Beth y mae angen i’n dysgwyr ei ddysgu a pham?


Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm pwrpasol sy’n canolbwyntio ar ddysgu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn nodi nad yw cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar gynnwys yn gwarantu dysgu ystyrlon. Dim ond pynciau penodol sy'n cael eu cynnwys yn helaeth; rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddeall y newid o'r cynnwys i ddysgu ystyrlon. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi’r ymreolaeth i ysgolion ac ymarferwyr ddewis y dysgu ar gyfer eu dysgwyr a ddylai eu galluogi i gyflawni pedwar diben y cwricwlwm.



'Dylai fod diben clir i’r holl waith o ddatblygu’r cwricwlwm. Mae dealltwriaeth glir o ddiben dysgu a pham mae gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau penodol yn bwysig yn helpu i roi ffocws i’r gwaith o gynllunio cynnydd a dysgu ac addysgu.'

Y daith i weithredu’r cwricwlwm 2021

Gallai enghraifft o hyn o fewn cyd-destun Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg fod fel a ganlyn:

Dyma ffotograff o eitem newyddion lle mae fferm wynt yn cael ei datblygu yng Nghymru. Gellid ei ddefnyddio i ysgogi'r dysgu ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Yn flaenorol, efallai y byddai'r eitem hon wedi cael ei defnyddio'n unig i roi gwybod i'r dysgwyr am y digwyddiad hwn. Fodd bynnag, mae Cwricwlwm i Gymru yn gofyn i ni ganolbwyntio ar y ‘dysgu' yn hytrach na’r ‘cynnwys’. O ystyried hyn, beth y gellid ei ddysgu yma mewn gwirionedd?

Gall rhai enghreifftiau o’r dysgu gynnwys: datrys problemau, logisteg, adnoddau, lleisio barn, cyfrifoldebau cymdeithasol, cenedlaethol a byd-eang, tegwch, hunanymwybyddiaeth, achub yr amgylchedd, gwneud penderfyniadau. Efallai y byddwch hefyd yn gallu nodi mwy, fodd bynnag, yr hyn a ddylai fod yn glir yw'r newid yn y ffocws o'r dasg ei hun i hanfod dysgu.

Gall y cwestiynau canlynol eich helpu i ddiffinio a nodi hanfod dysgu wrth gynllunio eich cwricwlwm:

Beth yw'r dysgu yma?

Pam y mae'r dysgu hwn yn bwysig i'n dysgwyr?

A yw'n eu galluogi i wneud cynnydd tuag at y Pedwar Diben?

Ymateb a Myfyrio

Gellir dod o hyd i hanfod dysgu mewn nifer o leoedd, boed hynny yn yr ysgogiadau (a ddangosir uchod - tyrbinau gwynt) neu yn y profiadau a ddarperir. Isod ceir enghreifftiau o bum ysgogiad posibl ynghyd â thempled y gellir ei olygu i greu eich un eich hun i chi ei ystyried a'i drafod. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio'r rhain fel ffocws ar gyfer trafodaeth yn eich ysgol neu'ch adran wrth ddechrau'r broses o ddewis y dysgu.

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r ddogfen hon.

Sut mae mynd ati i ddewis dysgu ar gyfer ein cwricwlwm a sut mae penderfynu beth sydd angen i'n dysgwyr ei ddysgu?


Yn ystod cyfnod ymgysylltu datblygu'r cwricwlwm byddwch wedi ymgysylltu â deunyddiau'r cwricwlwm ac wedi cael amser i’w deall. Efallai eich bod chi a'ch tîm wedi creu gyda'ch gilydd, ddatganiad o weledigaeth sy'n dangos yr hyn rydych chi ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Gwnaethom awgrymu eich bod yn:

  • ceisio ysbrydoliaeth o'r pedwar diben a'u nodweddion

  • meithrin dealltwriaeth ddyfnach o weledigaeth Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a deall yr hyn sy'n newydd yn y canllawiau

  • archwilio anghenion eich dysgwyr ac anghenion eich cymunedau

  • ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol eraill

  • ac ystyried datblygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol fydd â goblygiadau i ddysgu yn y Maes hwn.

Gallai’r weledigaeth hon ar gyfer dysgu ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg fod yn fan cychwyn i chi ar gyfer dewis y dysgu.


Beth y mae angen i’n dysgwyr ei ddysgu ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg?

Sut y gall eich gweledigaeth ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg a ddatblygwyd ar y cyd helpu i nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu?


Mae'r weledigaeth ar gyfer dysgu yn cynrychioli’r dyheadau ar gyfer eich dysgwyr ac felly mae angen i chi gyfeirio ati drwy gydol y broses gynllunio. Bydd dadansoddi'r weledigaeth yn nodi agweddau allweddol ar ddysgu y gallech ddewis eu treiddio drwy eich cwricwlwm ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Ymateb a Myfyrio

Felly, beth am ystyried am eiliad sut y gall eich gweledigaeth ddarparu man cychwyn lle gallwch ddechrau nodi'r hyn y mae angen i'ch dysgwyr ei ddysgu.

O edrych ar yr enghraifft hon sy'n mynegi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ein model ysgol Academi, gallwn ddewis elfennau o'r weledigaeth a llunio cwestiynau sy'n sail ar gyfer datblygu elfen o ddysgu.

Beth sydd ei angen i ysbrydoli dysgwyr?

Sut gallwn ni ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr feddwl yn feirniadol, datrys problemau, cynllunio a chydweithio?

Pam mae angen iddyn nhw ddeall sut mae'r byd yn gweithio?

Beth sydd angen iddynt ei ddysgu i ddod â gwerth i gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn?

Nid yw'n anodd gweld sut y gallai cwestiynau o'r fath ddechrau ein helpu i ffurfio’r dysgu sy’n ofynnol.

Bydd dysgu am Wyddoniaeth a Thechnoleg gyda'n gilydd yn ysbrydoli ein dysgwyr i fod yn unigolion a all feddwl yn feirniadol, datrys problemau, cydweithio, cynllunio ac arloesi’n fedrus.   Trwy ddealltwriaeth o'r modd y mae ein byd yn gweithio, bydd ein dysgwyr yn mwynhau darganfod a bydd eu creadigrwydd a'u dychymyg yn cael eu tanio, gan ychwanegu gwerth at gymdeithas fwy teg a chyfiawn. 

Datganiadau ynghylch yr hyn sy’n bwysig ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol ar gyfer deall a rhag-weld ffenomenâu.

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Mae'r byd o'n cwmpas yn llawn o bethau byw sy'n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn llunio ein bywydau.

Mae grymoedd ac egni yn darparu sylfaen ar gyfer deall ein bydysawd.

Cyfrifiadureg yw'r sylfaen ar gyfer ein byd digidol.

Mae angen i bob ymarferwr fod yn ymwybodol o’r ffaith bod pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn cynnwys manylion sy’n sail i’w ‘bennawd ac yma y caiff y dysgu ar gyfer y datganiad hwnnw ei fynegi. Mae’r datganiadau hyn o’r hyn sy’n bwysig yn statudol o fewn y Cwricwlwm i Gymru.


Ym maes Iechyd a Lles, mae'r dysgu wedi cael ei fynegi mewn pum datganiad sy'n cefnogi ac yn ategu'r naill a'r llall, ac ni ddylid eu hystyried ar wahân. Bwriedir iddynt fod yn ‘lensys’ y gellir archwilio pynciau a materion gwahanol trwyddynt, gan roi hyblygrwydd i ymarferwyr nodi'r rhai sy'n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu lleoliad neu ysgol, a'u cymuned. Gyda'i gilydd maent yn cyfrannu at y broses o gefnogi'r dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Cyn edrych ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer y Dyniaethau, mae'n bwysig ystyried y berthynas rhwng y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Yn y Maes dylid ystyried eu bod yn deg ac aflinol, ac mae yna gydgysylltiadau amlwg rhwng y datganiadau. Golyga hyn na ddylid mynd i'r afael â'r Datganiadau ar eu pen eu hunain. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm cyfannol ac felly gall y dysgu gwmpasu llawer o agweddau o nifer o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Dylai natur integredig y dysgu hefyd olygu y gellir mynd i'r afael ag agweddau ar ddatganiadau eraill o Feysydd eraill, a dyma lle bydd trosglwyddo a dysgu dyfnach yn digwydd. Wrth gynllunio ar gyfer y dysgu, byddem yn eich annog i ystyried pob un o'r 27 o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig.



