Cwestiynau cyffredin am y cyfnod sefydlu

Hyd cyfnod sefydlu

Pa mor hir fydd hi'n ei gymryd i mi gwblhau cyfnod sefydlu?

Mae'r rhan fwyaf o athrawon newydd gymhwyso yn cymryd tri thymor neu 380 o sesiynau i adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i allu bodloni’r safonau proffesiynol. Gall rhai athrawon newydd gymhwyso, er enghraifft y rhai sydd â phrofiad blaenorol mewn ysgol, gymryd llai o amser. Felly, mae gan gyrff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu mewn achosion o'r fath. Un tymor neu 110 o sesiynau yw’r lleiaf y gallant leihau’r cyfnod sefydlu iddo.

Ydw i'n gallu cymryd cyhyd ag yr ydw i eisiau i gwblhau cyfnod sefydlu?

Na. Mae'r rhan fwyaf o athrawon newydd gymhwyso yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn tri thymor / 380 sesiwn. Mae gennych derfyn amser o bum mlynedd pan mae'n rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu hwn. Mae'r ffenestr hon o bum mlynedd yn dechrau pa bynnag yw'r hwyraf:

- dyddiad dyfarnu SAC neu

- 7 Tachwedd 2022.

A yw’n bosibl oedi’r cyfnod sefydlu?

Os ydych yn bwriadu cymryd hoe o addysgu, gallwch oedi eich cyfnod sefydlu. Ni ellir oedi'r terfyn amser o bum mlynedd ond gall estyniad gael ei roi gan y corff priodol mewn rhai amgylchiadau. 

Rwy'n athro newydd gymhwyso a gyflogir ar sail cyflenwi. A allaf ohirio fy nghyfnod sefydlu nes y caf swydd barhaol?

Na. Os ydych wedi dechrau cyfnod o gyflogaeth mewn ysgol fel athro cymwys, rhaid i bob cyfnod o gyflogaeth fel athro cymwys (mewn lleoliad perthnasol) o un sesiwn ysgol (hanner diwrnod) neu fwy gyfrif tuag at y cyfnod sefydlu a rhaid i chi logio pob un o’r sesiynau hyn gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Ni cheir unrhyw hyblygrwydd yn hyn o beth, ac ni chaiff athrawon newydd gymhwyso nac ysgolion/Uned Cyfeirio Disgyblion wneud cais i beidio â chynnwys cyfnod o gyflogaeth fel athro cymwys tuag at y cyfnod sefydlu. Ni all athro newydd gymhwyso ddewis pa sesiynau i’w logio gan fod rhaid i bob un gyfrif tuag at y cyfnodsefydlu. Ni all gwaith a wnaed fel cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) neu weithiwr cymorth dysgu gyfrif tuag at gyfnod sefydlu athro newydd gymhwyso.

Mi wnes i fodloni’r safonau ddiwedd tymor yr haf 2022 ond wnes i ddim cwblhau 380 o sesiynau. Oes modd ôl-ddyddio fy nghanlyniad i haf 2022?

Nac oes. Eich dyddiad pasio’r cyfnod sefydlu fydd y dyddiad y cyflwynodd y corff priodol ei benderfyniad i Gyngor y Gweithlu Addysg, ar yr amod nad yw hynny'n gynharach na 7 Tachwedd (pan ddaeth y rheoliadau diwygiedig i rym).

Beth sy'n digwydd os ydw i'n rhedeg allan o amser i gwblhau cyfnod sefydlu?

Gellir rhoi estyniad i'r cyfnod sefydlu ac i'r terfyn amser o bum mlynedd mewn rhai achosion.

Os ydych wedi cwblhau tri thymor neu 380 o sesiynau ac mae'r corff priodol yn penderfynu nad ydych yn barod i gwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, efallai y byddant yn caniatáu estyniad i'r cyfnod sefydlu. Mae hyd unrhyw estyniad yn ôl disgresiwn y corff priodol a gall gynnwys estyniad o'r terfyn amser o bum mlynedd, yn dibynnu ar amgylchiadau. Mae mwy o wybodaeth i'w gael yn y canllawiau sefydlu ar Hwb.

Dydw i ddim wedi cwblhau cyfnod sefydlu ac mae dros pum mlynedd ers y dyfarnwyd fy statws athro cymwysedig, beth ddylwn i ei wneud?

Mae'n ofynnol o hyd i chi ymgymryd â chyfnod sefydlu er mwyn addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae gan y corff priodol

ddisgresiwn i ymestyn y terfyn amser o bum mlynedd ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sydd heb ddechrau eu cyfnod sefydlu eto, yn dibynnu ar amgylchiadau. Os nad ydych wedi cofrestru yng nghategori athro ysgol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, mae angen i chi wneud cais i’r corff priodol gymeradwyo estyniad i’r terfyn amser cyn i chi gofrestru.

Rhestrir eithriadau yn Atodlen 2 o Reoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015.


Beth yn union sy’n digwydd ar ddiwedd y terfyn amser o bum mlynedd?

Mae’r broses yn amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol fel a nodir isod ac yn y canllawiau sefydlu. Os ydych chi wedi cwblhau tri thymor neu 380 o sesiynau ac mae’r corff priodol yn penderfynu nad ydych yn barod i gwblhau eich cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, gallan nhw roi estyniad i’r cyfnod sefydlu. Os yw’r estyniad hwn yn mynd a chi y tu hwnt i’r terfyn amser o bum mlynedd, bydd y corff priodol yn ymestyn y terfyn amser yn awtomatig er mwyn rhoi digon o amser i chi gwblhau’ch cyfnod sefydlu. Gall y corff priodol hefyd ymestyn y terfyn amser o bum mlynedd i athrawon newydd gymhwyso sydd wedi dechrau eu cyfnod sefydlu neu i athrawon newydd gymhwyso sydd heb ddechrau eu cyfnod sefydlu eto lle bod rhesymau da dros wneud hynny.

Byddai rheswm da yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r enghreifftiau canlynol:

1. cyfnod hirdymor o ofalu am aelod agos o’r teulu sy'n ddifrifol wael

2. cyfnod o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant neu fabwysiadu

3. cyfnod o absenoldeb salwch hirdymor

4. seibiant gyrfa.

O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n ofynnol i athro newydd gymhwyso drafod estyniad i’r terfyn amser o bum mlynedd gyda’r corff priodol, ac, os cytunir byddai'r corff priodol yn penderfynu ar hyd yr estyniad. Os yw athro newydd gymhwyso yn gwybod ymlaen llaw na fyddant yn gallu cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y terfyn o bum mlynedd, dylent hysbysu'r corff priodol mor gynnar â phosibl i drafod estyniad. Os caiff ei gytuno, bydd y corff priodol yn penderfynu hyd yr estyniad. Cynghorir athrawon newydd gymhwyso y mae'r terfyn amser o bum mlynedd wedi mynd heibio ac nad ydynt wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer estyniad i'r terfyn amser gan y corff priodol cyn iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Dwy flynedd yw uchafswm hyd estyniad ym mhob achos, oni bai bod y corff priodol, neu Gyngor y Gweithlu Addysg ar apêl, yn penderfynu bod angen estyniad hirach i gyfnod sefydlu unigolyn er mwyn penderfynu a yw’n cwblhau’i gyfnod sefydlu yn foddhaol.

Os yw athro newydd gymhwyso wedi methu cwblhau ei gyfnod sefydlu’n foddhaol o fewn y terfyn amser o bum mlynedd (neu o fewn estyniad a roddwyd), ni fydd yr athro newydd gymhwyso yn gymwys bellach i gael ei gyflogi’n athro mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru, gan na fydd modd iddo gofrestru mwyach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Ni fyddai methu â chwblhau cyfnod sefydlu’n llwyddiannus yn eu hatal rhag chwilio am waith mewn ysgol nas cynhelir, mewn addysg bellach neu fel gweithiwr cymorth dysgu yn y sector a gynhelir. Ni chaiff athrawon newydd gymhwyso sydd wedi methu cwblhau eu cyfnod sefydlu’n ffoddhaol neu sydd heb dderbyn estyniad i’r cyfnod sefydlu ymgymryd â’u cyfnod sefydlu eto mewn sefydliad gwahanol yng Nghymru neu Lloegr.

