Rhaglen Datblygu Uwch Arweinwyr
Mae’r rhaglen datblygu hon sy’n flwyddyn o hyd yn gyfle dysgu proffesiynol ar gyfer uwch arweinwyr ar draws Cymru. Mae’r rhaglen ar gyfer arweinwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am agwedd o arweinyddiaeth ysgol gyfan ar draws sefydliad ac yn aelod o’r UDA yn eu hysgol.

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod effeithiol trwy hunan-arfarnu a myfyrio, gan archwilio’r perthnasoedd rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach.
Fel rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol bydd cyfranogwyr trwy’r rhaglen hon yn:
Datblygu ymhellach eu dealltwriaeth o rôl yr uwch arweinydd
Datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau y dylai uwch arweinydd effeithiol eu gwybod a gallu eu mabwysiadu
Cael cyfle i ddatblygu'r ymddygiadau arweinyddiaeth sydd eu hangen ar gyfer uwch arweinydd effeithiol.
Datblygu ymhellach eu dealltwriaeth o'r agenda diwygio cenedlaethol
Datblygu eu harfer o fewn y safonau arweinyddiaeth ffurfiol
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)