Datblygiad Gwirwyr Allanol

Rôl sicrhau ansawdd yw’r rôl Gwiriwr Allanol sy’n cefnogi Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) a’u mentoriaid sefydlu (MS). Disgwylir i’r holl GA sy’n cefnogi ANG fynychu sesiwn friffio dwy awr bob blwyddyn, wedi’i chydlyni gan gonsortia rhanbarthol a Chyngor y Gweithlu Addysg.


Cynulleidfa

Yr holl Wirwyr Allanol (GA) sy’n cefnogi Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG).


Diben

Mae’r sesiwn yn amlinellu’r broses ymsefydlu a rolau a chyfrifoldebau’r GA. Nod y sesiwn yw datblygu dull cenedlaethol cyson i gymorth ymsefydlu. Diben y sesiwn yw datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i fod yn GA effeithiol.


Dull cyflwyno

Dyma sesiwn ar-lein wedi’i hwyluso drwy Microsoft teams ac wedi’i chyflwyno drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Cynhelir y sesiwn yn nhymor yr Hydref, gyda dyddiadau penodol i gael eu rhannu ar wefannau’r consortia ac ALl. Cyflwynir y rhaglen drwy sesiynau wedi’u hwyluso’n rhyngweithiol ar teams. Bydd y sesiwn wedi’i dylunio i fynd i’r afael ag agweddau allweddol ar y broses statudol ac i fynd i’r afael â chwestiynau. Ni fydd unrhyw sesiwn yn para’n hwy na dwy awr a chant eu cynnal ar amrywiaeth o amseroedd gan gynnwys gyda’r nos.


Cynnwys y sesiwn:

• Nodau ymsefydlu

• Rolau a chyfrifoldebau

• Hawliadau ANG

• Canllawiau statudol

• Amserlen y broses

• Cynnwys y proffil – blaenoriaethau datblygu, adolygiadau a phrofiadau dysgu proffesiynol 

• Dulliau hyfforddi a mentora i gefnogi staff

• Cyfarfodydd/perthnasoedd effeithiol gyda staff

• Arddangosiad Cyngor y Gweithlu Addysg o’r proffil ar-lein


Yn ogystal, gwahoddir GA i fynychu cymedroli rhanbarthol yn ystod tymor yr haf.


Dolen y Tîm Cenedlaethol – cliciwch yma