Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid - paratoi ar gyfer CPCP
Mae’r cwrs datblygu hwn sy’n flwyddyn o hyd yn gyfle dysgu proffesiynol cyffrous ar gyfer arweinwyr ysgolion profiadol ar draws Cymru sy’n dymuno dod yn benaethiaid yn y dyfodol agos. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad i bob darpar ymgeisydd CPCP.
Bydd y rhaglen hon ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei bod yn dangos cyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig iddynt.
Bydd cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgareddau cyfoethogi sy'n adeiladu ar brofiad blaenorol i ddatblygu;
eu dealltwriaeth o rôl pennaeth effeithiol
eu sgiliau a'u priodoleddau trwy hunan-adolygiad yn erbyn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
eu dealltwriaeth a'u defnydd effeithiol o ystod o sgiliau arwain
eu sgiliau cydweithio trwy ymgysylltu'n effeithiol â rhwydweithiau cyfoedion a
eu gwybodaeth a'u sgiliau ar gyfer datblygu eu hysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu a sicrhau llwyddiant yr agenda ddiwygio genedlaethol
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)