Beth ydym ni am i'n dysgwyr ei ddysgu a pham?

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm a arweinir gan ddibenion gyda ffocws ar ddysgu. Dywed Cwricwlwm i Gymru 'nad yw cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar gynnwys yn sicrhau dysgu ystyrlon, dim ond bod rhai pynciau yn cael sylw i ryw raddau'; rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddeall y newid o gynnwys i ddysgu ystyrlon. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi’r ymreolaeth i ysgolion ac ymarferwyr ddewis dysgu ar gyfer eu dysgwyr a ddylai eu galluogi i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.


Dylai fod diben clir i’r holl waith o ddatblygu’r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth glir o ddiben dysgu a pham mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn helpu i roi ffocws i’r gwaith o gynllunio cynnydd a dysgu ac addysgu.

Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm

Nod y gweithdy hwn yw eich cefnogi i ddewis dysgu wrth i chi ddatblygu eich cwricwlwm Iechyd a Lles yn eich ysgol. Fe’i crëir i ddilyn ein gweithdy blaenorol ar greu gweledigaeth a rennir ar gyfer dysgu yn y Maes hwn.

Bydd yn ystyried:

  • Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm a arweinir gan ddibenion

  • y symud o gynnwys i ddysgu

  • sut i ddefnyddio'ch gweledigaeth i ddethol dysgu

  • sut i ddethol dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

  • eich camau nesaf fel tîm

Y newid o gynnwys i ddysgu

Y peth pwysicaf i'w ddeall am Gwricwlwm i Gymru yw ei fod yn cael ei lywio gan ddibenion ac mae hyn yn golygu bod y pwyslais yn symud o'r hyn y mae dysgwyr yn ei wybod i'r bobl y byddant yn tyfu i fod. Dylai cwricwlwm ysgol hyrwyddo dysgu a fydd yn arfogi pob dysgwr ar gyfer dysgu parhaus, gwaith a bywyd. Gyda'r newid yng Nghwricwlwm i Gymru yn symud o gynnwys i ddysgu, mae'n bwysig iawn bod gennym ddealltwriaeth dda o'r hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd.

Ymateb a myfyrio

Beth yw'r dysgu? - Dyma lun y gellid ei ddefnyddio fel ysgogiad ar gyfer dysgu ym maes Iechyd a Lles.

Yn flaenorol, efallai y byddai wedi cael ei ddefnyddio dim ond i roi gwybod i'r dysgwyr am anghydraddoldebau cymdeithasol y gallent eu gweld yn eu hardal leol. Fodd bynnag, mae Cwricwlwm i Gymru yn gofyn i ni symud ein ffocws o'r cynnwys i'r dysgu.

O ystyried hyn, beth y gellid ei ddysgu yma mewn gwirionedd?

Gall rhai enghreifftiau o'r dysgu gynnwys: meithrin empathi, cydraddoldeb, system ddosbarth, tlodi, diwylliant, parch at ein gilydd, gweithredu cymdeithasol, deall pobl eraill, ystyr cymuned, coleddu amrywiaeth, cynhwysiant, i gyd mewn cyd-destun Lleol, Cenedlaethol, Rhyngwladol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu nodi mwy. Fodd bynnag, yr hyn a ddylai fod yn glir yw'r newid ffocws o'r dasg ei hun i'r dysgu ystyrlon. Gall y cwestiynau canlynol eich helpu i ddiffinio ac adnabod y dysgu wrth ddylunio eich cwricwlwm.

  • Beth yw'r dysgu yma?

  • Pam mae’r dysgu hwn yn bwysig i’n dysgwyr?

  • A yw'n eu galluogi i symud ymlaen tuag at y pedwar diben?

Sut ydyn ni'n mynd ati i ddewis dysgu ar gyfer ein cwricwlwm?

Sut ydyn ni’n penderfynu beth sydd angen i’n dysgwyr ei ddysgu?

Rhan o'r gwaith allweddol yng ngham Ymgysylltu dogfen Llywodraeth Cymru, Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu'r cwricwlwm, yw y dylai ysgolion ddatblygu neu ddiweddaru eu gweledigaeth ar gyfer dysgu. Os ydych wedi cytuno ar ddrafft cyntaf o'ch gweledigaeth ar gyfer dysgu, byddwch yn symud o'r cam ymgysylltu i'r cam cynllunio, trefnu a threialu.

