Eich gweledigaeth
Mae gweledigaeth ysgol yn cwmpasu’r dyheadau a’r nodau ar gyfer dyfodol ysgol fel cymuned ddysgu. Adlewyrchir gweledigaeth mewn ymrwymiad a rennir a hyn sy’n llywio’r cwricwlwm ac arfer beunyddiol yr ysgol gyda’i gilydd.
Egwyddorion Allweddol
Mae’r weledigaeth yn amlinellu’r darlun mawr sy’n darparu diben a chyfeiriad i bob aelod o gymuned yr ysgol.
Cryfheir gweledigaeth trwy gynnwys cymuned gyfan yr ysgol yn y broses o’i chreu.
Mae angen ystyried cyd-destun unigryw’r ysgol wrth greu’r weledigaeth.
Mae gan bawb ran i’w chwarae, ac maent yn deall eu rôl wrth weithio tuag at y weledigaeth.
Mae’r ddealltwriaeth hon yn sicrhau cymhelliant, perchnogaeth ac ymdeimlad o gyfrifoldeb.
Ystyriaethau allweddol:
Beth yw anghenion a blaenoriaethau ein hysgol?
Sut yr ydym yn sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn gallu cyfrannu at ein gweledigaeth?
Sut y mae ein gweledigaeth yn cael ei chreu, ei chyfleu a’i hadolygu?
Sut yr ydym yn sicrhau bod ein gweledigaeth yn cael ei gwireddu trwy ein proses gwneud penderfyniadau, a hynny ar bob lefel?
A ydym yn ystyried dysgu proffesiynol pob aelod o gymuned yr ysgol wrth iddynt baratoi i gyflawni eu rolau?
Adnodd:
Gweledigaeth teg
Beth a olygwn wrth degwch?
Ystyr tegwch yw sicrhau bod anghenion gwahanol pawb yn cael eu diwallu fel y gallant fod yn llwyddiannus a gwireddu eu potensial llawn.
Beth a olygwn wrth les?
Mae lles yn ymwneud â chreu’r amodau i unigolion a chymunedau ffynnu. Mae’n cwmpasu ein hiechyd emosiynol, corfforol a meddyliol, ac mae’n gwbl sylfaenol i ddysgu digwydd.
Egwyddorion Allweddol
Dylai meithrin amgylchedd diogel a chefnogol i bawb ffynnu fod yn rhan annatod o weledigaeth yr ysgol.
Mae darparu tegwch yn ein hysgol yn gam pwysig tuag at leihau anghydraddoldebau a darparu’r cyfleoedd gorau posibl i bawb.
Gall ymagwedd ysgol gyfan gytunedig o ran lles a thegwch arwain at gymuned ddysgu lewyrchus sydd, ar y cyd, yn rhannu ymdeimlad o ystyr a diben.
Ystyriaethau allweddol:
A oes gennym ddealltwriaeth gytûn o anghenion ein staff ac anghenion pob dysgwr mewn perthynas â thegwch a lles?
Sut yr ydym yn cefnogi ein staff i ddeall ac ymateb i’r cysylltiad cynhenid sydd rhwng lles a dysgu?
A yw ein hymrwymiad i lles ein staff a’n dysgwyr yn amlwg ar bob lefel ac ym mhob cyd-destun yn ein hysgol?
Sut y gallwn sicrhau bod ein strategaethau i hyrwyddo tegwch a lles yn ein hysgol yn rhai effeithlon?
Gweithdai gweledigaeth ysgol gyfan
Mae Cwricwlwm i Gymru yn sail i'r holl ddiwygiadau cyfredol, i'n galluogi i wireddu'r genhadaeth genedlaethol o wella addysg yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae'n rhoi cyfle unigryw i bob ysgol a lleoliad greu cwricwlwm newydd ar gyfer dyfodol ein plant a'n pobl ifanc.
Creu gweledigaeth ar gyfer eich ysgol fydd y man cychwyn ar gyfer dylunio'r cwricwlwm newydd hwn. Nid 'Sut y bydd hi os gwnawn pethau'n well?' yw'r cwestiwn i'w ofyn i chi eich hun, ond 'sut y gallai fod pe byddem yn gwneud pethau yn wahanol?’
Eich gweledigaeth a'r MDPh
Mae'r chwe gweithdy MDaPh canlynol yn gam cyntaf wrth i chi ddechrau ymgysylltu â gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru, cyn dechrau ar y broses gynllunio. Mae’r chwe maes dysgu a phrofiad yn ofyniad i bob ysgol, ac i’w hystyried yn gyfrwng i alluogi ysgolion a lleoliadau i wireddu gweledigaeth ac egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Felly, rhaid ystyried y canllawiau cyffredinol a'r canllawiau ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad gyda'i gilydd, a hynny trwy gydol y broses gynllunio. Mae'n bwysig cofio bod y canllawiau ar gyfer pob Maes yn cynnwys dim ond yr hyn sy'n unigryw i bob maes dysgu a phrofiad.
Mae’r chwe maes dysgu a phrofiad hyn yn dod â disgyblaethau gwahanol ynghyd trwy gyfleoedd sy'n cefnogi dysgwyr i wneud cysylltiadau ystyrlon nid yn unig o fewn y Meysydd eu hunain ond hefyd ar draws Meysydd. Mae hyn yn caniatáu i'r cysylltiadau eu hailadrodd eu hunain a throsglwyddo i gyd-destunau gwahanol, gan arwain at ehangder a dyfnder yn y dysgu ar gyfer y dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen tuag at y pedwar diben. Er bod natur unigryw pob Maes yn bwysig, mae cydweithredu o fewn ac ar draws y Meysydd yn hanfodol os ydym yn mynd i lunio cwricwlwm holistaidd ac integredig ar gyfer pob dysgwr.
Mae'r dysgu hanfodol sy'n ofynnol i wireddu'r pedwar diben ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad yn cael ei grynhoi yn y 27 o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â'r disgrifiadau dysgu. Mae'r datganiadau'n cynrychioli cyfanswm yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei wybod a'i ddeall pan fyddant yn gadael addysg orfodol, a dylid eu hystyried ar y cyd fel y gellir gwneud cysylltiadau ledled y meysydd dysgu a phrofiad i ddarparu fframwaith dysgu cydlynol.
Bydd y gweithdai hyn yn cynnig cyfleoedd i fyfyrio ar y weledigaeth a'r egwyddorion allweddol ar gyfer pob Maes, i gael dealltwriaeth glir o'r hyn sy'n newydd, ac i ystyried ymagweddau newydd tuag at addysgeg. Maent yn cynnwys gweithgareddau awgrymedig, y gallwch eu cyflawni yn unigol neu ar y cyd, a dylent ddarparu man cychwyn wrth i chi greu eich gweledigaeth eich hun ar gyfer eich dysgwyr chi.