Cynnydd yn Y Celfyddydau Mynegiannol

'...rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.'

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gosod y dysgwr wrth wraidd y broses gynllunio. Mae'r dyfyniad hwn o'r canllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd deall sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd a sut mae'r ddealltwriaeth hon yn fan cychwyn i ysgolion wrth iddynt gynllunio cwricwlwm ar gyfer eu dysgwyr. Er mwyn cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ar hyd y continwwm dysgu, mae angen i ymarferwyr ddatblygu cy-ddealltwriaeth o gynnydd.

Bydd y gweithdy hwn yn mynd i'r afael a'r pedwar cwestiwn isod, sy'n dod yn uniongyrchol o'r canllawiau 'Cefnogi cynnydd dysgwyr' sydd ar gael ar Hwb ac sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru i'ch arwain wrth i chi gynllunio cwricwlwm eich ysgol.

Beth yw cynnydd?

Beth yw cyd-dealltwriaeth o gynnydd?

Pam mae cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn bwysig?

Sut dylai ysgoion a lleoliadau ddatblygu y gyd-ddealltwriaeth hon?

Mae'n ofynnol yn y Cwricwlwm i Gymru i ddeall cynnydd mewn dysgu cyn symud ymlaen i drafodaethau ar sut fydd y dysgu yn cael ei asesu.
Nod y gweithdy hwn yw eich cefnogi i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol.

Ymateb a myfyrio

Yn eich tîm, ysgol, neu yn eich clwstwr, meddyliwch am sut y gallech ddiffinio cynnydd ar gyfer :

  1. Eich dysgwyr

  2. Cynllun eich cwricwlwm

Ystyriwch hefyd ym mha ffyrdd yr hoffech weld dysgwyr yn gwneud cynnydd.

Gellir diffinio cynnydd fel:

  • Symud ymlaen

  • Yn gwella

  • Datblygu dyfnder ac ehangder mewn dysgu

  • Cynyddu soffistigeiddrwydd

  • Trosglwyddo a chymhwyso

Beth rydym am i'n dysgwyr wneud cynnydd ynddo?

  • Beth mae dysgwyr yn ei wybod? (gwybodaeth)

  • Beth maen nhw'n ei ddeall ?(deall)

  • Yr hyn y gall dysgwyr ei wneud (sgiliau)

  • Eu gallu

  • Eu priodweddau a'u hagweddau

'Mae cynnydd yng nghyd-destun dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth yw ystyr gwneud cynnydd mewn maes penodol neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau.'

Cwricwlwm i Gymru

Gallwn weld y pwyntiau hyn yn amlwg wedi’u nodi yn y diffiniad o gynnydd fel y’i nodir yng nghanllawiau CiG. Felly, wrth gynllunio ar gyfer dysgu byddwn yn cefnogi ein dysgwyr i gynyddu eu gwybodaeth, i ddyfnhau dealltwriaeth ac i wella eu sgiliau ond gallwn hefyd eu helpu i ddatblygu eu galluoedd, eu priodwedddau a’u hagweddau.

Beth yw 'dealltwriaeth gyffredin o gynnydd’?

Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn golygu bod ymarferwyr, gyda’i gilydd yn eu hysgol neu leoliad, ar draws eu clwstwr, a chydag ysgolion eraill y tu hwnt i’w clwstwr, yn archwilio, yn trafod ac yn deall y canlynol gyda’i gilydd:

  • eu disgwyliadau ar y cyd o ran sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd a pha wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ddylai gyfrannu at hyn yng nghwricwla’r ysgolion a’r lleoliadau

  • sut i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr gydol eu taith ddysgu ac yn arbennig yn ystod cyfnodau pontio

  • sut mae eu disgwyliadau ar gyfer cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill.

Pam mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn bwysig i'ch cwricwlwm?

Mae sicrhau bod ymarferwyr yn deall y cynnydd y maen nhw am i ddysgwyr ei wneud gydol eu haddysg, a sut i roi hyn ar waith mewn ffordd gydlynol ym mhob rhan o’u hysgol a’u clwstwr, yn hanfodol er mwyn sicrhau:

  • Cydlyniaeth – Mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ymhlith ymarferwyr mewn ysgol, lleoliad neu ar lefel clwstwr yn helpu i sicrhau bod profiadau dysgwyr yn gydgysylltiedig, yn ddilys ac yn berthnasol, ac hefyd yn helpu i nodi sut i ddilyniannu dysgu’n effeithiol.

