Consortia Addysg Cymru

Cydweithio i ddarparu dysgu proffesiynol ledled Cymru

Mae Consortia Addysg Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i godi safonau ar draws pob agwedd ar addysg yng Nghymru. Bydd y wefan hon yn darparu gwybodaeth am ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol traws-ranbarthol sydd ar gael i holl staff Cymru.

Mae timau rhanbarthol yn cydweithio i rannu arfer ac adnoddau, datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol, yn ogystal â darparu ffynonellau cymorth eraill. Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau bod staff ledled Cymru yn cael mynediad at ddysgu proffesiynol ni waeth ble maent yn gweithio neu’n byw.

Bydd Consortia Addysg Cymru yn parhau i ddatblygu rhaglenni i ddiwallu anghenion ysgolion a blaenoriaethau a pholisïau newydd Llywodraeth Cymru. Bydd y wefan hon yn rhoi mynediad parhaus i'r rhaglenni hyn i bob ymarferydd.

Daliwch y llygoden dros y teitlau isod i gael gwybod mwy.  Yna defnyddiwch y ddewislen ar y chwith i fynd drwy dudalennau.

Mae Consortia Addysg Cymru  yn cynnwys:

Yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.

Twitter

Yn gwasanaethu Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Twitter

Yn gwasanaethu Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.

Twitter

Yn gwasanaethu Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe.

Twitter

Partneriaeth Canolbarth Cymru (PACC)

Yn gwasanaethu Powys a Cheredigion.