Rhaglen Datblygu Penaethiaid Profiadol
Mae’r rhaglen hon yn gyfle dysgu proffesiynol newydd ar gyfer penaethiaid profiadol ac fe gafodd ei chreu i alluogi penaethiaid i fyfyrio ar eu perfformiad cyfredol a phennu eu camau nesaf wrth sicrhau arweinyddiaeth effeithiol.

Bydd y rhaglen yn cynnig heriau a chymorth wedi'u teilwra'n bersonol i bob cyfranogwr; amser i drafod syniadau, damcaniaethau ac offer arwain; a'r cyfle i elwa o, ac i helpu eraill i gyflawni'r rôl yn llwyddiannus.
Bydd cyfranogwyr yn:
Myfyrio ar eu harddull arwain eu hunain a sut mae eu harweinyddiaeth yn effeithio ar eraill
Myfyrio ar amrywiaeth o arddulliau arwain
Deall theori newid a sut mae hyn yn effeithio ar eu harweinyddiaeth ar y daith ddiwygio drawsnewidiol
Cydweithio ag eraill i arwain eu hysgolion yn effeithiol ac i gael effaith gadarnhaol ar arweinyddiaeth ledled Cymru
Ymgorffori diwylliant ac arfer o arloesi priodol ar draws eu hysgol a thu hwnt
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)