Rhaglen Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith
Cyfle cyffrousi Gynorthwywyr Addysgu wrth eu gwaith.
Mae'r rhaglen Cynorthwywyr Addysgu wrth eu gwaith ar gyfer cynorthwywyr addysgu sydd wedi bod yn eu swyddi am o leiaf ddwy flynedd, dyma rhaglen genedlaethol sy’n cael ei chyflwyno'n rhanbarthol. Mae'r GCA yn cynnig dull 'Hyfforddi'r Hyfforddwr' i Gynorthwywyr profiadol, CALU a/neu Athrawon i hwyluso'r rhaglen i Cynorthwywyr eu ysgol (neu CA ar draws y clwstwr).
Mae'r rhaglen yn rhoi gwybodaeth am y safonau proffesiynol, strategaethau perthnasol cyfredol i gefnogi arferion ac ystod o syniadau a strategaethau i ysbrydoli proffesiynoldeb yn yr ysgol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
Rôl cynorthwywyr addysgu a sut i sicrhau'r effaith broffesiynol
Polisïau a fframweithiau sy'n cefnogi arfer
Y cyd destun Cymreig
Datblygu gwrando, cwestiynu ac adborth da i ddysgwyr
Cefnogi a herio pob dysgwr yn briodol ac addasu i bob angen
Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu,
Llwybr Dysgu'r Cynorthwywyr Addysgu (TALP).
Diweddariadau Cwricwlwm i Gymru
Diweddariadau Diwygio ADY
Gellir rhedeg y rhaglen naill ai fel rhaglen 2 ddiwrnod neu ei rhannu'n 4 sesiwn dwy awr.