Cymell a Mentora

Rydym yn cefnogi datblygiad darpariaeth Addysg Ôl-16 a'i harweinwyr.

Mae yna gryn dystiolaeth empirig sy'n awgrymu bod sefydlu diwylliant o gymell a mentora yn cyfleu buddion ar draws y system addysgol gyfan yng Nghymru.  

Mae Cymell a Mentora yn gysyniad syml. 

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Consortia Addysg wedi cymryd camau mawr ymlaen tuag at y nod hwn. 

I wir ddatblygu a gwreiddio diwylliant o gymell a mentora mae'n hanfodol bod yr ymdrech hon yn cael ei chynnal. 

Bydd datblygu diwylliant o gymell a mentora ledled y consortia a'r ysgolion yn darparu pecyn offer pwerus i ni i gynorthwyo i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae cymell da yn ymwneud â chreu diwylliant o berfformiad uchel sy’n gynaliadwy.  

Mae'r rhaglenni Llwybr Datblygu Arweinyddiaeth yn ddibynnol ar ddefnyddio nifer fawr o gymhellwyr a mentoriaid ar gyfer cyflwyno'r rhaglen yn llwyddiannus. Mae'r Rhaglen Cymell a Mentora Genedlaethol yn galluogi'r Consortia Addysg i ddatblygu banc cynaliadwy o gymhellwyr i wasanaethu anghenion y rhaglenni hyn ac yn rhoi sicrwydd o degwch, cysondeb, ac ansawdd ledled Cymru i'r rhai sy’n cymryd rhan.   

Tra bod y Rhaglen Cymell a Mentora Genedlaethol wedi'i llunio i ddechrau i gefnogi a gwasanaethu anghenion Llwybr y Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth, mae angen nifer fawr o gymhellwyr a mentoriaid i alluogi rhaglen lwyddiannus. Mae mwy o amlygiad i Gymell a Mentora drwy'r rhaglen Genedlaethol wedi tynnu sylw at y ffaith bod cymell a mentora yn ofynnol ar draws pob rhan o system addysg os yw ysgolion am wireddu eu potensial.  

Un o sylfaeni Cwricwlwm i Gymru yw galluogi ysgolion i ddylunio eu cwricwlwm eu hunain a chynnal asesiad. Mae cymell yn offeryn pwerus gall arweinwyr addysgol ei ddefnyddio i rymuso staff i ddyfeisio syniadau newydd ac atebion creadigol. Mae arweinwyr yn aml yn credu eu bod yn cymell ond wrth wynebu darlun o gymell dilys yn dod yn ymwybodol bod eu dull gweithredu yn canolbwyntio ar y datrysiad. Mae cymell yn darparu sgiliau i arweinwyr  sy'n symud eu trefn o ddarparu datrysiadau i herio staff i feddwl drostynt eu hunain, magu hyder a hunan-barch a chreu gweithwyr ysbrydoledig, grymusol, sydd wedi eu hymgysylltu, felly mae hyn yn hanfodol os yw'r genedl hon am wireddu addewid Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus.  

Mae Pandemig Covid-19 wedi chwyddo'r angen sy'n bodoli eisoes i feithrin a diogelu lles meddyliol holl staff addysgol. Mae ymchwil yn awgrymu* bod cymell gweithwyr proffesiynol addysgol yn cefnogi lles a hyder, yn gwella sgiliau arwain, yn cynyddu gwytnwch emosiynol, yn helpu i ddatblygu hunan ymwybyddiaeth a hunanreolaeth ynghyd â gwella cyfathrebu a rheoli perthnasoedd. 

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglenni Cymell a Mentora, cysylltwch â'ch consortiwm rhanbarthol os gwelwch yn dda:

Consortiwm Canolbarth y De (CCD)

Louise Muteham - Louise.Muteham@cscjes.org.uk 

Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)

Deb Woodward - Deb.Woodward@sewaleseas.org.uk 

Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru (GwE) 

Ann Grenet - annelisabethgrenet@gwegogledd.cymru

Ieuan Jones - IeuanJones@gwegogledd.cymru 

Partneriaeth

Ruth Lee - Ruth.Lee@partneriaeth.cymru 

Partneriaeth Canolbarth Cymru (PCC)

Sarah Perdue - Sarah.Perdue@powys.gov.uk 

Cyfarwyddwr Rhaglenni’r Consortia

Claire Richards - Claire.Richards@sewaleseas.org.uk