  • Cyfnodau pontio llyfn – mae dealltwriaeth gyffredin ar draws clwstwr yn sicrhau’r cyfnodau pontio gorau posibl o fewn a rhwng lleoliadau ac ysgolion cynradd ac ysgolion cynradd ac uwchradd i ddysgwyr, gan y bydd sefydliadau yn deall sut a beth mae dysgwyr wedi bod yn ei ddysgu ac y byddan nhw’n ei ddysgu a beth ddylai eu camau dysgu nesaf fod er mwyn cefnogi eu haddysg a’u lles.

  • Cyflymder a her disgwyliadau – mae’r broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin yn galluogi ymarferwyr ac ysgolion a lleoliadau i ystyried a yw eu disgwyliadau ar gyfer dysgwyr yn ddigon heriol a realistig.

Beth yw rôl y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu?

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, egwyddorion cynnydda’r disgrifiadau dysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i ddysgu ac yn darparu’r un disgwyliadau uchel i bob dysgwr.

Cwricwlwm i Gymru

Mae'r tri yn sail i ddysgu ac yn darparu'r un disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr ledled Cymru.

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylid eu defnyddio yn y drefn ganlynol, fel y maent yn ymddangos yn y canllawiau:

  • y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ( mandadol)

  • yr egwyddorion cynnydd ( mandadol)

  • y disgrifiadau dysgu ( nid yn fandadol)

Pan fyddwn yn penderfynu beth y mae angen i'n dysgwyr ei ddysgu, byddwn yn cyfeirio at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Maent yn orfodol ac yn crynhoi'r dysgu y mae ei angen i wireddu'r pedwar diben.

Pan fyddwn am ddeall cynnydd yn y dysgu hwn yn ILlaCh, rydym yn cyfeirio at yr Egwyddorion Cynnydd. Maen nhw hefyd yn orfodol.

Mae'r disgrifiadau dysgu yn ddefnyddiol fel arwyddbyst i ddangos sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn gwahanol linynnau dysgu o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.

Deall cynnydd mewn dysgu - yr egwyddorion cynnydd

Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu, mae angen i ni ddechrau gyda'r Egwyddorion Cynnydd.

Mae egwyddorion cynnydd yn darparu elfen orfodol o sut olwg sydd ar gynnydd i ddysgwyr. Rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion hyn i lywio'r holl ddysgu wrth gefnogi cynnydd. Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:

  • Deall beth mae cynnydd yn ei olygu ac yn edrych fel mewn Maes penodol.

  • Datblygu’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir.

  • Datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud.

Deall cynnydd yn y celfyddydau

Awgryma’r ymchwil fod cynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol, yn dueddol o ddatblygu trwy ddefnyddio ac ailddefnyddio sgiliau cyfarwydd, ond ar adegau gallai hefyd fod yn naid ansoddol. Nid yw’n broses sy’n dilyn un trywydd penodol, ac nid oes un llwybr sy’n gyffredin i bawb. Gallai dysgwyr symud yn ôl ac ymlaen yn rhwydd wrth brofi gweithgareddau Celfyddydau Mynegiannol amrywiol ac mae gwahanol dysgwyr yn dueddol o ddatblygu mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Ffactorau sy'n berthnasol i gynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol:

  • Cymhlethdod: Gall materion yr ymdrinnir â nhw gan ddysgwyr iau gael eu hailystyried gan ddysgwyr hŷn mewn ffyrdd mwy cymhleth a soffistigedig.

  • Rheolaeth: Dylai dysgwyr ennill mwy a mwy o reolaeth dros ddulliau mynegi’r Celfyddydau Mynegiannol.

  • Dyfnder: Mae dysgwyr yn symud o amrywiaeth eang o brofiadau yn y Celfyddydau Mynegiannol i archwilio eu dysgu mewn mwy o ddyfnder.

  • Annibyniaeth: Mae dysgwyr yn dod yn fwyfwy annibynnol.

Mae'r ffactorau hyn sy'n berthnasol i gynnydd o fewn y Celfyddydau Mynegiannol yn cael eu mynegi trwy'r Egwyddorion Cynnydd.

Yr Egwyddorion Cynnydd

Wrth weithio gydag egwyddorion cynnydd, naill ai fel yr egwyddorion trosfwaol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru neu gyda’r egwyddorion fel y’u diffinnir ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, mae’r prif ddatganiadau yr un fath a chaiff pob egwyddor cynnydd ei hategu gan resymeg, sy’n esbonio ymhellach beth mae cynnydd yn ei olygu ymhob Maes mewn perthynas â’r egwyddor benodol honno. Mae’r rhain yn cwmpasu’r continwwm cyfan ar draws 3-16 ac nid ydynt yn benodol i oedran na blwyddyn.​ O fewn yr egwyddorion cynnydd a’r rhesymeg ategol, gallwn ganfod beth mae cynnydd yn ei olygu i Faes y Celfyddydau Mynegiannol yn ei gyfanrwydd ac wrth archwilio’r rhain ymhellach gallwch weld sut y byddai ac y dylai dysgwr wneud cynnydd o ran cymhlethdod, rheolaeth, dyfnder ac annibyniaeth.

O edrych yn fanylach ar y prif ddatganiad ar gyfer pob egwyddor cynnydd, efallai y byddai’n fuddiol symleiddio’r iaith a myfyrio ar eu hystyr.


Mae'r golofn ar y dde yn un dehongliad o'r egwyddorion. Bydd rhannu’r ddealltwriaeth hon a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol ar draws yr ysgol a rhwng ysgolion yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gyffredin ac, yn bwysig, iaith gyffredin ynghylch dilyniant.

​Gallai symleiddio’r iaith ein helpu i ymgysylltu â’r egwyddorion dilyniant hyn a dod o hyd i fwy o eglurder ynddynt.



Datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd

Wrth i chi ddarllen trwy bob Egwyddor Cynnydd yn ei thro, efallai y byddwch yn dechrau dewis ymadroddion ac iaith allweddol sy’n helpu i nodi sut y gallai dilyniant mewn dysgu edrych. Bydd amlygu neu danlinellu ymadroddion allweddol ym mhob un o’r egwyddorion, mewn timau neu mewn clystyrau, yn helpu i gychwyn y broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant.

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr (effeithiolrwydd)

Dangosir cynnydd wrth symud oddi wrth wneud rhywbeth gyda chymorth tuag at ymreolaeth a soffistigeiddrwydd. Mae cynnydd yn debygol o ddeillio o ddefnyddio ac ailddefnyddio sgiliau hysbys yn raddol, ond gallai, o bryd i'w gilydd, fod yn naid ansoddol fawr.

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, maen nhw’n gwneud mwy o waith gwerthuso ac yn creu gwaith creadigol mwyfwy soffistigedig yn annibynnol a thrwy gydweithio rhagor ag eraill. Maent yn magu mwy o hyder drwy gael cyfleoedd i archwilio, profi a dehongli, gan greu ac ymateb drwy ddisgyblaethau'r celfyddydau mynegiannol mewn amgylchedd diogel. Mae'r ffordd y maent yn gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill yn adlewyrchu dealltwriaeth gynyddol o brosesu a llunio adborth, gan ei dderbyn mewn modd cadarnhaol a dyfalbarhau wrth weithredu arno.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol (gwybodaeth)

Mae dysgwyr yn dangos cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) drwy archwilio, profi a chreu ystyr cynyddol gymhleth. Mae cysylltu dysgu newydd â gwybodaeth bresennol yn datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol o ran dealltwriaeth gysyniadol. At hynny, mae dysgwyr yn dysgu ac yn mireinio gwahanol fathau o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys y technegau, y prosesau a'r sgiliau sydd eu hangen i greu a dehongli ym mhob maes o'r celfyddydau. Yn ogystal, mae’r sgiliau cyfannol o greadigrwydd; synthesis; meddwl beirniadol; a dealltwriaeth o gyd-destunau diwylliannol yn hanfodol i'r Maes hwn.

