Profiadau Dysgu
Mae profiadau dysgu yn cwmpasu’r holl weithgarwch a rhyngweithio lle mae dysgu’n digwydd, a hynny yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt iddo. Mae profiadau dysgu cadarnhaol yn cyfoethogi addysg pob unigolyn trwy feithrin chwilfrydedd, ehangu gorwelion a chreu llawenydd mewn dysgu.
Egwyddorion Allweddol
Mae profiadau dysgu dilys ac ystyrlon yn ysgogi dychymyg pob dysgwr ac yn hyrwyddo mwynhad.
Mae profiadau dysgu cyfoethog a chofiadwy yn galluogi pob dysgwr i wneud cysylltiadau ac i drosglwyddo sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth i gyd-destunau newydd.
Dylai ymarferwyr feddu ar wybodaeth drylwyr am ardal yr ysgol er mwyn cynllunio ar gyfer profiadau dysgu cyfoethog.
Mae partneriaethau â’r gymuned leol ac ehangach yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyd-destunau perthnasol a chyd-destunau yn y byd go iawn ar gyfer dysgu.
Dylid rhoi cyfle i ddysgwyr fod yn rhan o’r broses o gynllunio eu profiadau dysgu eu hunain.
Cyfleoedd dysgu proffesiynol:
👩🏫 Cysylltiadau ysgol i ysgol
👩🏫 Hyfforddiant – mewnol ac allanol
👩🏫 Ymchwil personol
Adnodd:
🌐 Dylunio eich cwricwlwm: Ystyriaethau ymarferol a gweithredu
Ystyriaethau allweddol:
A oes gennym ddealltwriaeth gytûn o werth y ‘profiadau’ yn y MDaPh ledled ein hysgol gyfan?
Ym mha fodd yr ydym yn paratoi ein staff ar gyfer y rhyddid i ddewis profiadau dysgu addas a fydd yn ysbrydoli ein dysgwyr ac yn galluogi dysgu dwfn?
Ym mha fodd yr ydym yn cefnogi ein staff i wneud y mwyaf o gyfleoedd dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth?
Ym mha fodd yr ydym yn sicrhau bod ein profiadau dysgu yn darparu tegwch ar gyfer ein holl ddysgwyr?
I ba raddau yr ydym yn cynnwys ein dysgwyr yn y broses o gynllunio profiadau dysgu?
A ydym wrthi’n datblygu partneriaethau yn ein cymuned leol, a’r tu hwnt iddi, er mwyn darparu cyd-destunau perthnasol a chyd-destunau yn y byd go iawn ar gyfer dysgu trosglwyddadwy?