Beth yw cynnydd?

Mae cynnydd mewn dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros amser. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth y mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn maes neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau.

‘Mae hwn yn newid diwylliannol mawr o'r modd y mae pethau wedi cael eu gwneud yn flaenorol. Gwyddom fod yn rhaid i asesu adeiladu ar gynnydd: mae bod yn glir ynghylch yr hyn y mae'n ofynnol ei ddysgu, a pham a sut y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd, yn pennu sut y dylid asesu hynny.’

Jeremy Miles  

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg


Mae yna gyfanswm o 27 o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig, ac mae'r rhain yn cynrychioli crynswth yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei wybod a'i ddeall pan fyddant yn gadael addysg orfodol. Dyma hanfodion pob Maes, a rhaid i'r holl ddysgu gysylltu'n ôl â nhw. Mae’r pum egwyddor cynnydd yn darparu lefel uwch o ddealltwriaeth i ymarferwyr o ran sut y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd, ac maent yn sail i gynnydd ledled pob Maes. Fodd bynnag, yn y Maes Mathemateg a Rhifedd, mae’r model cynnydd yn seiliedig ar ddatblygu pum hyfedredd rhyngddibynnol. Mae'r disgrifiadau dysgu yn cyfleu'r modd y dylai dysgwyr wneud cynnydd yn unol â phob datganiad o'r hyn sy'n bwysig. Maent wedi'u trefnu yn ôl pum cam cynnydd, sy'n ffurfio'r continwwm dysgu.

Yr Egwyddorion Cynnydd

Mae'r egwyddorion cynnydd yn darparu gofyniad gorfodol o ran sut olwg a ddylai fod ar gynnydd i ddysgwyr.

Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:

  • ddeall beth yw ystyr cynnydd a sut olwg a ddylai fod arno ym mhob Maes

  • datblygu’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu er mwyn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir

  • datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud.


O edrych ar y datganiadau hyn yn fanylach, gallai fod yn fuddiol symleiddio'r iaith a myfyrio ar eu hystyr. Mae'r golofn ar y dde yn cynnig un dehongliad o'r egwyddorion. Bydd rhannu'r ddealltwriaeth hon a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol ar draws yr ysgol a rhwng ysgolion yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gyffredin ac iaith gyffredin o ran cynnydd. Gallai symleiddio'r iaith ein helpu i ymgysylltu â'r egwyddorion hyn o ran cynnydd a sicrhau mwy o eglurder yn eu cylch.

Mae yna resymeg ynghlwm wrth bob egwyddor cynnydd, sy'n egluro ymhellach yr hyn a olygir wrth gynnydd yn y Maes hwn. Mae'r rhain yn cwmpasu'r continwwm cyfan ar draws 3-16. Dyma lle y gallwn ddod o hyd i'r hyn a olygir wrth gynnydd ar draws y Maes. Fe welwch fod geirfa a dyfyniadau allweddol yn y canllawiau y gallech ddymuno eu hystyried ymhellach wrth ddatblygu dealltwriaeth o gynnydd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod y rhain ar lefel ysgol/clwstwr er mwyn datblygu ymhellach ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn.

Effeithiolrwydd

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, maent yn dod yn fwyfwy effeithiol wrth ddysgu mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Wrth iddynt ddod yn fwyfwy effeithiol gallant geisio cymorth priodol a nodi ffynonellau'r cymorth hwnnw'n annibynnol. Maent yn gofyn cwestiynau mwyfwy soffistigedig ac yn dod o hyd i atebion o ystod o ffynonellau ac yn eu gwerthuso. Mae hyn yn cynnwys dulliau cynyddol lwyddiannus o hunanwerthuso, adnabod eu camau dysgu nesaf, a dulliau mwy effeithiol o hunanreoleiddio.

Gwybodaeth

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol

Mae angen i feithrin gwybodaeth ehangach a dyfnach. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddant yn meithrin dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o'r cysyniadau sy'n sail i ddatganiadau amrywiol o’r hyn sy’n bwysig. Maent yn gweld y berthynas rhwng y rhain ac yn eu defnyddio i lywio’r wybodaeth ymhellach, gan wneud synnwyr ohoni a'i chymhwyso. Mae hyn yn cadarnhau eu dealltwriaeth o gysyniadau.

