Athrawon Newydd Gymhwyso
Rhaglenni Dysgu Proffesiynol Sefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso
Er mwyn cefnogi'r holl staff sy'n ymwneud â'r broses statudol o Sefydlu athrawon newydd gymhwyso (ANG), rydym yn cynnig y gyfres yma o raglenni sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cefnogi'r broses Sefydlu statudol.
Mae’r cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol Sefydlu ANG yn adeiladu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad a ddatblygodd yr athrawon newydd gymhwyso yn ystod y hyfforddiant Addysg Gychwynnol Athrawon. Cefnogir ANG i ddatblygu eu harfer ac i fyfyrio ar y disgrifyddion ymsefydlu o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
Yn ogystal a hyn mae’r cynnig dysgu proffesiynol yn cynnwys cymorth i'r Mentoriaid Sefydlu (MS), y Mentoriaid Allanol (MA) a’r Gwirwyr Allanol (GA) sy’n cefnogi athrawon newydd gymhwyso. Mae yna ystod o gyfleoedd sydd yn cefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau mentora a hyfforddi, yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad ymarferol i ANG sydd yn cwblhau'r broses sefydlu.
Mae’r Rhaglen Datblygu Mentor Sefydlu wedi’i chreu mewn partneriaeth â chydweithwyr ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor a De Cymru ac mae’n sicrhau parhad cymorth mentora o addysg gychwynnol athrawon hyd at sefydlu.
Am ragor o wybodaeth, gweler isod amlinelliad o bob rhaglen isod. Gellir cyrchu’r cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer sefydlu trwy ymuno â’r ddolen Microsoft Teams a ddarperir yn y tudalennaiu isod.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch consortiwm rhanbarthol.
Consortiwm Canol y De (CCD / EAS)
Rebecca Roach- rebecca.roach@cscjes.org.uk
Lucy Donovan- lucy.donovan@cscjes.org.uk
Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA/EAS)
Hannah Fancourt- hannah.fancourt@sewaleseas.org.uk
Partneriaeth Addysg Canol Cymru (PACC)
Powys. Sarah Perdue-
Ceredigion- Alwyn Ward-