Darpar Gynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)
Mae cyfnod ceisiadau cylch 9 ar agor!
Rhaglen genedlaethol yw hon a gydlynir gan gonsortia rhanbarthol, sy'n defnyddio ystod o bartneriaid hwyluso, mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol.
Cynulleidfa
Nod y Rhaglen Darpar CALU uchelgeisiol hon yw cefnogi'r Cynorthwywyr Addysgu mwyaf profiadol sy'n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach a nodi eu parodrwydd ar gyfer Asesiad CALU.
Diben
Mae'n rhaglen 5 diwrnod (cyfwerth) a ddarperir dros 2 - 3 thymor ac mae'n archwilio'r safonau proffesiynol newydd yn fanwl. Mae'r rhaglen yn archwilio rôl hanfodol Cynorthwywyr Addysgu wrth gynorthwyo'r disgyblion a'r ysgolion i gyflawni amcanion y Genhadaeth Genedlaethol, Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu a datblygu'r Cwricwlwm Newydd.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, mae’r Cynorthwywyr Addysgu mewn sefyllfa gref iawn i nodi eu parodrwydd ar gyfer asesiad CALU.
Dull Cyflwyno
Mae'r rhaglen yn cael ei gynnal ddwywaith dros gyfnod o flwyddyn, drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gall ymgeiswyr ddilyn y rhaglen cyfrwng Cymraeg, ond cwblhau eu Myfyrdodau yn Saesneg os dymunant.
Mae dull cyflwyno'r rhaglen yn amrywio'n rhanbarthol rhwng sesiynau wyneb yn wyneb, sesiynau ar-lein hanner diwrnod neu gyfuniad o'r ddau. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag agweddau craidd y rhaglen ac i ddelio â chwestiynau. Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd angen i ysgolion ryddhau ymgeiswyr o'u cyfrifoldebau ar gyfer yr amseroedd hyn.
Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys 4 modiwl:
Modiwl 1 - Dysgu Proffesiynol, Cyd-destun Cenedlaethol a Chydweithio
Modiwl 2 - Dylanwadu ar Ddysgu, Mireinio Addysgu a Chydweithio
Modiwl 3 - Hyrwyddo Dysgu a Chydweithio
Modiwl 4 - Arweinyddiaeth, Arloesi a Chydweithio
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau darnau byr o waith ysgrifenedig am ystod o weithgareddau y maent yn ymwneud â hwy, gan gynnwys gwersi gyda disgybl unigol, grŵp bach a dosbarth cyfan. Gallai gweithgareddau eraill gynnwys pethau fel ymweliadau addysgol, cyfarfodydd a sefyllfaoedd ysgol bob dydd eraill.
Cofnodir y darnau ysgrifennu hyn, Myfyrdod Dysgu Proffesiynol (MDP) trwy gydol y rhaglen ac fe'u cyflwynir ar ôl y sesiwn olaf i gefnogi'r asesiad CALU.
Cofrestru
Gellir cyrchu'r rhaglen trwy broses ymgeisio genedlaethol a bydd yn cael ei darparu gan y consortia rhanbarthol a'u partneriaid gan gynnwys Awdurdodau Lleol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen HLTA uchelgeisiol rhaid i ymgeiswyr:
meddu ar ddigon o brofiad a sgiliau arbenigol i dystiolaethu arfer hynod effeithiol yn erbyn y safonau proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
bod â neu yn barod i ennill y cymwysterau lefel 2 gofynnol. (Gall ymgeiswyr heb gymwysterau Lefel 2 wneud cais am y rhaglen hon ond rhaid iddynt gyrraedd Lefel 2 cyn yr asesiad).
bod â rhywfaint o brofiad o arwain y dysgu ar gyfer dosbarthiadau cyfan heb bresenoldeb athro cymwys. Efallai y bydd cynorthwywyr addysgu sydd â phrofiad cyfyngedig o hyn yn canfod y gellir trefnu digon o gyfleoedd i addysgu dosbarthiadau o fewn amserlen y rhaglen. Gofynnir i benaethiaid gadarnhau bod ymgeiswyr wedi cael neu y byddant yn cael y cyfleoedd hyn.
cael cefnogaeth lawn eu Pennaeth a bydd yn ofynnol iddo gymeradwyo'r cais.
Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn y rhaglen dylai'r unigolyn:
1. Drafod ei haddasrwydd â'i pennaeth neu ei rheolwr llinell fel sy'n briodol
2. Cyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau hysbysedig gan ddefnyddio'r ddolen ymgeisio.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar yr uchod, cysylltwch â'ch cydlynydd rhanbarthol fel y manylir isod.
CCD
Rebecca Roach - Rebecca.Roach@cscjes.org.uk
GCA
Rachel Cowell - rachel.cowell@sewaleseas.org.uk
GwE
Wendy Williams - WendyWilliams@gwegogledd.cymru
PACC
Sarah Perdue - sarah.perdue@powys.gov.uk
Alwyn Ward - Alwyn.Ward@ceredigion.gov.uk
Partneriaeth
Heulwen Lloyd - heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru