Cyflawni Potensial
Her i Bawb
Mae tîm MATh Consortia Addysg Cymru wedi newid ei enw i Cyflawni Potensial.
Pam? - Mae gwaith y tîm wedi esblygu i fynd i'r afael â blaenoriaeth genedlaethol dysgwyr 'her i bawb' a sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi'n briodol ac yn deg i gyflawni ei botensial llawn.
Mae gan bob dysgwr hawl i gael ei gefnogi yn ei gynnydd a'i ddyheadau waeth beth fo'u man cychwyn.
Tîm Cyflawni Potensial Traws-ranbarthol
Mae'r tîm Cyflawni Potensial Traws-ranbarthol yma i gefnogi ysgolion gydag ystod o gyfleoedd dysgu Ppoffesiynol a mynediad at adnoddau i alluogi ysgolion i ddatblygu gweledigaeth eglur, mewn perthynas â chymorth i bob dysgwr i gofleidio dyheadau uchel a galluogi cyfleoedd i gyflawni eu potensial llawn wrth iddynt ymgysylltu gyda'u dysgu.
Bydd agweddau ar gymorth lles yn ystyriaeth allweddol ochr yn ochr â blaenoriaethau cenedlaethol fel lleihau'r effaith y gall tlodi ac anfantais gael ar gynnydd a chyrhaeddiad lle mae'n bodoli ac yn gyffredinol, yn unol â gwireddu Cwricwlwm i Gymru ac Egwyddorion Cynnydd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch consortiwm rhanbarthol:
Consortiwm Canolbarth y De (CCD)
John Welch - John.C.Welch@cscjes.org.uk
Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Sian Farquharson - Sian.Farquharson@sewaleseas.org.uk
Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol
Gogledd Cymru (GwE)
Mair Herbert - Mair.Herbert@gwegogledd.cymru
Paul Davies - PaulDavies@gwegogledd.cymru
Partneriaeth
Anthony Jones - Anthony.Jones@partneriaeth.cymru
Partneriaeth Canolbarth Cymru (PCC)
Gareth Lanagan - Gareth.Lanagan@ceredigion.gov.uk
Cyfarwyddwr Rhaglenni’r Consortia
Helen Richards - Helen.Richards@sewaleseas.org.uk