Ydw i dal yn gallu gweithio fel athro os nad ydw i'n ymgymryd â chyfnod sefydlu neu os ydw i'n methu’r cyfnod sefydlu?

Rhaid i bob athro naill ai fod yn ymgymryd â chyfnod sefydlu neu fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus er mwyn gallu cael ei gyflogi fel athro yn y sector a gynhelir. Gallwch gael eich cyflogi fel athro mewn ysgol nas cynhelir neu fel cymhorthydd dysgu mewn ysgol a gynhelir heb gwblhau cyfnod sefydlu. Symud o Loegr i Gymru

Ydw i'n cael symud o Loegr i Gymru rhan o'r ffordd drwy gyfnod sefydlu? Os felly, sut mae mynd ati?

Ydych. Ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa (Early Career Teachers) sy’n trosglwyddo o Loegr, sydd wedi dechrau, ond heb gwblhau'r cyfnod sefydlu sy'n ofynnol yn Lloegr, bydd y corff priodol yng Nghymru yn cynnal asesiad o'r athro ar yr adeg trosglwyddo i benderfynu ar beth sydd angen iddynt ganolbwyntio er mwyn bodloni’r safonau proffesiynol a chwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.

Er enghraifft, efallai y bydd yn ofynnol i athrawon newydd gymhwyso ar ddechrau eu gyrfa sy’n symud o Loegr i Gymru, gwblhau elfennau o’r

proffil sefydlu i ddangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol a chael eu harsylwi yn yr ystafell ddosbarth. Caiff yr union ofynion ar gyfer athrawon newydd gymhwyso eu penderfynu gan y corff priodol yn seiliedig ar eu profiad blaenorol.

Bydd yn ofynnol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi cwblhau llai na thri thymor yn Lloegr gael eu cyflogi fel athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru nes iddynt gael eu barnu gan y corff priodol eu bod wedi bodloni’r safonau proffesiynol gofynnol. Mae gan y corff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor ysgol/380 sesiwn. Cyn i chi ddychwelyd i Gymru, fe’ch cynghorir chi i gysylltu â'r corff priodol yn y rhanbarth y byddwch yn dychwelyd iddi am gyngor pellach.

Mae manylion cyswllt ar Hwb: cysylltiadau sefydlu.

Fe’ch cynghorir chi hefyd i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn i chi drosglwyddo i Gymru, gan fod rhaid i athrawon newydd gymhwyso gofrestru gyda'r Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn i'r cyfnod sefydlu ddechrau. Mae manylion llawn i'w cael ar

www.cga.cymru.


Symud o Gymru i Loegr

Ydw i'n cael symud o Gymru i Loegr rhan o'r ffordd drwy’r cyfnod sefydlu? Os felly, sut mae mynd ati?

Ydych. Bydd yn ofynnol i athrawon newydd gymhwyso sy'n trosglwyddo o Gymru i Loegr nad ydynt wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu, gwblhau cyfnod sefydlu yn unol â'r gofynion ar gyfer ymgymryd â chyfnod sefydlu yn Lloegr. Ni all lleoliadau cyflenwi tymor byr rydych chi wedi'u cwblhau yng Nghymru am lai nag un tymor, neu gyfnod cyfatebol, gyfrif tuag at gyfnod sefydlu yn Lloegr.


Sefydlu mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion

A allaf ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn Uned Cyfeirio Disgyblion?

Mae rheoliadau diwygiedig yn caniatáu ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn Uned Cyfeirio Disgyblion o 7 Tachwedd 2022 ymlaen. Mae hyn yn berthnasol i athrawon newydd gymhwyso a gyflogir ar sail amser llawn, rhan-amser neu gyflenwi.

A fydd yr oriau rydw i wedi'u cofrestru hyd yma mewn uned cyfeirio disgyblion cyn 7 Tachwedd yn cael eu hôl-ddyddio?

