Cymeradwyaeth gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
Ym mis Mai 2022, llwyddodd y rhaglen a gyflwynwyd ar y cyd gan Results Driven Group a Chonsortia Addysg Cymru i gael ei chymeradwyo’n llwyddiannus.
Mae cymeradwyaeth gan yr Academi Arweinyddiaeth yn dangos bod y ddarpariaeth wedi bodloni'r safonau uchel a nodir yn y meini prawf cymeradwyo trwy broses ddau gam trylwyr sy'n cael ei goruchwylio gan dîm yr Academi Arweinyddiaeth, Cymdeithion yr Academi a rhanddeiliaid.
Mae cymeradwyo yn sicrhau arweinwyr bod y ddarpariaeth y maen nhw'n buddsoddi ynddi yn cael ei hategu gan dystiolaeth ryngwladol ar yr hyn sy'n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i ddysgwyr.
Pwrpas y gymeradwyaeth yw sicrhau bod modd cydnabod y ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth fwyaf effeithiol sy'n cael ei chynnig ar hyn o bryd. Nod cymeradwyo yw sicrhau tegwch o fynediad at ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel ledled Cymru.
Rydym yn annog pob darparwr sy'n datblygu ac yn darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i gyflwyno eu darpariaeth i gael ei chymeradwyo.
Mae'r broses gymeradwyo yn sicrhau bod darpariaeth arweinyddiaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn bodloni uchelgais ein diwygiadau addysgol Cenedlaethol ac yn cefnogi'r blaenoriaethau polisi strategol ar gyfer pob lleoliad addysgol.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)