Fe wnaethom awgrymu eich bod yn:

  • ceisio ysbrydoliaeth o'r pedwar diben a'u nodweddion,

  • cael dealltwriaeth ddyfnach o weledigaeth y Iechyd a Lles a deall yr hyn sy’n newydd yn y canllawiau,

  • archwilio anghenion eich dysgwyr ac anghenion eich cymunedau,

  • ystyried pwysigrwydd y celfyddydau i gefnogi lles

Gallai’r weledigaeth hon ar gyfer dysgu yn y Iechyd a Lles fod yn fan cychwyn i chi ar gyfer dewis y dysgu.

Beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu yn y Iechyd a Lles?

Eich gweledigaeth ar gyfer y Iechyd a Lles

Sut gall eich gweledigaeth ar y cyd ar gyfer dysgu lywio eich dewis o ddysgu a nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu?

Ystyriwch sut y gall eich gweledigaeth fod yn fan cychwyn i chi ddechrau nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.

Mae eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn cynrychioli’r dyheadau ar gyfer eich dysgwyr ac felly mae angen ichi gyfeirio ati drwy gydol y broses ddylunio. Bydd dadansoddiad o’r weledigaeth yn nodi agweddau allweddol ar ddysgu y gallech ddewis eu treiddio trwy eich cwricwlwm ar gyfer y Iechyd a Lles. Defnyddir gweledigaeth enghreifftiol, a grëwyd at ddiben y dasg hon, yn yr ymarfer ymateb a myfyrio isod.

Ymateb a Myfyrio

Gan edrych ar yr enghraifft hon ar y dde, sy’n mynegi’r dyheadau ar gyfer dysgwyr yn y Iechyd a Lles, gallwn ddewis elfennau o’r weledigaeth a llunio cwestiynau sy’n darparu’r sail ar gyfer datblygu elfen o ddysgu.

  • Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau y mae ar eich dysgwyr eu hangen i ddeall meddyliau, teimladau ac emosiynau?

  • Pa fath o brofiadau a fydd yn eu helpu i ddod yn ffit ac yn iach?

  • Sut y gallwch ddatblygu cyfleoedd i'ch dysgwyr ddod yn unigolion empathig?

  • Sut mae'r dysgu a nodwyd yn cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben?

Y weledigaeth ar gyfer ein dysgwyr yw bod yn rhan o gymuned ysgol lle y maent yn rhydd i allu deall a mynegi eu meddyliau, eu teimladau a'u hemosiynau mewn byd sy'n newid yn gyson. Maent yn gwybod i sicrwydd bod yna ethos cynhaliol yn eu hamgylchynu o du staff a ffrindiau. A hwythau'n unigolion hyderus, iach, maent yn cydnabod pwysigrwydd ffitrwydd a ffordd iach o fyw. A hwythau'n ddysgwyr empathig, maen yn cydnabod yr angen i barchu teimladau, credoau a hawliau pobl eraill, gan werthfawrogi, ar yr un pryd, natur amrywiol yr ysgol, cymunedau lleol, Cymru a'r byd ehangach.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi’r ddealltwriaeth allweddol y mae’n rhaid i ddysgwyr ei datblygu ac mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd yn orfodol.

Y daith i weithredu’r cwricwlwm 2021

Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.

Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles.

Mae angen i bob ymarferwr fod yn ymwybodol o'r ffaith bod pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn cynnwys manylion sydd o dan ei 'deitl' pennawd ac yma y mynegir yr hyn a ddysgir ar gyfer y datganiad hwnnw. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn statudol yng Nghwricwlwm i Gymru.

Ym maes Iechyd a Lles, mae'r dysgu wedi cael ei fynegi mewn pum datganiad sy'n cefnogi ac yn ategu y naill a'r llall, ac ni ddylid eu hystyried ar wahân. Bwriedir iddynt fod yn ‘lensys’ y gellir archwilio pynciau a materion gwahanol trwyddynt, gan roi hyblygrwydd i ymarferwyr nodi'r rhai sy'n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu lleoliad neu ysgol, a'u cymuned. Gyda'i gilydd maent yn cyfrannu at y broses o gefnogi'r dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Ymateb a Myfyrio

Isod gwelwch un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn. Mae'r dysgu wedi'i nodi trwy danlinellu ymadroddion allweddol ym mhob brawddeg. Ystyriwch yn ofalus a yw'r ymadroddion yn nodi'r dysgu neu'r deilliannau dysgu.

