Ardystiad yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru
Mae’r Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth Cenedlaethol canlynol wedi’u cymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Rhaglen Datblygu Arweinwyr Canol
Rhaglen Datblygu Uwch Arweinwyr
Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP
Rhaglen Datblygu Penaethiaid Newydd a Dros Dro
Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Mae cymeradwyaeth gan yr Academi Arweinyddiaeth yn dangos bod y ddarpariaeth wedi bodloni'r safonau uchel a nodir yn y meini prawf cymeradwyo trwy broses ddau gam trylwyr sy'n cael ei goruchwylio gan dîm yr Academi Arweinyddiaeth, Cymdeithion yr Academi a rhanddeiliaid.
Mae cymeradwyo yn sicrhau arweinwyr bod y ddarpariaeth y maen nhw'n buddsoddi ynddi yn cael ei hategu gan dystiolaeth ryngwladol ar yr hyn sy'n gwneud arweinyddiaeth effeithiol a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i ddysgwyr.
Pwrpas y gymeradwyaeth yw sicrhau bod modd cydnabod y ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth fwyaf effeithiol sy'n cael ei chynnig ar hyn o bryd. Nod cymeradwyo yw sicrhau tegwch o fynediad at ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel ledled Cymru.
Rydym yn annog pob darparwr sy'n datblygu ac yn darparu cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i gyflwyno eu darpariaeth i gael ei chymeradwyo.
Mae'r broses gymeradwyo yn sicrhau bod darpariaeth arweinyddiaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, yn bodloni uchelgais ein diwygiadau addysgol Cenedlaethol ac yn cefnogi'r blaenoriaethau polisi strategol ar gyfer pob lleoliad addysgol.