Beth sydd angen i’n dysgwyr ei ddysgu a pham?

Nod y gweithdy hwn yw eich cefnogi i ddethol y dysgu wrth i chi ddatblygu eich cwricwlwm Mathemateg a Rhifedd yn eich ysgol. Mae e wedi cael ei greu i ddilyn ein gweithdy blaenorol ar greu gweledigaeth wedi ei rannu ar gyfer dysgu yn y Maes hwn.

Bydd yn ystyried y canlynol:

  • Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm sy'n cael ei lywio gan ddibenion

  • y shifft o'r cynnwys i'r dysgu

  • sut i ddefnyddio eich gweledigaeth i ddethol y dysgu

  • sut i ddethol y dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a pum hyfeddredd

  • eich camau nesaf fel tîm.

Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm sy'n cael ei lywio gan ddibenion

Caiff Cwricwlwm i Gymru ei lywio gan y pedwar diben. Golyga hyn fod y pwyslais yn symud o’r hyn y mae’r dysgwyr yn ei wybod i’r bobl y byddant yn tyfu i fod. Dylai pob dysgu yn Cwricwlwm i Gymru felly alluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben hyn.

Mae fframwaith CiG yn rhoi yr ymreolaeth i ymarferwyr i ddethol y dysgu ar gyfer eu dysgwyr ac mae'r gweithdy hwn yn awgrymu sut allech chi fynd ati i benderfynu yr hyn sydd angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.

Y shifft o'r cynnwys i'r dysgu

Yn Cwricwlwm i Gymru, mae'r ffocws ar ddysgu yn disodli’r ffocws ar gynnwys. Wrth gynllunio cwricwlwm, felly, mae angen i ysgolion ofyn, Beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu? a Pam mae'r dysgu hwn yn bwysig?

Bydd y ddau gwestiwn hwn yn arwain at well ddealltwriaeth o'r hyn sydd wir yn bwysig mewn dysgu er mwyn cynllunio cwricwlwm a fydd yn galluogi dysgwyr i wireddu y pedwar diben.

'Dylai fod diben clir i’r holl waith o ddatblygu’r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth glir o ddiben dysgu a pham mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn helpu i roi ffocws i’r gwaith o gynllunio cynnydd a dysgu ac addysgu.'

Y daith i weithredu'r cwricwlwm, 2021

Gadewch i ni ystyried beth yw ystyr y newid o gynnwys i ddysgu drwy ddefnyddio’r gweithgaredd yn y llun fel enghraifft. Mae'r dysgwyr yma yn ymweld â'r archfarchnad leol i brynu bwyd ar gyfer picnic y dosbarth. Os gofynnwn beth sy'n cael ei ddysgu yma mewn gwirionedd, efallai y byddwn yn dod i'r casgliad bod y dysgwyr yn dysgu i wella eu sgiliau cyfathrebu, datblygu eu gallu ariannol, datrys problemau gyda rhifau, myfyrio ar fwyta'n iach neu ddatblygu annibyniaeth, a mwy na hynny hefyd.

Mae hyn yn ddysgu na all ddigwydd mewn tasg untro neu weithgaredd unigol. Mae’n ddysgu sy’n eang ei gwmpas, y mae angen ei drosglwyddo a’i wella dros gyfnod o amser mewn sawl cyd-destun. Dyma’r math o ddysgu sydd ei angen i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru, ac felly bydd angen i’n ffocws wrth gynllunio ar gyfer dysgu symud o’r cynnwys i’r dysgu ei hun.

Ymateb a Myfyrio

Dyma lun o ddau ddysgwr sydd wedi derbyn problem yn cynnwys rhifau cysefin. Gallai hyn gael ei ddefnyddio fel symbyliad ar gyfer dysgu ym maes Mathemateg a Rhifedd.

Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw'r dysgu yma?

  • Pam y mae'r dysgu hwn yn bwysig i'n dysgwyr?

  • A yw'n eu galluogi i wneud cynnydd tuag at y Pedwar Diben?

Nod y tri chwestiwn uchod yw symud ein ffocws o'r cynnwys i'r dysgu. Maent yn ddefnyddiol i bennu'r 'beth' a'r 'pam' o ran y dysgu. Dylai’r atebion eich arwain at weledigaeth Cwricwlwm i Gymru, a’ch gweledigaeth chi ar gyfer dysgu.

Sut gall eich gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dysgu lywio eich dewis o ddysgu a nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu?

Nawr fod gennym well dealltwriaeth o’r math o ddysgu sy’n ofynnol yn y Cwricwlwm i Gymru, y cwestiwn nesaf i’w ofyn yw, Sut y gallwn benderfynu beth y mae angen i’n dysgwyr ei ddysgu?

Yn y gweithdy diwethaf, awgrymwyd eich bod yn ysgrifennu, gyda'ch gilydd, ddatganiad gweledigaeth sy'n cyfleu'r hyn yr hoffech ei sicrhau ar gyfer eich dysgwyr ym maes Mathemateg a Rhifedd.

Er mwyn gwneud hyn, awgrymwyd eich bod yn gwneud y canlynol:

  • ceisio ysbrydoliaeth o'r pedwar diben a'u nodweddion,

  • sicrhau gwell dealltwriaeth o weledigaeth Mathemateg a Rhifedd

  • deall beth sy’n newydd o fewn y canllawiau: y pum hyfedredd

  • anghenion ac agweddau eich dysgwyr a'u cymunedau

  • ac ystyried datblygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol a fydd â goblygiadau i ddysgu yn y Maes hwn.

Os ydych wedi datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu yn y Maes hwn, gall fod yn fan cychwyn ar gyfer dewis dysgu ar gyfer eich cwricwlwm Mathemateg a Rhifedd. Ystyriwch beth sydd angen i’ch dysgwyr ei ddysgu er mwyn gwireddu’r dyheadau rydych wedi’u gosod ar eu cyfer a thrafodwch pam mae’r dysgu hwn yn bwysig.

Ymateb a Myfyrio

Mae hon yn enghraifft wedi'i chreu. Defnyddiwch y cwestiynau isod i'ch arwain.

  • Beth yw meddyliwr mathemategol?

  • Pam y mae angen i ddysgwyr fod yn feddylwyr mathemategol?

  • Pam y mae angen iddynt ddysgu bod yn feddylwyr mathemategol?

Ein gweledigaeth ar gyfer y dysgu ym maes Mathemateg a Rhifedd yw bod pob unigolyn yn dod yn feddyliwr mathemategol sy'n cael ei gyffroi gan brydferthwch Mathemateg. Bydd ein dysgwyr yn datblygu ymdeimlad hyderus o rif a rhuglder cyfrifiadurol trwy chwilio am batrymau, gwneud cysylltiadau a bod yn chwilfrydig wrth iddynt ddatrys problemau a dysgu i ddeall pwysigrwydd rhifedd yn eu bywydau bob dydd. Rydym am i'n dysgwyr fod yn fforwyr mathemategol sy'n croesawu ansicrwydd ac yn cymryd risgiau wrth iddynt ddarganfod datrysiadau creadigol i broblemau.

Bydd ein dysgwyr yn dod yn rhifog, a bydd hyn yn eu galluogi i fod â'r hyder i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n effeithio ar eu llesiant corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac ariannol.

Yn ystod y trafodaethau hyn, bydd y dysgu ar gyfer eich cwricwlwm yn dechrau dod i'r amlwg. Gallwch ddefnyddio’r un cwestiynau neu gwestiynau tebyg i dreiddio’n ddyfnach i uchelgeisiau eraill yr ydych wedi’u hamlinellu yn eich gweledigaeth, e.e. Beth mae dod o hyd i atebion creadigol i broblemau yn ei olygu? Pam fod hyn yn bwysig i'ch dysgwyr? Pa gyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddod yn greadigol a chwilfrydig mewn Mathemateg a Rhifedd?

Sut i ddethol dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Mae pob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cynnwys sail resymegol sy'n gorwedd o dan ei bennawd, a dyma lle mynegir y dysgu ar gyfer y datganiad hwnnw. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn statudol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Gyda'i gilydd maent yn cyfrannu at gefnogi'r dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

'Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r ddealltwriaeth allweddol y mae’n rhaid i ddysgwyr ei datblygu.'

Cwricwlwm i Gymru:
Y daith i weithredu'r cwricwlwm

Defnyddir y system rifau i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau.

Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol.

Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy'n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomenau yn y byd ffisegol.

Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae'r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.

Mae'r pedwar datganiad yn y Maes hwn yn cyfeirio at rif, algebra, geometreg a mesurau ac ystadegau. Dylid eu hystyried yn gyfannol wrth gynllunio cwricwlwm eich ysgol. Maent yn gyd-ddibynnol, wrth i bob un gefnogi datblygiad y tri arall.


'Nid oes modd deall algebra, geometreg nac ystadegaeth heb ddealltwriaeth flaenorol o rif a chyfeiriadau cyson at rifau, cyfrifiadau a’r system rifau.'


Cwricwlwm i Gymru


Dylai natur integredig y dysgu yng Nghwricwlwm i Gymru hefyd olygu y gellir mynd i’r afael ag agweddau ar ddatganiadau o Feysydd eraill a dyma lle bydd trosglwyddiad a dysgu dyfnach, cysylltiedig yn digwydd. Wrth gynllunio ar gyfer dysgu byddem yn eich annog i ystyried pob un o'r 27 datganiad o'r hyn sy'n bwysig.


