Trosolwg o Gyfleoedd Achredu
Buddion Achredu'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM)
Codi safonau Arweinyddiaeth i lefel gydnabyddedig ledled Cymru
Cyd-fynd ag "Addysg Yng Nghymru : Cenhadaeth ein Cenedl"
Safon uchel gyson o gefnogaeth a chyfleoedd cydraddoldeb ledled Cymru
Mae ILM yn safon a gydnabyddir yn rhyngwladol
ILM yw'r darparwr cymwysterau arweinyddiaeth a rheoli mwyaf Ewrop
Gellir defnyddio ILM Lefel 7 (sy'n cyfateb i PG Cert) fel 60 credyd tuag at radd Meistr.
ILM Lefel 5 gyfystyr â gradd lefel sylfaen
Gellir achredu ILM yn ôl-weithredol
Mae ILM yn cynnig hyblygrwydd i'r cyfranogwyr, h.y. gellir dechrau pan yn gyfleus i'r cyfranogwr
Cymhwysedd
Mae unrhyw un sydd wedi cwblhau naill ai darpariaeth genedlaethol neu ranbarthol y rhaglen Cymell a Mentora Genedlaethol yn gymwys i ymgymryd ag achrediad. Eich penderfyniad chi yw'r lefel rydych chi'n dewis ei dilyn. Mae'r nodiadau yn y trosolwg a ddarperir er gwybodaeth yn unig.
Mae ymgeiswyr cymell a mentora presennol a blaenorol yn gymwys i ymgymryd ag achrediad.
Mae gan y Consortia nifer o leoedd wedi'u hariannu'n llawn. Cysylltwch â Claire.Richards@sewaleseas.org.uk am fanylion.