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad (dealltwriaeth)

Caiff cynnydd ei ddangos drwy barhau i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen i werthfawrogi, creu, archwilio, ymateb a myfyrio mewn disgyblaethau penodol ac mewn cyfuniadau o ddisgyblaethau. Yn ystod y camau cynnar, caiff dysgu ei nodweddu gan chwilfrydedd cynyddol i fod yn greadigol ac yn arloesol drwy ddefnyddio ystod o adnoddau a deunyddiau i archwilio mewn meysydd amrywiol. Mae cyfuno disgyblaethau'n digwydd yn bwrpasol ond hefyd yn organig. Wrth i'r dysgu fynd rhagddo, mae dysgwyr yn dod yn gynyddol ymwybodol o ddisgyblaethau'r celfyddydau mynegiannol a'u nodweddion allweddol, gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i’r canlynol) celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a'r cyfryngau digidol. Mae dysgwyr yn nodi cysylltiadau yn y broses greadigol ar draws y disgyblaethau er mwyn archwilio, creu, dehongli ac ymateb.



Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a'u cymhwyso (sgiliau)

Bydd lefelau rheolaeth, cywirdeb a rhuglder wrth ddefnyddio ystod o sgiliau’r celfyddydau yn cynyddu wrth i ddysgwyr ddatblygu. Er enghraifft, o ran dysgu yn y cyfnod cynnar, gallai hyn gael ei nodweddu gan ddefnyddio symudiadau corff syml i greu dawns a bod yn ymwybodol o agweddau sylfaenol megis cyflymder, cyfeiriad a lefelau wrth werthuso eich gwaith eich hun a gwaith eraill. Yn ystod cam mwy ymestynnol o gynnydd, gallai dysgwyr greu a gwerthuso llwyddiant rhyngweithio ymysg gwahanol agweddau ar symud mewn dawns cymhleth wedi'i choreograffu. Wrth iddyn nhw wneud cynnydd, mae dysgwyr yn datblygu'n barhaus o ran dyfnder ac yn defnyddio soffistigeiddrwydd cynyddol i fireinio'r sgiliau celfyddydol hyn mewn gwahanol ddisgyblaethau a/neu weithgarwch rhyngddisgyblaethol.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd (cymhwyso)

Mae dysgwyr yn gwerthfawrogi fwyfwy y posibilrwydd o gyfuno disgyblaethau yn y Maes er mwyn gwerthfawrogi a chyflawni deilliannau creadigol. Caiff cynnydd ei nodweddu hefyd gan ddefnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol mewn disgyblaethau unigol a'r gallu cynyddol i drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau newydd yn y Maes hwn ac ar draws Meysydd eraill.

Ymateb a myfyrio

Darllen a thrafod y naratif ar gyfer pob egwyddor o ddilyniant yn y Celfyddydau Mynegiannol.

Crynhowch bob paragraff yn bwyntiau bwled.

Dyma un enghraifft bosibl.

Dethol y dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

'Yng Nghwricwlwm i Gymru, mae’n rhaid i’r egwyddorion cynnydd a’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sy’n ffurfio’r sail fandadol ar gyfer cynnydd, lywio’r gwaith o gynllunio ar gyfer cynnydd yn uniongyrchol.'

Cwricwlwm i Gymru (Priorities for Curriculum development and learning)

Cyn deall cynnydd o fewn y Celfyddydau Mynegiannol a chyn trafodaeth ar sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y disgyblaethau o fewn y MDPh y Celfyddydau Mynegiannol, bydd yn rhaid i ysgolion a chlystyrau fynd drwy’r broses o nodi’r cysyniadau a’r llinynnau dysgu sydd ym mhob DHSB. Fel y gwyddom, mae Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) y Celfyddydau Mynegiannol yn rhychwantu pum disgyblaeth: celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol a cherddoriaeth. Er bod gan bob disgyblaeth ei chorff ei hun o wybodaeth a sgiliau, cydnabyddir eu bod gyda'i gilydd yn rhannu'r broses greadigol o archwilio, ymateb a chreu. - y broses greadigol yw'r llinyn cyffredin. Mae’r broses greadigol o archwilio, ymateb a chreu yn cael ei harddangos yn glir trwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn sail i gynnydd dysgwyr ac fel y nodir yn y dogfennau canllaw – rhaid iddynt lywio’r cynllunio ar gyfer cynnydd yn uniongyrchol.

  • Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

  • Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

  • Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.


Ar y dde gallwch weld fersiwn o gysyniadau a nodwyd a llinynnau lefel uchel o ddysgu a gymerwyd o'r DHSB- efallai eich bod wedi gwneud ymarfer o'r fath yn eich ysgol neu glwstwr ac wedi nodi dysgu tebyg. Efallai eich bod wedi grwpio eich dysgu yn wahanol.

Dylai dysgwyr wneud cynnydd, yn unol â'r Egwyddorion Cynnydd yn y cysyniadau a'r dysgu sydd wedi'u hymgorffori yn y DHSB.


Gall trafodaethau edrych fel yr enghraifft isod.

Yma gallwn weld bod technegau a rheolaeth dechnegol wedi'u nodi fel ffocws ar gyfer dysgu o'r datganiad o'r hyn sy'n bwysig 'archwilio'. Ar ôl nodi ffocws y dysgu, gellir cynnal trafodaethau wedyn a nodi o'r egwyddorion cynnydd yr agweddau sy’n ymwneud â’r dysgu hwn. Mae’r enghraifft hon yn dangos agweddau o 3 egwyddor cynnydd i ddatblygu dealltwriaeth o sut y gallai dysgwr wneud cynnydd wrth iddo ddatblygu rheolaeth dechnegol – byddai’n golygu y byddent yn symud o gymorth tuag at ymreolaeth ac wrth iddynt ddatblygu gwell rheolaeth dechnegol ar draws y celfyddydau byddent yn creu gweithio creadigol mwy soffistigedig yn annibynnol a dod yn gydweithredwyr gwell - gan ddod yn fwy effeithiol fel dysgwr.


Mae’r enghraifft hon yn dangos rhai o’r ymatebion posibl a allai ddod o drafodaethau pellach ynghylch cynnydd yn seiliedig ar y dsygu tynnwyd yn uniongyrchol o'r DHSB - trafodaethau ynghylch sut olwg fyddai ar y dysgu hwnnw mewn ffordd fwy ymarferol ar gyfer dysgwr a oedd yn gynnar ar y continwwm dysgu a sut a fyddai hynny'n symud ymlaen.

Heb os, bydd eich trafodaethau yn datblygu ymateb manylach wrth i chi ddefnyddio eich proffesiynoldeb a’ch dealltwriaeth o ddysgwyr ar wahanol adegau ar hyd y continwwm 3 – 16. Fodd bynnag, yr hyn y mae'r gweithgaredd hwn yn ei wneud yw rhoi ffocws clir ar yr egwyddorion cynnydd mandadol fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau ar sut mae dysgwr yn gwneud cynnydd o fewn y celfyddydau heb ei gyfyngu i ddisgyblaeth benodol.​

Ymateb a myfyrio

  1. Ystyriwch y 'llinynnau' dysgu yr ydych wedi'i nodi o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i'r Celfyddydau Mynegiannol. 'Llinyn' dysgu yw'r dysgu rydych wedi'i ddewis o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a fydd yn rhedeg drwy'r continwwm dysgu 3-16. (tabl 2)

  2. Nesaf, ystyriwch agweddau o'r egwyddorion cynnydd (tabl 1) y gellir eu harsylwi trwy'r dysgu hwn.

  3. Yn olaf, gan weithio mewn timau neu o fewn clwstwr, trafodwch sut y gallai'r dysgwyr fod yn gwneud cynnydd yn y dysgu hwnnw gan ganolbwyntio ar yr egwyddor a nodwyd. Cofnodwch eich trafodaethau mewn tabl fel yr un uchod. (templed gwag ar y dde)

Sut gall y disgrifiadau dysgu ein helpu i ddeall cynnydd mewn dysgu

Unwaith y byddwn wedi ystyried y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen ar gyfer y dysgu a nodwyd ac wedi cydweithio ag eraill o’r ysgol, lleoliadau a chlwstwr i ystyried sut y gallai dysgwr wneud cynnydd, gallwn wedyn ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu fel ffordd o groesgyfeirio ein meddwl dyfnach am gynnydd. Byddwch yn gwybod erbyn hyn bod y disgrifiadau dysgu yn y celfyddydau mynegiannol yn drosfwaol ac nid yn benodol i ddisgyblaeth a dyna pam ei bod mor bwysig bod gennym ddealltwriaeth dda o sut y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y celfyddydau ac nid yn un o’r disgyblaethau’n unig.