Ymateb a Myfyrio

Mae dysgu o fewn y system rif yn treiddio i'r holl ddysgu yn y Maes hwn, ac felly mae'n lle da i ddechrau wrth ddewis dysgu mewn Mathemateg a Rhifedd. Myfyrio ar y dysgu sy'n ofynnol yn y datganiad hwn, gan ddefnyddio'r cwestiynau isod i lywio eich meddwl.

Beth sydd wir angen i’n dysgwyr ei wybod a’i ddeall?

Pa sgiliau a gwerthoedd sydd angen iddynt eu datblygu?

Defnyddir y system rif i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau.

Rhifau yw’r system symbolau ar gyfer disgrifio a chymharu meintiau. Dyma’r cysyniad haniaethol cyntaf y bydd dysgwyr yn dod ar ei draws ym mathemateg, ac mae’n gymorth i sefydlu egwyddorion rhesymu sy’n rhesymegol. Ym mathemateg, mae’r system rifo’n sail i resymu o ran algebra, ystadegau, tebygolrwydd a geometreg, yn ogystal ag o ran cyfrifo ariannol a gwneud penderfyniadau.

Mae gwybodaeth a gallu ym maes rhifau a meintiau yn hanfodol ar gyfer cyfrannu’n hyderus mewn bywyd, ac yn cynnig sylfaen ar gyfer astudio pellach a chyflogaeth. Mae rhuglder o ran cyfrifiannu yn allweddol i ddatrys problemau a gwneud cynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad. Datblygir rhuglder drwy ddefnyddio’r pedair gweithred rhifyddeg sylfaenol a datblygu dealltwriaeth o’r berthynas rhyngddyn nhw. Mae hyn yn arwain at baratoi’r ffordd ar gyfer defnyddio symbolau algebra yn llwyddiannus.

Ewch trwy'r un broses ar gyfer y datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ac rydych yn sicr o weld pethau cyffredin rhyngddynt, sy'n adlewyrchiad o ba mor gydgysylltiedig ydynt.

Mae dysgu'n datblygu trwy'r pum hyfedredd

Mae’r pum hyfedredd sy’n gysylltiedig ac yn rhyngddibynnol yn cynnig dull newydd o ddysgu ym maes Mathemateg a Rhifedd. Bydd hi’n bwysig ystyried yr hyfedreddau newydd hyn ac ystyried y dysgu sy’n ofynnol i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o’r cysyniadau allweddol a bennir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Ymateb a Myfyrio

Darllenwch y disgrifiad o gymhwysedd strategol o’r canllawiau, ac ystyriwch pa ddysgu sy’n ofynnol er mwyn datblygu cymhwysedd strategol mewn Mathemateg a Rhifedd. Ailadroddwch y broses ar gyfer dealltwriaeth gysyniadol, rhesymu rhesymegol, cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau a rhuglder. Rhaid eu gweld gyda'i gilydd i feithrin dysgu trosglwyddadwy dwfn.

Cymhwysedd strategol

Dylai dysgwyr ddod yn gynyddol annibynnol wrth gydnabod a chymhwyso'r strwythurau a'r syniadau mathemategol sylfaenol mewn problem, er mwyn datblygu strategaethau i allu eu datrys.

Mae adnabod strwythur mathemategol mewn problem a ffurfio problemau yn fathemategol er mwyn gallu eu datrys yn dibynnu ar ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad, ochr yn ochr â dyfnder gwybodaeth. Mae hefyd yn cefnogi'r broses o greu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd a datblygu effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr. Dylai cydnabod pŵer mathemateg wrth alluogi sefyllfaoedd i gael eu cynrychioli arwain at werthfawrogiad cynyddol o ddefnyddioldeb mathemateg.

Mae’n bwysig eich bod yn buddsoddi amser gyda’ch gilydd fel timau i ddethol dysgu o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r pum hyfedredd mewn Mathemateg a Rhifedd a chytuno ar y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen i symud ymlaen yn y Maes hwn.

Eich camau nesaf fel tîm

Awgrymwn eich bod yn:

  • ailedrych ar eich gweledigaeth ar gyfer y MDPh

  • dethol y dysgu o'ch gweledigaeth ar gyfer y MDPh,

  • dethol y dysgu o bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig a pum hyfeddredd

  • trafod y ffordd orau o gofnodi a chynrychioli'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis

  • rhannu eich dysgu â'r Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill

Mae'n debyg y gwelwch fod yna elfennau sy'n gyffredin yn y dysgu nid yn unig ar draws y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn Mathemateg a Rhifedd, ond ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill. Mae Cwrciwlwm i Gymru yn cynnig cyfleoedd i gydweithredu a meithrin cysylltiadau, er mwyn creu profiad dysgu cyfannol ac ystyrlon i'r dysgwyr wrth i chi eu cefnogi i wireddu y pedwar diben.​