RADY a Thinking Differently

Mae Raising the Aspirations of Disadvantaged Learners (RADY) a Thinking Differently yn ddau gyfle Datblygiad Proffesiynol gan y tîm yn Challenging Education  (https://challengingeducation.co.uk).  

Mae RADY yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc sydd gyda photensial mewn ysgolion, ac wedyn mae'n gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod y bobl ifanc difreintiedig hyn yn cael y cymorth angenrheidiol i gyflawni yn unol â'u cyfoedion sydd ddim dan anfantais. Mae’r dull ysgol gyfan yn helpu ysgolion i ddod yn decach ym mhob agwedd o fywyd ysgol. 

Mae Thinking Differently yn brosiect Challenge Education i gael ‘y staff mewn cymaint o ysgolion â phosibl i gael mynediad at hyfforddiant o safon er mwyn helpu pob dysgwr difreintiedig wneud cynnydd.’ Mae’r cynnig dysgu proffesiynol yn seiliedig ar 6 modiwl hyfforddi i ysgolion a staff gyda mynediad iddynt pan fydd yn gyfleus iddyn nhw. Mae’r sesiynau’n llawn ymchwil, wedi’u cyflwyno gan arbenigwyr maes ac yn cynnig astudiaethau achos defnyddiol o arfer da. Mae ysgolion yn cael mynediad i’r hyfforddiant trwy’r ddolen: https://reports.challengingeducation.co.uk/schools/urncheck  a dim ond URN a chyfrinair yr ysgol fydd angen arnynt i gael mynediad.