Tegwch mewn Addysg - Dysgu Proffesiynol
Mae’r set hon o ddeunyddiau dysgu proffesiynol ar gael am ddim i bob athro mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru.
Mae cyllid wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, drwy EAS, GwE, Partneriaeth Canolbarth Cymru a Partneriaeth. Gall holl athrawon Cymru gael mynediad at y deunyddiau yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch trwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Hwb.
Edrychwch ar yr adnodd Addysgu a Dysgu i gefnogi Dysgwyr sy’n Agored i Niwed a Dan Anfantais i weld sut allwch chi fynd ati i gefnogi dysgwyr yn eich dosbarth chi.
Rhaglen Ymgysylltu â Theuluoedd a'r Gymuned
Mae rhaglen genedlaethol ar gael i gefnogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a'r Gymuned. Cyflwynir y rhaglen drwy bedwar modiwl dros gyfnod o wyth wythnos ac mae'n defnyddio pecyn Llywodraeth Cymru - Wynebu’r her gyda’n gilydd: pecyn cymorth ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd i ysgolion yng Nghymru.
Rhwng pob modiwl, bydd cyfranogwyr yn cael eu harwain i gwblhau ymchwil gweithredu yn yr ysgol er mwyn sicrhau bod eu cynnig yn diwallu anghenion eu cymuned ehangach.
Trosolwg o'r Rhaglen:
Thema 1: Arweinyddiaeth ar gyfer system hunanwella
Thema 2: Ymgorffori dull ysgol gyfan at Wynebu’r her gyda’n gilydd
Thema 3: Croesawu teuluoedd i ymgysylltu â'r ysgol
Thema 4: Helpu teuluoedd i gefnogi dysgu eu plentyn yn weithredol
Thema 5: Datblygu partneriaethau cymunedol a gweithio amlasiantaethol