Trosolwg o’r adnodd Cyn Cychwyn
Gall yr adnodd Cyn Cychwyn eich cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu’r deunyddiau cwricwlwm a ryddhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio’r ddogfen hon gyda staff, ymgynghorwyr her a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo trafodaeth am daith eich ysgol tuag at Gwricwlwm i Gymru 2022. Gellir eich cefnogi i gynllunio strategaethau a fydd yn eich galluogi i wneud cynnydd tuag at greu cwricwlwm lleol sy’n darparu mynediad i a chyfleoedd i gaffael ar y profiadau, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithredol ac i gyflawni’r pedwar diben.
Mae'r adnodd cyn-cychwyn yn archwilio'r meysydd canlynol: Gweledigaeth, Egwyddorion dylunio, Methodoleg a Chyd-destun ar gyfer dysgu. Efallai y bydd o gymorth i chi nodi cryfderau eich ysgol a’r blaenoriaethau i fynd i’r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022. Gall y wybodaeth a gesglir fwydo i mewn i hunanarfarnu a chynllunio gwelliant.
Dogfennau cyn-cychwyn enghreifftiol
Ar y tudalennau canlynol mae dogfennau cyn-cychwyn a gwblhawyd gan amrywiaeth o ysgolion o fewn rhanbarth Partneriaeth. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r penaethiaid am roi o'u hamser ac am eu caniatâd i rannu eu syniadau. Cliciwch ar y delweddau i lawrlwytho'r dogfennau perthnasol.
Math: 3-11 oed
Iaith: Saesneg
Nifer o ddisgyblion: 157
PAM: 3.7%
Cymhareb Athro Dysgwr: 24.4
Presenoldeb: 95.8%
Cyllid disgybl: £3848
Categori cymorth: Gwyrdd
Math: 3-11 oed
Iaith: Saesneg
Nifer o ddisgyblion: 228
PAM: 8.1%
Cymhareb Athro Dysgwr: 30.1
Presenoldeb: 95.5%
Cyllid disgybl: £3515
Categori cymorth: Gwyrdd
Math: 3-16 oed
Iaith: Dwy ffrwd
Nifer o ddisgyblion: 445
PAM: 59%
Cymhareb Athro Dysgwr: 21.2
Presenoldeb: 90.5%
Cyllid disgybl: £4201
Categori cymorth: Oren
Math: 11-16 oed
Iaith: Saesneg
Nifer o ddisgyblion: 1198
PAM: 16.2%
Cymhareb Athro Dysgwr: 17.2
Presenoldeb: 94.9%
Cyllid disgybl: £4010
Categori cymorth: Melyn