Er nad yw'r disgrifiadau dysgu yn fandadol, maent yno i'ch cefnogi i gynllunio ar gyfer cynnydd mewn gwahanol llinynnau dysgu o fewn pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig. Isod gallwch weld y disgrifiadau dysgu o'r datganiad o'r hyn sy'n bwysig 'archwilio' ac maent yn berthnasol i'r llinyn dysgu, rheolaeth dechnegol a ddefnyddiwyd yn yr enghraifft gynharach. Gallwch weld hynny ar y continwwm hwn - sy'n cwmpasu 12 mlynedd o ddysgu - bydd dysgwr yn symud o archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau creadigol i archwilio ac arbrofi wrth ddangos rheolaeth dechnegol. Dylai’r agweddau a'r egwyddorion cynnydd fod yn sail i drafodaethau ynghylch sut mae dysgwr yn symud ar hyd y continwwm: mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn glir o ran sut y dylid defnyddio’r disgrifiadau dysgu yn y broses o gynllunio’r cwricwlwm – maent yn bwyntiau cyfeirio, arwyddbyst sy'n helpu ymarferwyr i brofi a dilysu dulliau cynllunio. Maent yno i arwain ymarferwyr tuag at gynllunio cyfleoedd dysgu sy'n cyfrannu at y darlun ehangach hwnnw o ddilyniant. ​Bydd yr hyn y byddwch wedi’i greu drwy drafodaeth yn ddarlun mwy cyfannol o’r cynnydd ar hyd y continwwm na’r hyn a ddisgrifiwyd yn y 5 cam cynnydd yn y Disgrifiadau Dysgu.

Cynnydd sy'n benodol i ddisgyblaethau

Ar ôl canolbwyntio ar yr Egwyddorion Cynnydd gorfodol, efallai y bydd trafodaethau’n eich arwain i feddwl nesaf am natur a naws unigryw pob disgyblaeth - a’r wybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol sydd eu hangen er mwyn i ddysgwr wneud cynnydd.

O fewn yr adran Egwyddorion ar gyfer cynllunio eich cwricwlwm yn y canllawiau, mae adran ar rôl disgyblaethau mewn dysgu. Mae'n nodi'n glir 'Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw gael mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â gwahanol ddisgyblaethau ac arbenigo ynddyn nhw, yn enwedig pan fyddan nhw’n cyrraedd y camau cynnydd diweddarach. Fodd bynnag, dylai hyn fod yn broses esblygol, gyda dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i arbenigo yn raddol.' Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi 'Er y dylid cynnig cyfleoedd i ddysgwyr arbenigo, mae'n rhaid i'r cwricwlwm barhau'n eang ac yn gytbwys a dylai pob dysgwr barhau i fanteisio ar ddysgu o bob Maes drwy gydol ei amser mewn addysg orfodol .' Felly, mae angen i ysgolion a lleoliadau feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o sut y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y Celfyddydau Mynegiannol ond mae angen hefyd ddealltwriaeth o gynnydd o fewn pob un o’r disgyblaethau i sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiadau perthnasol os a phryd maen nhw eisiau arbenigo. Dylai'r drafodaeth hon ddigwydd ar ôl i ysgolion ddeall ac archwilio'r cynnydd trosfwaol o fewn yr ysgol yn seiliedig ar egwyddorion cynnydd.

Ystyriaethau sy’n benodol i ddisgyblaethau

O fewn pob Maes Dysgu a Phrofiad mae adran Dylunio eich Cwricwlwm ac mae’n taflu goleuni o fewn y Celfyddydau Mynegiannol ar ystyriaethau disgyblaeth-benodol, rhaid cofio nad ydynt yn hollgynhwysol.

Nid ydynt wedi'u grwpio, eu trefnu na'u dilyniannu mewn camau cynnydd nac i gynrychioli cynnydd.​

Os yw datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn ymwneud yn rhannol â chwricwlwm cydlynol a sicrhau trosglwyddiadau llyfn i ddysgwyr, sut ydych chi’n sicrhau bod ymagwedd gydlynol o fewn ysgolion a chlystyrau at y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau sy’n gynhenid ​​i bob disgyblaeth? A oes angen i ysgolion a chlystyrau ddatblygu dull cydlynol o ymdrin â’r elfennau a’r ffurfiau o fewn pob Maes Dysgu a Phrofiad?

