Cynnydd mewn dysgu yn Iechyd a Lles

'… rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.'

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gosod y dysgwr wrth wraidd y broses gynllunio. Mae'r dyfyniad hwn o'r canllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd deall sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd a sut mae'r ddealltwriaeth hon yn fan cychwyn i ysgolion wrth iddynt gynllunio cwricwlwm ar gyfer eu dysgwyr. Er mwyn cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ar hyd y continwwm dysgu, mae angen i ymarferwyr ddatblygu cy-ddealltwriaeth o gynnydd.

Bydd y gweithdy hwn yn mynd i'r afael a'r pedwar cwestiwn isod, sy'n dod yn uniongyrchol o'r canllawiau 'Cefnogi cynnydd dysgwyr' sydd ar gael ar Hwb ac sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru i'ch arwain wrth i chi gynllunio cwricwlwm eich ysgol.

  • Beth yw cynnydd?

  • Beth yw cyd-dealltwriaeth o gynnydd?

  • Pam mae cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn bwysig?

  • Sut dylai ysgoion a lleoliadau ddatblygu y gyd-ddealltwriaeth hon?

Mae'n ofynnol yn y Cwricwlwm i Gymru i ddeall cynnydd mewn dysgu cyn symud ymlaen i drafodaethau ar sut fydd y dysgu yn cael ei asesu.

Beth yw cynnydd?

Ymateb a myfyrio

Yn eich tîm, ysgol, neu yn eich clwstwr, meddyliwch am sut y gallech ddiffinio cynnydd ar gyfer :

  1. Eich dysgwyr

  2. Cynllun eich cwricwlwm

Ystyriwch hefyd ym mha ffyrdd yr hoffech weld dysgwyr yn gwneud cynnydd.

Gellir diffinio cynnydd fel:

  • Symud ymlaen

  • Yn gwella

  • Datblygu dyfnder ac ehangder mewn dysgu

  • Cynyddu soffistigeiddrwydd

  • Trosglwyddo a chymhwyso

Gan ein bod bellach wedi rhannu ein meddyliau ar yr hyn a olygwn wrth gynnydd, mae'n bwysig bod yn glir ar yr hyn yr hyn yr ydym eisiau i'n dysgwyr wneud cynnydd ynddo.

Os ydym am i'n dysgwyr gael mynediad at amrywiaeth o gymorth i reoli eu llesiant meddyliol ac emosiynol, mae hynny'n cynyddu'r hyn y maent yn ei wybod, ac mae hynny'n wybodaeth. Os ydym am iddynt fod yn ymwybodol o'r modd y mae hunanddelwedd yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant, byddai hynny'n golygu amlygu cynnydd o ran eu dealltwriaeth. Os ydym am iddynt wella'r ffordd y maent yn cyfathrebu sut y maent yn teimlo, a gofyn am help pan fo angen, byddai hynny'n golygu gwella'r hyn y gallant ei wneud, sy'n golygu gwneud cynnydd o ran sgiliau.

Gallwn weld y pwyntiau hyn yn amlwg wedi’u nodi yn y diffiniad o gynnydd fel y’i nodir yng nghanllawiau CiG. Felly, wrth gynllunio ar gyfer dysgu byddwn yn cefnogi ein dysgwyr i gynyddu eu gwybodaeth, i ddyfnhau dealltwriaeth ac i wella eu sgiliau ond gallwn hefyd eu helpu i ddatblygu eu galluoedd, eu priodwedddau a’u hagweddau.

Bydd dysgwyr, felly, yn gwneud cynnydd mewn:

  • gwybodaeth

  • dealltwriaeth

  • sgiliau

  • Eu gallu

  • Eu priodweddau a'u hagweddau


'Mae cynnydd yng nghyd-destun dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth yw ystyr gwneud cynnydd mewn maes penodol neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau.'

Cwricwlwm i Gymru

Beth yw 'dealltwriaeth gyffredin o gynnydd’?

Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn golygu bod ymarferwyr, gyda’i gilydd yn eu hysgol neu leoliad, ar draws eu clwstwr, a chydag ysgolion eraill y tu hwnt i’w clwstwr, yn archwilio, yn trafod ac yn deall y canlynol gyda’i gilydd:

  • eu disgwyliadau ar y cyd o ran sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd a pha wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ddylai gyfrannu at hyn yng nghwricwla’r ysgolion a’r lleoliadau;

  • sut i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr gydol eu taith ddysgu ac yn arbennig yn ystod cyfnodau pontio;

  • sut mae eu disgwyliadau ar gyfer cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill.

Pam mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn bwysig i'ch cwricwlwm?

Mae sicrhau bod ymarferwyr yn deall y cynnydd y maen nhw am i ddysgwyr ei wneud gydol eu haddysg, a sut i roi hyn ar waith mewn ffordd gydlynol ym mhob rhan o’u hysgol a’u clwstwr, yn hanfodol er mwyn sicrhau:

  • Cydlyniaeth – Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ymhlith ymarferwyr mewn ysgol, lleoliad neu ar lefel clwstwr yn helpu i sicrhau bod profiadau dysgwyr yn gydgysylltiedig, yn ddilys ac yn berthnasol, ac hefyd yn helpu i nodi sut i ddilyniannu dysgu’n effeithiol.

  • Cyfnodau pontio llyfn – mae dealltwriaeth gyffredin ar draws clwstwr yn sicrhau’r cyfnodau pontio gorau posibl o fewn a rhwng lleoliadau ac ysgolion cynradd ac ysgolion cynradd ac uwchradd i ddysgwyr, gan y bydd sefydliadau yn deall sut a beth mae dysgwyr wedi bod yn ei ddysgu ac y byddan nhw’n ei ddysgu a beth ddylai eu camau dysgu nesaf fod er mwyn cefnogi eu haddysg a’u lles.

  • Cyflymder a her disgwyliadau – mae’r broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin yn galluogi ymarferwyr ac ysgolion a lleoliadau i ystyried a yw eu disgwyliadau ar gyfer dysgwyr yn ddigon heriol a realistig.

Beth yw rol y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu?

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau dysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i ddysgu ac yn darparu’r un disgwyliadau uchel i bob dysgwr.

Cwricwlwm i Cymru


Mae'r tri yn sail i ddysgu ac yn darparu'r un disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr ledled Cymru.

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylid eu defnyddio yn y drefn ganlynol, fel y maent yn ymddangos yn y canllawiau:

  • y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ( mandadol)

  • yr egwyddorion cynnydd ( mandadol)

  • y dysgrifiadau dysgu ( nid yn fandadol)

Pan fyddwn yn penderfynu beth y mae angen i'n dysgwyr ei ddysgu, byddwn yn cyfeirio at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Maent yn orfodol ac yn crynhoi'r dysgu y mae ei angen i wireddu'r pedwar diben.

Pan fyddwn am ddeall cynnydd yn y dysgu hwn yn ILlaCh, rydym yn cyfeirio at yr Egwyddorion Cynnydd. Maen nhw hefyd yn orfodol.

Mae'r disgrifiadau dysgu yn ddefnyddiol fel arwyddbyst i ddangos sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn gwahanol linynnau dysgu o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.

Ble ydym yn dechrau datblygu'r gyd-ddealltwriaeth o gynnydd?

Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu, mae angen i ni ddechrau gyda'r Egwyddorion Cynnydd.

Yr Egwyddorion Cynnydd

Mae'r egwyddorion cynnydd yn creu gofyniad gorfodol o ran yr hyn y mae’n rhaid i gynnydd ei olygu i ddysgwyr. Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:

  • ddeall beth yw ystyr cynnydd a’r hyn y bydd yn ei olygu ym mhob Maes

  • datblygu’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu er mwyn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir

  • datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud.

O edrych ar y datganiadau hyn yn fanylach, gallai fod yn fuddiol symleiddio'r iaith a myfyrio ar eu hystyr. Mae'r golofn ar y dde yn cynnig un dehongliad o'r egwyddorion. Bydd rhannu'r ddealltwriaeth hon a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol ar draws yr ysgol a rhwng ysgolion yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gyffredin ac iaith gyffredin o ran cynnydd.

Datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd

Cefnogir pob egwyddor cynnydd gan sail resymegol, sy'n esbonio ymhellach yr hyn a olygir wrth gynnydd yn y Maes hwn. Mae'r rhain yn cwmpasu'r continwwm cyfan rhwng 3-16 oed. Dyma lle y gallwn ganfod yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu i'r Maes cyfan. Wrth i chi ddarllen trwy bob Egwyddor Cynnydd yn ei thro, efallai y byddwch yn dechrau nodi ymadroddion ac iaith allweddol sy’n helpu i nodi sut olwg allai fod ar gynnydd mewn dysgu. Bydd amlygu neu danlinellu ymadroddion allweddol ym mhob un o’r egwyddorion, mewn timau neu mewn clystyrau, yn helpu i ddechrau'r broses o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.

Cliciwch ar y gwymplen isod i weld naratif pob un o'r egwyddorion yn Iechyd a Lles.

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr - Effeithiolrwydd

Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd drwy ddatblygu eu hannibyniaeth a'u gweithrediaeth mewn materion sy'n ymwneud ag iechyd a lles: gan arwain at gyfrifoldeb cynyddol am eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae cymorth gan gyfoedion ac oedolion cynorthwyol yn ffactor pwysig i alluogi cynnydd ac, wrth i ddysgwyr wneud cynnydd mewn agwedd ar lesiant, mae cynnydd yn cynnwys datblygu'r gallu i gydnabod pryd mae angen cymorth, a ble a sut i geisio'r cymorth hwnnw. Mae effeithiolrwydd cynyddol hefyd yn golygu hunanreoleiddio cynyddol: cydnabod eu teimladau a mabwysiadu strategaethau i ymateb i'r rhain mewn ffordd iach. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd mewn effeithiolrwydd, bydd yn cynnwys gallu datblygol i wneud, cyfiawnhau a gwerthuso penderfyniadau ar draws yr ystod o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol - Gwybodaeth

Bydd cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o'r cysyniadau sylfaenol a amlinellir yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac o amrywiaeth o agweddau, pynciau a materion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u lles, a lles pobl eraill. Bydd cynnydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ailedrych ar agweddau, pynciau a materion, gan ddatblygu gwybodaeth ar lefel ddyfnach. Mae gwybodaeth dysgwyr am yr agweddau hyn hefyd yn symud ymlaen o fod yn wybodaeth goncrit i fod yn wybodaeth abstract: deall canlyniadau, goblygiadau ac egwyddorion sylfaenol. Mae'r cynnydd hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a dealltwriaeth feirniadol mewn amrywiaeth o agweddau ar iechyd a lles ac ymddygiad personol.

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd - Dealltwriaeth

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, maent yn datblygu gwerthfawrogiad o arwyddocâd amrywiaeth o agweddau ar eu hiechyd a'u lles sydd wedi'u cynnwys yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn a all ddylanwadu ar yr agweddau hynny. Maent yn edrych ar wahanol agweddau a phynciau sy'n ymwneud ag iechyd a lles drwy lens gwahanol ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig. O'r herwydd, mae cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gynyddol o sut mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cyd-gysylltu, ac yn gallu cymhwyso'r rhain wrth archwilio a deall amrywiaeth o bynciau a materion.

Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a'u cymhwyso - Sgiliau

Mae cynnydd yn golygu bod dysgwyr yn datblygu eu hyder, eu cymhwysedd cymhelliant mewn sgìl, gan ddatblygu cywirdeb a hyfedredd cynyddol. Mae cynnydd mewn iechyd a llesisnt yn digwydd ar draws ystod eang o sgiliau, gan gynnwys: sgiliau corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sgiliau mwy ymarferol sydd hefyd yn cefnogi dysgwyr yn eu hiechyd a'u lles. Bydd datblygu llawer o sgiliau yn dibynnu, i ryw raddau, ar gerrig milltir datblygiadol ehangach dysgwyr. Adlewyrchir hyn mewn disgrifiadau dysgu: mae cynnydd cynharach yn canolbwyntio ar ddysgwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o ystod o sgiliau ac mae cynnydd diweddarach yn cefnogi cywirdeb, cymhlethdod a hyfedredd cynyddol yn y sgiliau hynny.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd - Cymhwyso

Caiff y broses o drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth yn y Maes ei hystyried yn gynnydd o ran dod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol. Wrth i ddysgwyr ddod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol, maen nhw’n gwneud cynnydd o ystyried eu hunain yn bennaf i ystyried effaith eu gweithredoedd eu hunain ar eraill ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd o deimlo’n ofalgar am eraill a’u parchu i allu eirioli ar ran eraill.

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd drwy’r cwricwlwm, bydd eu dealltwriaeth o’r cysylltiadau ym mhob rhan o’r ysgol a’r tu hwnt â phob agwedd ar iechyd a lles yn dod yn fwy soffistigedig, a byddan nhw’n gallu adnabod a chydbwyso rhai o’r tensiynau a all fodoli mewn modd cynyddol effeithiol.

Ymateb a myfyrio

Darllenwch a thrafodwch y naratif ar gyfer pob egwyddor cynnydd yn Iechyd a Lles.

Crynhowch bob paragraff i bwyntiau bwled.

Dyma un enghraifft bosibl.

Sut y dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd?

  • Ym mhob ysgol a lleoliad.

  • Ym mhob clwstwr – er mwyn cefnogi cydlynu dulliau o ymdrin â chynnydd rhwng gwahanol ysgolion cynradd, rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ac o ran cyfnodau pontio.

  • Lle mae’n bosibl, gan gynnwys ysgolion neu leoliadau eraill y tu hwnt i’r clwstwr. Dylai ysgolion uwchradd yn arbennig gymryd rhan mewn deialog broffesiynol ag ysgolion uwchradd eraill er mwyn cefnogi trefniadau cydweithio a chydlyniaeth ar draws darparwyr uwchradd.

  • Rhwng ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys trefniadau cydweithio rhwng ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion ac eraill sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol y mae ganddyn nhw gydberthnasau â nhw.

Dethol y dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

'Yng Nghwricwlwm i Gymru, mae’n rhaid i’r egwyddorion cynnydd a’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sy’n ffurfio’r sail fandadol ar gyfer cynnydd, lywio’r gwaith o gynllunio ar gyfer cynnydd yn uniongyrchol.'

Cwricwlwm i Gymru

Yn ein gweithdy diwethaf, awgrymwyd gennym eich bod yn ymgymryd â gweithgaredd i ddewis y dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Mae'r enghraifft isod yn dangos y modd y bu i un grŵp o ymarferwyr ddewis y dysgu o'r datganiad Mae datblygu iechyd a llesiant y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes. At ddiben y gweithgaredd, byddwn yn cymryd y dysgu o ymddygiadau sy'n hybu iechyd.

Dylai arweinwyr wneud cynnydd, yn unol â'r Egwyddorion Cynnydd o ran y cysyniadau a'r dysgu sydd wedi'u hymgorffori yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.


Gallai'r trafodaethau ymdebygu i'r enghraifft isod.

Defnyddio yr egwyddorion cynnydd i ddeall cynnydd yn y dysgu

Yma gallwn weld bod Rhyng-gysylltiadau, Dewisiadau ac Ymholiad wedi cael eu nodi'n ffocws ar gyfer dysgu o ran ymddygiadau sy'n hybu iechyd. Ar ôl nodi'r dysgu sy'n mynd i fod yn ffocws, gall trafodaethau gael eu cynnal i nodi'r agweddau sy'n berthnasol i'r dysgu hwn o blith yr egwyddorion cynnydd.

Mae'r enghraifft hon yn dangos rhai o'r ymatebion posibl a allai ddeillio o drafodaethau pellach ynghylch cynnydd yn seiliedig ar y dysgu, a gymerwyd yn uniongyrchol o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ynghylch sut olwg a fyddai ar y dysgu hwnnw mewn ffordd fwy ymarferol ar gyfer dysgwr sydd ar ddechrau'r continwwm dysgu, a'r modd y byddai hynny'n dod yn ei flaen.

​Heb amheuaeth, bydd eich trafodaethau yn datblygu ymateb manylach wrth i chi ddefnyddio eich proffesiynoldeb a'ch dealltwriaeth o ddysgwyr ar gamau gwahanol ar hyd y continwwm 3-16. Fodd bynnag, yr hyn y mae'r gweithgaredd hwn yn ei ddarparu yw ffocws clir ar egwyddorion gorfodol cynnydd, a hynny'n fan cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch y modd y mae dysgwr yn gwneud cynnydd ym maes Iechyd a Lles.

