Datblygiad Mentoriaid Sefydlu

Dyma raglen genedlaethol newydd wedi’i chydlynu gan gonsortia rhanbarthol, gan ddefnyddio amrywiaeth o bartneriaid cyflawni, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol.


Cynulleidfa

Mae’r llwybr mentoriaid ymsefydlu cenedlaethol wedi’i ddylunio i’r holl fentoriaid ymsefydlu sy’n cefnogi athrawon newydd gymhwyso drwy’r broses ymsefydlu.


Diben

Ceir sesiwn friffio gychwynnol sy’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau wedi’i dilyn gan dair sesiwn hanner diwrnod. Cyflwynir y rhaglen dros y flwyddyn academaidd ac mae’n archwilio’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth mewn dyfnder a datblygiad sgiliau hyfforddiant a mentora er mwyn cefnogi’r broses ymsefydlu. Diben y sesiynau yw datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i fod yn fentor ymsefydlu effeithiol.


Dull cyflwyno

Dyma raglen ar-lein wedi’i hwyluso drwy Microsoft teams a’i chyflwyno drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Cynhelir y rhaglen o fis Medi 2023 tan fis Mai 2024, gyda dyddiadau penodol i’w rhannu ar wefannau’r consortia a’r ALl. Cyflwynir y rhaglen drwy sesiynau rhyngweithiol wedi’u hwyluso ar teams. Bydd y sesiynau hyn wedi cael eu dylunio i fynd i’r afael ag agweddau craidd ar y rhaglen ac i fynd i’r afael â chwestiynau. Ni fydd y sesiynau’n para’n hwy na dwy awr a byddant yn cael eu cynnal ar amrywiaeth o amseroedd gan gynnwys gyda’r hwyr. Bydd angen i ysgolion ryddhau mentoriaid ymsefydlu o’u cyfrifoldebau ar yr amseroedd hyn, fel y byddant petai mentor ymsefydlu’n mynychu cwrs wyneb yn wyneb.


Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys 4 sesiwn:

Sesiwn 1- Sesiwn Briffio Mentoriaid Ymsefydlu Genedlaethol

Sesiwn 2- O SAC i ANG: y sylfeini mae eu hangen ar gyfer perthynas fentora effeithiol

Sesiwn 3 – Arfer myfyriol a sgyrsiau proffesiynol

Sesiwn 4 – Disgwyliadau asesu a chymedroli ANG


Yn ogystal, bydd cyfleoedd am rwydweithio gyda chyfoedion a fydd yn arwain at rannu syniadau, cymorth gan gyfoedion a’r cyfle i ddysgu gan bobl eraill.


Dolen y Tîm Cenedlaethol- cliciwch yma