Sut gallwn ni rannu ein dealltwriaeth o gynnydd?

Efallai y byddwch am ystyried sut y byddwch yn nodi'r cynnydd hwn er mwyn gallu ei rannu ag eraill yn eich ysgol a’ch clwstwr.

Gallai'r ddelwedd isod fod yn un ffordd o gynrychioli'r cynnydd hwn. Yn yr enghraifft hon o fodel cynnydd, rydym wedi dewis cylchoedd consentrig sydd wedi ein galluogi i ddangos sut mae dysgu mewn un llinyn yn adeiladu mewn haenau dros amser, gan ddod yn ehangach, yn ddyfnach ac yn fwy soffistigedig ar gyfer dysgwr unigol. Rydym hefyd wedi cyfeirio at sut y gallai egwyddorion dilyniant fod yn berthnasol yma. Enghraifft yw hon ac nid rhestr gyflawn.

Yn yr enghraifft hon,y 'llinyn' a ddewiswyd yw goresgyn her greadigol gyda ffocws ar adborth a mireinio.

Mae dysgu cynnar mewn adborth a mireinio yn golygu bod dysgwyr yn deall mai nhw yw'r artist ond hefyd y gynulleidfa ac maen nhw'n dechrau trwy wrando ac ymateb i adborth syml a thrwy roi barn neu ymatebion syml. Ar gyfer dysgwyr ag ADY neu ADDLl, byddai’r adnoddau Ar drywydd dysgu yn gymorth i ddeall sut y gellid ystyried ymateb syml dysgwr i ysgogiadau fel adborth syml.

Byddai dysgwr wedyn yn parhau i wneud cynnydd wrth dderbyn a rhoi adborth gyda’r nod o fireinio gwaith celf creadigol a byddent yn datblygu eu defnydd o eirfa feirniadol a disgyblaeth-benodol. Byddent hefyd yn datblygu gwytnwch wrth dderbyn adborth. Yn y ‘cylch allanol’ terfynol byddai dysgwyr yn dangos cynnydd pellach wrth ddadansoddi eu gwaith creadigol eu hunain a gwaith creadigol pobl eraill gan ddangos sut maent yn dehongli adborth ac yn gwneud cysylltiadau ar draws eu dysgu. Ar ochr dde’r graffigyn, gallwch weld sut mae’r cynnydd a wna dysgwyr yn cael ei adlewyrchu yn yr Egwyddorion Cynnydd ac nad yw’n benodol i ddisgyblaeth neu gynnwys.

Sut y dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd?

  • Ym mhob ysgol a lleoliad.

  • Ym mhob clwstwr – er mwyn cefnogi cydlynu dulliau o ymdrin â chynnydd rhwng gwahanol ysgolion cynradd, rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ac o ran cyfnodau pontio.

  • Lle mae’n bosibl, gan gynnwys ysgolion neu leoliadau eraill y tu hwnt i’r clwstwr. Dylai ysgolion uwchradd yn arbennig gymryd rhan mewn deialog broffesiynol ag ysgolion uwchradd eraill er mwyn cefnogi trefniadau cydweithio a chydlyniaeth ar draws darparwyr uwchradd.

  • Rhwng ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys trefniadau cydweithio rhwng ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion ac eraill sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol y mae ganddyn nhw gydberthnasau â nhw.

Camau nesaf

  • Myfyrio ar eich dealltwriaeth o gynnydd a’r modd y mae'n cael ei fynegi yn eich cwricwlwm.

  • Adnabod llinynnau dysgu ac ystyried cynnydd ar hyd y llinellau hynny.

  • Ystyried y modd y gallwch weithio gyda chyd-weithwyr yn eich ysgol ac yn eich clwstwr, a, lle bo hynny'n bosibl, gydag ysgolion tebyg eraill, i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd trwy gydol y cwricwlwm.

  • Meddwl sut y gellid defnyddio’r ddealltwriaeth hon a’i rhannu ag eraill.

Dyma gyflwyniad sy'n cydgrynhoi'r dudalen hon y gallech ei defnyddio at ddibenion hyfforddi. Mae'r sgript wedi gosod yn y man nodiadau.