Dealltwriaeth

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad (Maes/Meysydd)

Mae dulliau holistaidd yn arbennig o bwysig o ran dysgu cynnar wrth i ddysgwyr ymgysylltu â'r byd o'u cwmpas. Dylai dysgwyr ddod yn gynyddol ymwybodol o ffyrdd o grwpio a threfnu syniadau a dulliau mewn modd cydlynol. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, mae angen iddynt gael profiad o ddysgu disgyblaethol a’i ddeall ym mhob un o'r Meysydd, gan weld hynny yng nghyd-destun y pedwar diben a’r datganiadau o’r hyn sy'n bwysig.

Sgiliau

Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau

Mae angen i ddysgwyr ddatblygu ystod o sgiliau gan gynnwys sgiliau corfforol, sgiliau cyfathrebu, sgiliau gwybyddol a sgiliau sy'n benodol i Faes arbennig. Yn ystod y cyfnodau cynnar, mae’r ystod hon o sgiliau yn cynnwys ffocws ar ddatblygu sgiliau echddygol bras a manwl, yn ogystal â sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. Maent hefyd yn datblygu'r sgiliau o werthuso a threfnu gwybodaeth wrth gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd maent yn cymhwyso sgiliau presennol mewn ffyrdd mwy caboledig, a byddant yn cael cyfleoedd i feithrin sgiliau newydd, mwy penodol a mwy soffistigedig.

Dros amser, mae dysgwyr yn datblygu'r gallu i drefnu nifer fwy o syniadau cynyddol soffistigedig yn effeithiol, i gymhwyso’r hyn y maen nhw’n ei wybod mewn cyd-destunau amrywiol ac i gyfleu eu syniadau'n effeithiol, gan ddefnyddio ystod o ddulliau, adnoddau neu offer sy'n briodol i'w diben a'u cynulleidfa.

Cymhwyso

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd

Dylai dysgwyr greu gysylltiadau yn fwy mwy annibynnol; ar draws dysgu mewn Maes, rhwng Maesydd, ac o fewn eu profiadau y tu allan i’r ysgol. Dros amser, bydd y cysylltiadau hyn yn gynyddol soffistigedig ac yn cael eu hesbonio a'u cyfiawnhau gan ddysgwyr. Dylent allu cymhwyso a defnyddio gwybodaeth a sgiliau a gaffaelwyd yn flaenorol mewn cyd-destunau gwahanol, anghyfarwydd a heriol.

Ymateb a Myfyrio

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi 'nawr archwilio pob un o’r egwyddorion cynnydd a’u rhesymeg gysylltiedig yn fanylach, a hynny ar ffurf tîm neu adran mewn ysgol, neu glwstwr o ysgolion. Rydym wedi darparu'r testunau angenrheidiol gyferbyn, ynghyd â thabl y gallwch ei lenwi â'r elfennau penodol o gynnydd a ganfyddir.

Yr Egwyddorion Cynnydd

Tabl i goladu'r elfennau cynnydd a nodir


Mae hon yn enghraifft o fersiwn orffenedig o'r gweithgaredd.

Efallai y bydd agweddau eraill yn berthnasol i'ch dysgwyr a'ch lleoliadau chi.


Beth yw cyd-ddealltwriaeth o gynnydd?

Mae datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn golygu bod ymarferwyr, ar y cyd yn eu hysgol neu leoliad, ledled eu clwstwr, a gydag ysgolion eraill y tu hwnt i’w clwstwr, yn mynd ati gyda’i gilydd i archwilio, trafod a deall:

  1. Eu disgwyliadau ar y cyd o ran ym mha fodd y dylai dysgwyr wneud cynnydd, a sut y dylai gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gyfrannu at hyn yng nghwricwla ysgolion a lleoliadau.

  2. Y modd i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr trwy gydol eu taith ddysgu, ac yn arbennig ar adegau pontio.

  3. Y modd y mae eu disgwyliadau ar gyfer cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill, a hynny er mwyn sicrhau cydlyniad a thegwch ledled y system addysg, a chyflymder a her digonol yn eu hymagwedd at gynnydd yn eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu.

Sut y dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd?

Bydd ysgolion yn elwa os ydynt yn cynllunio dysgu sy'n cefnogi dealltwriaeth a chymhwysiad cynyddol soffistigedig o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth iddynt gynllunio cwricwlwm yr ysgol. Mae’r canlynol yn ddull a allai fod yn ddefnyddiol i chi fel man cychwyn wrth gynllunio ar gyfer cynnydd, a gellid ei addasu i weddu i leoliad eich ysgol.

Er mwyn gwneud hyn, bydd yn rhaid i ysgolion a chlystyrau ystyried y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig fel Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Mae’r gweithdai isod yn rhoi cyfle i wneud hynny: