Tegwch mewn Addysg

Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i gynllunio, datblygu a gweithredu dull traws-ranbarthol fel bod ysgolion yn cael eu cefnogi a'u galluogi i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella cynhwysiant i bawb. 

Nawr yn fwy nag erioed mae'n bwysig deall sut a pham mae'r amgylchiadau bywyd heriol y mae llawer o ddysgwyr yn eu profi yn effeithio ar eu lles a'u parodrwydd i ddysgu. Bydd dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i Degwch a Lles yn yr ystafell ddosbarth yn helpu pob dysgwr i gyflawni a sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl.   

Wrth galon Cwricwlwm i Gymru mae ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr i fod yn iach, yn hyderus, yn egwyddorol, yn wybodus, yn fentrus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog. Dim ond os oes dealltwriaeth ac ymrwymiad i degwch mewn addysg a phwysigrwydd lles dysgwyr y gellir cyflawni hyn. 

Mae tegwch mewn addysg yn golygu darparu pob dysgwr ag adnoddau, cefnogaeth a phrofiadau dysgu sy'n cwrdd â'u hanghenion gan eu galluogi i lwyddo. Ni ddylai amgylchiadau unigol a chymdeithasol fod yn rhwystr i gyflawni potensial addysgol. Mae tegwch mewn addysg yn ei gwneud yn ofynnol i systemau, ar lefel ysgol, leol a chenedlaethol gymryd i ystyriaeth, ac ymateb i, yr heriau unigryw sy'n cyflwyno eu hunain i unigolion neu grwpiau o ddysgwyr. 

Grant Datblygu Disgyblion (GDD) ac Adnoddau'r Wythnos Ffocws 

RADY a Meddwl yn Wahanol

Am ragor o wybodaeth am Degwch mewn Addysg, cysylltwch â'ch consortiwm rhanbarthol os gwelwch yn dda: 

Consortiwm Canolbarth y De (CCD) 

John Welch - John.C.Welch@cscjes.org.uk 

Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) 

Jane Crawley-Adams - 

Jane.Crawley-Adams@sewaleseas.org.uk

Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) 

Cath McNamara - CatherineMcNamara@gwegogledd.cymru

Louise Kerfoot-Robson - LouiseKerfootRobson2@gwegogledd.cymru

Partneriaeth

Dylan Williams - Dylan.Williams@partneriaeth.cymru 

Partneriaeth Canolbarth Cymru (PCC) 

Gareth Lewis - Gareth.Lewis@ceredigion.gov.uk 

Cyfarwyddwr Rhaglenni’r Consortia 

Helen Richards - Helen.Richards@sewaleseas.org.uk