Bydd y gweithgaredd hwn yn eich cefnogi i nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu yn y datganiad hwn. Rydym yn awgrymu eich bod yn rhannu ac yn cymharu eich syniadau â'ch cyd-weithwyr, ac yn rhoi syniadau at ei gilydd ar gyfer y dysgu yn eich cwricwlwm.

Ewch trwy'r un broses ar gyfer y datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ac rydych yn sicr o weld pethau cyffredin rhyngddynt, sy'n adlewyrchiad o ba mor gydgysylltiedig ydynt. Byddwch hefyd yn dechrau gweld iaith gyffredin yn datblygu ar draws y meysydd dysgu a phrofiad.

Cwestiynau allweddol i'w hystyried yn ystod y gweithgaredd hwn:

  • Beth y mae angen i'n dysgwyr ei wybod a'i ddeall?​

  • Pa wybodaeth, sgiliau a phrofiadau y mae eu hangen ar eich dysgwyr i ddatblygu'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis?

  • Pam y mae’r dysgu hwn yn bwysig a sut y mae’n galluogi eich dysgwyr i weithio tuag at y pedwar diben?

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Gall y Maes hwn helpu dysgwyr i archwilio’r cysylltiadau rhwng eu profiadau, eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol. Wrth gael cyfleoedd i archwilio cymhlethdodau’r cysylltiadau hyn, galluogir dysgwyr i ddeall nad yw teimladau ac emosiynau’n sefydlog nac yn gyson.

Bod yn ymwybodol o’n teimladau a’n hemosiynau ein hunain sy’n rhoi’r sylfaen i ni ddatblygu empathi. Gall hyn ein galluogi i ymddwyn mewn ffordd sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol eraill. Wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau sydd o gymorth iddyn nhw reoli eu hemosiynau, gall hyn yn ei dro gyfrannu tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol, gan alluogi dysgwyr i sylwi pryd a lle mae ceisio help a chefnogaeth; i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ac yn gallu eirioli ar ran eraill.

Wrth ddysgu sut i fynegi eu teimladau, bydd dysgwyr mewn sefyllfa well i greu diwylliant lle mae siarad am iechyd meddwl a lles emosiynol yn weithred arferol.

Gallai creu tabl tebyg i’r enghraifft a ddarparwyd fod yn un dull ar gyfer y cam hwn o ddylunio’r cwricwlwm. Yn yr enghraifft hon gallwch nodi’n glir y dysgu a ddewiswyd o’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig a sut mae hyn wedi’i ddehongli i ystyried hanfod y dysgu hwnnw. Mae lle wedi'i ddarparu i'r ymarferwyr ystyried y wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau y mae angen i'w dysgwyr eu datblygu.

Mae enghreifftiau wedi'u darparu ar sut y gallai'r dysgu hwn ddatblygu rhai o nodweddion y pedwar diben.

Cliciwch ar y ddogfen i'w lawrlwytho.

Y camau nesaf

Fel eich camau nesaf rydym yn awgrymu'r canlyn:

  • Ailedrychwch ar eich gweledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad

  • Dethol y dysgu o'ch gweledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad

  • Dethol y dysgu o bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig

  • Trafodwch y ffordd orau o gofnodi a chynrychioli'r dysgu rydych wedi'i ddewis.

  • Yn olaf, bydd yn bwysig eich bod yn rhannu eich dysgu gyda MDPh eraill.

Mae'n debyg y gwelwch fod pethau cyffredin yn y dysgu â MDPh eraill. Mae’r dysgu hwn yn cynnig cyfleoedd i gydweithio ac i adeiladu cysylltiadau ar draws y cwricwlwm er mwyn creu profiad dysgu cyfannol ac ystyrlon i’r dysgwr.

Mae’n bwysig eich bod yn buddsoddi amser gyda’ch gilydd fel timau i ddatblygu’r cam hwn o ddethol y dysgu yn Iechyd a Lles ac ystyried y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cefnogi eich dysgwyr i symud ymlaen tuag at bedwar diben Cwricwlwm i Gymru.

Am fwy o wybodaeth, cyngor neu adnoddau i gefnogi dysgu o fewn Iechyd a Lles, cysylltwch â’r Tîm Cwricwlwm yma:

📧 sophie.flood@partneriaeth.cymru