Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol

Mae’r cyfle i gofrestru nawr ar agor ar gyfer ‘Cynhadledd Arweinyddiaeth Genedlaethol Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth 2023’ DARPL.

Caiff y digwyddiad yma ei gynnal gan DARPL mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, CGA, Academi Arweinyddiaeth, y Black Leadership Group, a’r consortia rhanbarthol. Nod y digwyddiad hwn, sef y gynhadledd gyntaf o’i math yng Nghymru, yw dwyn arweinwyr ynghyd o bob cwr o’r sectorau addysg a’r blynyddoedd cynnar i ddysgu mwy am waith DARPL, ei sefydliadau partner, a darparu adborth pwysig a fydd yn helpu i lywio gweithgarwch a datblygiad arweinyddiaeth amrywiaeth a gwrth-hiliaeth.