Cynwysoldeb

Mae ysgolion cynhwysol yn creu cymuned lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi a’i drin â pharch. Maent yn meithrin ymdeimlad o berthyn sy’n cymell pob dysgwr i gymryd rhan mewn amgylchedd dysgu sy’n seiliedig ar y pedwar diben, ac i gyfrannu at yr amgylchedd dysgu hwnnw. Mae’r arferion dysgu, addysgu ac asesu yn hyblyg ac amrywiol er mwyn ymateb i anghenion, diwylliannau a diddordebau amrywiol yr holl ddysgwyr.

Egwyddorion Allweddol

  • Dylai cynhwysiant fod yn rhan annatod o weledigaeth pob ysgol.

  • Mae gan bob dysgwr hawl i addysg o safon uchel, sy’n ymatebol i’w anghenion unigol ac yn ei alluogi i gyflawni ei botensial.

  • Mae ysgolion cynhwysol yn credu yng ngallu cynhenid pob dysgwr i wneud cynnydd tuag at nodweddion y pedwar diben.

  • Mae cynwysoldeb mewn ysgolion yn dechrau trwy feithrin gwybodaeth ddofn am anghenion yr holl ddysgwyr.

  • Dylai staff gydweithio i nodi rhwystrau posibl i ddysgu cynhwysol, ac archwilio strategaethau i’w goresgyn.


"Mae pawb yn athrylith. Ond os byddwch yn barnu pysgodyn yn ôl ei allu i ddringo coeden, bydd y pysgodyn yn treulio’i oes yn credu ei fod yn dwp."

Awdur anhysbys



Ystyriaethau allweddol:

  1. Ym mha fodd yr ydym yn datblygu safonau a systemau i feithrin diwylliant o gynhwysiant yn ein hysgol?

  2. Sut yr ydym yn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad i’r cwricwlwm yn ein hysgol?

  3. Ym mha fodd yr ydym yn defnyddio ein gwybodaeth am anghenion, diwylliannau a diddordebau amrywiol ein holl ddysgwyr wrth greu a chynllunio ein cwricwlwm?

  4. A ydym yn creu amser cydweithredol i staff ymgysylltu â’r rhaglen trawsnewid ADY ac ystyried ei oblygiadau i’n hysgol?

  5. Sut yr ydym yn darparu cyfleoedd i’n holl ddysgwyr arfer eu hawl i’w mynegi eu hunain a’u safbwyntiau?