Mae’r ddogfen ar y chwith yn rhoi crynodeb i chi o’r 27 o ddatganiadau ynghylch yr hyn sy’n bwysig ar dudalen.

Gallwch lawrlwytho fersiwn MS Word o’r ddogfen hon y mae ei modd ei golygu fel y gallwch ei haddasu i’ch dibenion chi.

Lawrlwytho fersiwn PDF o’r ddogfen hon.


Ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes hwn

Yn y Maes hwn, gellir ystyried bod y cyd-destunau a'r profiadau allweddol ar gyfer datblygu sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd y dysgwyr yn

  • weithdrefnol – gwybodaeth am sut i ymgymryd â gweithgareddau gwyddoniaeth a thechnoleg

  • epistemig – gwybod am eu gwerth a'u lle mewn cymdeithas

  • cynnwys – dysgu 'am' wyddoniaeth a thechnoleg

Dylai’r rhain hefyd gael eu hystyried wrth ddewis y dysgu, gan y gallant fod o ddefnydd wrth bennu ffocws y gwaith.

I weld trosolwg mwy manwl o’r cyd-destunau allweddol a’r ystyriaethau penodol ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg darllenwch y canllawiau.

🌐 Cynllunio Eich Cwricwlwm: Ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes hwn

Ymateb a Myfyrio

Beth y mae angen i’n dysgwyr ei ddysgu ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg? – crynodeb o’r gweithgareddau

Gan ddefnyddio eich gweledigaeth, nodweddion y pedwar diben, y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac ystyriaethau penodol byddwch yn dechrau nodi dysgu sy'n hanfodol i'ch dysgwyr.

Mae'r dasg hon yn eich galluogi i ystyried y rhain a dewis dysgu a fydd yn hanfodol i'ch cwricwlwm lleol.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gofnodi a chasglu eich barn ar ddalen fel yr un a ddangosir yma sy'n enghraifft o weithdy diweddar mewn ysgol. Ni ddarperir hwn fel rhestr gynhwysfawr na dull diffiniol ond dylech ei addasu i'ch anghenion eich hun.

Lawrlwytho fersiwn MSWord o’r ddogfen hon y gallwch ei golygu.

Lawrlwytho fersiwn PDF o’r ddogfen hon.

Y camau nesaf


Awgrymwn y camau nesaf canlynol:

  • Ailedrychwch ar eich gweledigaeth ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad

  • Dewiswch y dysgu o'ch gweledigaeth ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad

  • Dewiswch y dysgu o bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig

  • Dewiswch y dysgu o’r cyd-destunau allweddol a’r canllawiau ynghylch ystyriaethau allweddol

  • Byddwch am drafod y ffordd orau o gofnodi a chynrychioli'r dysgu yr ydych wedi'i ddewis

  • Ac yn olaf, bydd yn bwysig eich bod yn rhannu eich dysgu â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.


Fe welwch fod elfennau cyffredin yn y dysgu gyda Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill. Mae'r dysgu hwn yn cynnig cyfleoedd i gydweithio ac i ffurfio cysylltiadau ar draws y cwricwlwm er mwyn creu profiad dysgu cyfannol ac ystyrlon i'r dysgwr.


Mae'n bwysig eich bod yn neilltuo amser gyda'ch gilydd fel timau i ddatblygu'r cam hwn o ddewis y dysgu mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac ystyried yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau a fydd yn cefnogi eich dysgwyr i gyflawni cynnydd o ran pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.

Gallwch weld rhagor o enghreifftiau o gam hwn y broses gynllunio yma: **INSERT ACADEMI LINK**

I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ynghylch Maes Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg cysylltwch â:

📧 adrian.smith@partneriaeth.cymru

📧
stuart.jacob@partneriaeth.cymru