Ymateb a Myfyrio

  1. Defnyddiwch y tabl Egwyddorion Cynnydd uchod yn ystod y myfyrdod hwn.

  2. Ystyriwch 'llinyn' dysgu yr ydych wedi'i nodi o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer Iechyd a Lles. 'Llinyn' dysgu yw'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a fydd yn rhedeg trwy'r continwwm dysgu 3-16.

  3. Nesaf, ystyriwch yr egwyddorion cynnydd y gellid eu harsylwi trwy'r dysgu hwn.

  4. Yn olaf, gan weithio mewn timau neu mewn clwstwr, trafodwch sut y gallai'r dysgwyr fod yn gwneud cynnydd yn y dysgu hwnnw gan ganolbwyntio ar yr egwyddor a nodwyd. Cofnodwch eich trafodaethau mewn tabl fel yr un isod.


Sut gall y disgrifiadau dysgu ein helpu i ddeall cynnydd mewn dysgu

Er nad yw'r disgrifiadau dysgu yn orfodol, maent yno i'n cefnogi i gynllunio ar gyfer cynnydd mewn gwahanol linynnau dysgu ym mhob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Isod, gallwch weld y disgrifiadau ar gyfer cynnydd yn y dysgu a ddewiswyd: ymddygiadau sy'n hybu iechyd.

Rhaid cofio na ddylid defnyddio y disgrifiadau dysgu fel man cychwyn ar gyfer cynllunio cwricwlwm, na'u trin ychwaith fel bocsys i'w ticio. Yn hytrach, maent yn bwyntiau cyfeirio neu'n arwyddbyst i'n helpu ni, yr ymarferwyr, i gefnogi ein dysgwyr i symud ar hyd y continwwm dysgu.

Sut gallwn ni rannu ein dealltwriaeth o gynnydd?

Efallai y byddwch am ystyried y modd y byddwch yn cofnodi'r cynnydd hwn er mwyn gallu ei rannu ag eraill yn eich ysgol a'ch clwstwr.

Gallai'r ddelwedd isod fod yn un ffordd o gynrychioli'r cynnydd hwn. Rydym wedi cymryd llinyn dysgu o ddatganiad arall o'r hyn sy'n bwysig, yn enghraifft, sef, Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles.

Mae'n ofynnol i'r dysgwyr ddeall bod teimladau o berthyn a chysylltiad sy'n deillio o berthnasoedd iach yn cael effaith bwerus ar iechyd a llesiant.

Gan ddechrau gyda dysgu cynnar, efallai y bydd y dysgwr yn dechrau disgrifio'r modd y gall teulu, ffrindiau a chymuned yr ysgol wneud iddo deimlo.

Gallai cynnydd yn y dysgu hwn gynnwys nodi'r modd i greu cysylltiadau â phob math o bobl a chydnabod sut y mae perthnasoedd yn esblygu ac yn newid trwy gydol bywyd, gan edrych, o bosibl, ar berthnasoedd rhwng cyfoedion ym mlynyddoedd yr arddegau.

Gallai cynnydd pellach yn y dysgu hwn gynnwys y gallu i ddatblygu a deall pwysigrwydd hanfodion perthynas iach.

Yn yr enghraifft hon, rydym wedi dewis cylch sydd wedi ein galluogi i ddangos sut mae dysgu mewn un llinyn yn adeiladu mewn haenau dros amser, gan ddod yn ehangach, yn ddyfnach ac yn fwy soffistigedig. Rydym hefyd wedi cyfeirio at y modd y gallai'r egwyddorion cynnydd fod yn berthnasol yma. Enghraifft yw hyn ac nid yw'n rhestr gyflawn.


Camau nesaf

  • Myfyrio ar eich dealltwriaeth o gynnydd a’r modd y mae'n cael ei fynegi yn eich cwricwlwm .

  • Adnabod llinynnau dysgu ac ystyried cynnydd ar hyd y llinellau hynny.

  • Ystyried y modd y gallwch weithio gyda chyd-weithwyr yn eich ysgol ac yn eich clwstwr, a, lle bo hynny'n bosibl, gydag ysgolion tebyg eraill, i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd trwy gydol y cwricwlwm .

  • Meddwl sut y gellid defnyddio’r ddealltwriaeth hon a’i rhannu ag eraill.

Dyma gyflwyniad sy'n cydgrynhoi'r dudalen hon y gallech ei defnyddio at ddibenion hyfforddi. Mae'r sgript wedi gosod yn y man nodiadau.