Sesiynau Ymsefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso

Dyma raglen genedlaethol newydd wedi’i chydlynu gan gonsortia rhanbarthol, gan ddefnyddio amrywiaeth o bartneriaid cyflwyno, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol.


Cynulleidfa

Mae’r llwybr ymsefydlu ANG cenedlaethol hwn wedi’i ddylunio i’r holl athrawon newydd gymhwyso sy’n

ymgymryd â chyfnod ymsefydlu drwy gontract neu wrth gyflenwi.


Diben

Dyma raglen chew sesiwn hanner diwrnod wedi’i chyflwyno dros dymor yr Hydref ac mae’n archwilio’r

safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth mewn dyfnder. Mae’r rhaglen yn cefnogi’r

broses ymsefydlu a’i sail yw’r blaenoriaethau cenedlaethol allweddol gan gynnwys y Cwricwlwm i

Gymru. Diben y sesiwn yw datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i fod yn ymarferydd

effeithiol. 


Dull cyflwyno

Dyma raglen ar-lein wedi’i hwyluso drwy recordiadau, Microsoft teams a sesiynau wyneb yn wyneb ac yn cael eu cyflwyno drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Cynhelir y rhaglen o fis Medi 2023 tan fis Ionaw r 2024, gyda dyddiadau penodol i’w rhannu ar wefannau’r consortia a’r ALl. Fe fydd y y sesiynau yn cael eu cyflwyno mewn ffyrdd gwahanol gan y rhanbarthau / partneriaethau. Bydd y sesiynau hyn wedi cael eu dylunio i fynd i’r afael ag agweddau craidd ar y rhaglen ac i fynd i’r afael â chwestiynau. Ni fydd y sesiynau’n para’n hwy na dwy awr a byddant yn cael eu cynnal ar amrywiaeth o amseroedd gan gynnwys gyda’r hwyr.

Bydd angen i ysgolion ryddhau ANG o’u cyfrifoldebau ar yr amseroedd hyn, fel y byddant petai ANG yn

mynychu cwrs wyneb yn wyneb.


Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys 6 sesiwn:

Sesiwn 1- Sesiwn Friffio Ymsefydlu Genedlaethol (Cyflwyniad cenedlaethol)

Sesiwn 2- Ysgrifennu Profiadau Dysgu Proffesiynol (Cyflwyniad cenedlaethol)

Sesiwn 3 – Addysgeg- Hyrwyddo dysgu (Cyflwyniad rhanbarthol/partneriaeth)

Sesiwn 4 – Arweinyddiaeth a chydweithredu (Cyflwyniad rhanbarthol/partneriaeth)

Sesiwn 5- Addysgeg- Mireinio addysgu (Cyflwyniad rhanbarthol/partneriaeth)

Sesiwn 6- Dysgu proffesiynol ac arloesi (Cyflwyniad rhanbarthol/partneriaeth)


Yn ogystal, bydd cyfleoedd am rwydweithio gyda chyfoedion a fydd yn arwain at rannu syniadau, cymorth gan gyfoedion a’r cyfle i ddysgu gan bobl eraill. Anogir ANG i gwblhau Profiadau Dysgu Proffesiynol ynghylch amrywiaeth o weithgareddau maent wedi cymryd rhan ynddynt.


Gallai gweithgareddau eraill gynnwys pethau megis ymweliadau addysgol, cyfarfodydd a sefyllfaoedd

ysgol beunyddiol eraill. Caiff y darnau ysgrifenedig hyn, y Profiadau Dysgu Proffesiynol, eu cofnodi

drwy’r rhaglen a chant eu cyflwyno fel rhan o’r proffil ymsefydlu.


Dolen y Tîm Cenedlaethol- Cliciwch yma