Na.  Ni fydd cyfnodau o gyflogaeth mewn uned cyfeirio disgyblion cyn 7 Tachwedd yn cyfrif tuag at gyfnod sefydlu. Er na ellir cyfrif cyfnodau o gyflogaeth mewn uned cyfeirio disgyblion cyn 7 Tachwedd, bydd y profiad a'r wybodaeth a enillwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn cyfrannu at allu'r athro newydd gymhwyso i fodloni’r safonau proffesiynol.


Cofnodi sesiynau

Fel athro newydd gymhwyso cyflenwi tymor byr, a oes rhaid i mi gofnodi sesiynau ar ôl cwblhau 110 o sesiynau?

Oes. Rhaid i athrawon newydd gymhwyso sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu trwy gyflenwi tymor byr gofnodi pob sesiwn o gyflogaeth a rhaid i’r sesiynau gael eu gwirio gan eu hasiantaeth gyflenwi (cyflogwr) neu eu prif gyswllt o ddydd i ddydd yn yr ysgol lle cwblhawyd y sesiwn/sesiynau (aelod o’r uwch dîm arwain fel arfer). Mae ffurflen cofnodi presenoldeb ar gael ym mhroffil sefydlu ar-lein yr athro newydd gymhwyso.

Rhaid i bob athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu o dri thymor ysgol o hyd, neu gyfwerth. Er hynny, mae gan gyrff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor / 380 o sesiynau. Ni all unrhyw athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu mewn llai nag un tymor (110 o sesiynau).


Cefnogaeth i athrawon newydd gymhwyso

Pa gefnogaeth sydd ar gael i fi yn ystod fy nghyfnod sefydlu?

Mae gan bob athro newydd gymhwyso hawl i gael mynediad at gefnogaeth a chyngor o ansawdd uchel gan eu mentor, consortiwm/partneriaeth rhanbarthol neu awdurdod lleol o ddechrau’r cyfnod sefydlu. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnoch i ddatblygu’n broffesiynol a chwblhau cyfnod sefydlu’n llwyddiannus. Mae pob athro newydd gymhwyso yn gymwys i gael cymorth gan fentor hyfforddedig yn ystod eu cyfnod sefydlu, waeth pa lwybr maen nhw'n eu cymryd. Gweler y canllawiau sefydlu am sut i gael mynediad at fentor.

Yn ogystal, mae'r rhaglen sefydlu yn cynnwys 13 diwrnod (neu gyfwerth) o ddysgu proffesiynol a ddarperir gan y consortiwm/partneriaeth/awdurdod lleol a'r ysgol, sy'n cynnwys:

• tridiau (neu gyfnod cyfatebol) o hyfforddiant gwahaniaethol i bob athro newydd gymhwyso a ddarperir gan y consortiwm rhanbarthol, awdurdod lleol neu bartneriaeth. Mae disgwyl i chi fynychu'r tri diwrnod;

• cyfnod sy'n cyfateb i bum niwrnod mewn ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol dan arweiniad y mentor, a

• cyfnod sy’n cyfateb i bum niwrnod wedi’i gydgysylltu gan yconsortiwm rhanbarthol, yr awdurdod lleol neu'r bartneriaeth i feithrin dealltwriaeth drwy ddysgu mewn partneriaeth, gan gynnwys darllen yn helaeth am theori ac ymchwil addysgu a chynnal ymchwil.

Ar gyfer rhaglenni a chyfleoedd dysgu proffesiynol yn eich consortiwm rhanbarthol/partneriaeth/awdurdod lleol, ewch i’r wefan berthnasol neu cysylltwch â'r cydlynydd sefydlu i gael rhagor o wybodaeth. Mae manylion cyswllt ar gael yma: Sefydlu: Pa gefnogaeth sydd ar gael

Anogir asiantaethau cyflenwi i ddarparu amser a ariennir i athrawon newydd gymhwyso allu cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol. Nodir hawliau athrawon newydd gymhwyso sy'n ymgymryd â chyfnod sefydlu tra’n cael eu cyflogi gan asiantaeth gyflenwi ar Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Cyflenwi yng Nghymru.

