Her i Bawb
Dysgu Proffesiynol

Cyfres o bodlediadau i rannu arfer da mewn perthynas â dulliau sy'n seiliedig ar ymchwil o gefnogi disgyblion.  

Syniadau a dulliau gweithredu ymarferol gan ddefnyddio model VESPA i Wireddu Potensial Pob Dysgwr.

Mark Burns: ‘Teaching to maximise learning’

Yn ystod y pedair blynedd ar ddeg ddiwethaf, mae Mark wedi datblygu hanes profedig o wella addysgu ac arweinyddiaeth ym maes addysg. Mae wedi cyd-awduro tri llyfr sy'n gwerthu orau yn y maes hwn, sef Engaging Learners, Teaching Backwards a The Learning Imperative.  Trwy ei waith, mae wedi meithrin dealltwriaeth ddofn o gynllunio dysgu a'r modd i oresgyn rhwystrau i ddysgu mewn sefydliadau.  

 

Yn y podlediad hwn, mae'n amlinellu strategaethau ymarferol i ddatblygu asesiad gan gymheiriaid, dysgu annibynnol ac adborth mwy effeithiol. Mae'n rhannu amrywiaeth o addasiadau, sef yr ‘un peth ychwanegol’ y gall athrawon ei wneud i sicrhau'r dysgu gorau ar gyfer pawb a datblygu diwylliant dysgu cyfoethog.   

Mae'r hyfforddwr a'r ymgynghorydd addysgol, Mike Gershon, yn rhannu ei syniadau am fetawybyddiaeth, ochr yn ochr â rhai o'r ffyrdd symlaf, mwyaf effeithiol y gall unrhyw ysgol ddechrau meddwl a siarad am strategaethau metawybyddol, a'u rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth.