staff ddealltwriaeth glir o pam y mae addysgeg yn greiddiol i wireddu’r pedwar diben?

  2. I ba raddau y mae’r staff yn cydnabod y modd y mae amrywiaeth o ddulliau addysgegol yn darparu tegwch ar gyfer pob dysgwr?

  3. Beth yr ydym ni, y staff, yn ei ddeall am y cysylltiad rhwng addysgeg, asesu a chynnydd pob dysgwr?

  4. Pam y mae’n bwysig i ni yn yr ysgol barhau i archwilio dulliau ac arferion addysgu newydd?

Sut yr ydym yn mynd ati i baratoi ein staff i ddeall yr ystod lawn o ddulliau addysgegol effeithiol er mwyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd?

"Mae’r athro wrth gwrs yn arlunydd, ond nid yw bod yn arlunydd yn golygu y gall e neu hi wneud y proffil, siapio’r myfyrwyr. Beth mae addysgwr yn ei wneud wrth addysgu yw galluogi myfyrwyr i fod eu hunain."

Paulo Freire

Ystyriaethau allweddol:

  1. A oes gan yr holl staff ddealltwriaeth eglur o’r egwyddorion addysgegol sydd wrth wraidd y dysgu a’r addysgu yn ein hysgol?

  2. Sut yr ydym yn yr ysgol yn darparu digon o gyfleoedd i’n staff ddatblygu eu dealltwriaeth o addysgeg effeithiol?

  3. Sut y gallwn ddyrannu amser i fyfyrio ar anghenion dysgu proffesiynol mewn perthynas ag addysgeg, a’u nodi?

  4. A ydym yn darparu cyfleoedd i staff ddatblygu addysgeg trwy gydweithio, gwaith ymchwil, neu ymchwil weithredol?

  5. A ydym wedi ystyried yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i’n dysgwyr, ac a yw’n ymatebol i’w hanghenion mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang?

  6. Sut yr ydym yn defnyddio ein dealltwriaeth o ddatblygiad gwybyddol plant a’n gwybodaeth am anghenion a diddordebau ein holl ddysgwyr i ddewis addysgeg addas?

Addysgeg yw’r dull a’r arfer o addysgu sy’n seiliedig ar ddamcaniaethau dysgu a dealltwriaeth o anghenion a diddordebau dysgwyr. Mae dewis addysgeg effeithiol yn cynnwys ystyried yr hyn sy’n bwysig i’r dysgwyr mewn ysgol, a chynllunio ar gyfer dysgu dwfn, cofiadwy a throsglwyddadwy.

Egwyddorion Allweddol

  • Dylai’r holl staff gael cyfle i archwilio’r addysgeg sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu nodweddion y pedwar diben.

  • Dealltwriaeth o ddatblygiad gwybyddol yw’r sylfaen ar gyfer dewis dulliau addysgeg ar gyfer dysgwyr a chyd-destunau gwahanol.

  • Mae angen ystyried datganiadau yr hyn sy’n bwysig a’r egwyddorion cynnydd wrth ddatblygu dulliau addysgeg addas ar gyfer cyd-destun ysgol.

  • Mae’n ofynnol cael addysgeg sy’n arwain at ddysgu dwfn dros amser er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo dealltwriaeth, sgiliau a gwybodaeth.

  • Dylai fod gan ymarferwyr ddealltwriaeth o’r ymagwedd holistaidd at ddysgu a chynnydd, sy’n annog ymarfer myfyriol a galluogedd dysgwyr.