Sut ddylwn i ddefnyddio'r pum niwrnod o ddatblygu proffesiynol yn yr ysgol?

Mae'n bwysig eich bod yn cynllunio'r ffordd orau o ddefnyddio’r pum niwrnod o ddatblygu proffesiynol yn yr ysgol gyda'ch mentor i sicrhau ei fod yn berthnasol i'ch anghenion.

Efallai yr hoffech ystyried:

• cydweithio yn eich pwnc neu gyfnod eich hun neu bwnc neu gyfnod gwahanol;

• cysgodi neu arsylwi athrawon/proffesiynolion addysg eraill;

• cynllunio a pharatoi gwell gan gynnwys hunan-werthuso eich cynllunio a’ch addysgu eich hun;

• hunan-werthuso a myfyrio yn seiliedig ar drafodaethau gyda'ch mentor sefydlu/mentor allanol a'ch dilyniant tuag at gyflawni'r safonau proffesiynol;

• darllen proffesiynol ac ymgyfarwyddo ag adnoddau ysgol;

• ymweld ag ysgolion neu leoliadau addysg eraill.


Y pasbort dysgu proffesiynol

A gyfer beth y defnyddir y proffil sefydlu o fewn y pasbort dysgu proffesiynol (PDP)?

Mae disgwyl i chi gasglu tystiolaeth drwy gydol eich cyfnod sefydlu er mwyn dangos eich cynnydd o ran bodloni’r safonau proffesiynol ac i alluogi asesiad ar ddiwedd y cyfnod sefydlu.rhaid cofnodi eich profiadau dysgu proffesiynol (PLEs) yn eich proffil sefydlu ar-lein sy'n ffurfio ffocws pwysig ar gyfer eich hunan-adolygiad a thrafodaeth reolaidd gyda'ch mentor i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r meysydd y dylech eu blaenoriaethu ar gyfer dysgu proffesiynol pellach. Bydd nifer y profiadau dysgu proffesiynol y bydd gofyn i chi eu cwblhau yn amrywio yn seiliedig ar lefel y manylder a nifer y safonau y maent yn eu cynnwys. Dylai hyn fod yn destun trafodaeth gyda'ch mentor. Fodd bynnag, argymhellir y dylech anelu at gwblhau o leiaf 10 o brofiadau dysgu proffesiynol sy'n dangos sut rydych wedi datblygu eich arferion yn unol â'r safonau proffesiynol.

Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal eich proffil sefydlu ar-lein drwy gydol eich cyfnod sefydlu. Gellir cyrchu eich proffil sefydlu trwy eich cyfrif FyCGA. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’r proffil sefydlu a’i gwblhau ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Drwy gydol y cyfnod sefydlu, bydd y proffil sefydlu ar agor i'ch mentor, gwiriwr allanol a'r corff priodol ei fonitro, gwerthuso a gweithio gyda chi i nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen. Bydd y proffil sefydlu’n rhan sylweddol o'r dystiolaeth a gaiff ei hystyried yn yr asesiad terfynol a'r cymedroli sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod sefydlu. Ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn foddhaol, ni fydd gan y corff priodol, y mentor sefydlu na’r gwiriwr allanol yr hawl mwyach i weld eich proffil.

Sut alla i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r PDP?

Bydd eich mentor yn gallu eich tywys ar ddefnyddio'r PDP yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth a hyfforddiant ar gael gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac o fewn y PDP ei hun.

Pa safonau proffesiynol sy'n berthnasol i athrawon newydd gymhwyso s a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2012

Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2012 barhau i ddefnyddio'r deunyddiau ategol cyfredol ar gyfer asesu, arsylwi a gosod targedau a’r safonau proffesiynol y dechreuon nhw eu cyfnod sefydlu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Dylai athrawon newydd gymhwyso nad oes ganddynt fynediad mwyach at eu gwaith papur/ffurflenni sefydlu blaenorol neu'r rhai nad oeddent wedi dechrau cofnodi eu profiadau, fwrw ymlaen drwy ddefnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Mae manylion cofnodi ar gael o wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.