Her i Bawb
Rhaglen Arweinyddiaeth
Gwireddu Potensial – Her i Bawb Rhaglen Dysgu Proffesiynol Arweinyddiaeth 2023-2024
Yn rhan o gynnig Dysgu Proffesiynol Consortia Addysg Cymru mewn perthynas â ‘her i bawb’, byddwn yn cefnogi ysgolion ag amrywiaeth o sesiynau Dysgu Proffesiynol a mynediad at adnoddau, i gefnogi'r broses o ddatblygu gweledigaeth sy'n sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth teg i wireddu ei botensial llawn. Isod gwelir cyfres o weithdai sy'n nodwedd o'r cynnig Dysgu Proffesiynol hwnnw.
Bydd y digwyddiadau'n cael eu recordio a'u rhannu â phawb sydd wedi cofrestru ac a fydd yn bresennol.
I sicrhau lle, cliciwch ar y dolenni isod a llenwi'r ffurflen gofrestru fer.
Strategaeth MAT
Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023
13:00-14:00
Bydd y sesiwn hon yn eich galluogi i ddeall yr elfennau craidd sy'n ofynnol i ddatblygu strategaeth i gefnogi dysgwyr mwy abl a thalentog (MAT) ac ystyried agweddau allweddol yn fan cychwyn.
Gwahaniaethu
Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
09:00–10:00
Bydd y sesiwn hon yn eich cefnogi â dealltwriaeth gyflwyniadol o'r adnodd 'Cefnogi Dysgwyr Agored i Niwed Trwy Addysgu a Dysgu Effeithiol' ac yn archwilio ‘Gwahaniaethu’ yn un o'r pynciau, gan edych ar ddulliau a thechnegau addysgegol o gefnogi anghenion dysgu proffesiynol yn eich ysgol neu leoliad.
Metawybyddiaeth
Dydd Iau 21 Mawrth 2024
09:00–10:00
Bydd y sesiwn hon yn eich cefnogi â dealltwriaeth gyflwyniadol o'r adnodd 'Cefnogi Dysgwyr Agored i Niwed Trwy Addysgu a Dysgu Effeithiol' ac yn archwilio ‘Metawybyddiaeth’ yn un o'r pynciau, gan edych ar ddulliau a thechnegau addysgegol o gefnogi anghenion dysgu proffesiynol yn eich ysgol neu leoliad.
Asesu gan Gymheiriaid a Hunanasesu
Dydd Mawrth 14 Mai 2024
09:00–10:00
Bydd y sesiwn hon yn eich cefnogi i ddeall rôl Asesu gan Gymheiriaid a Hunanasesu o ran helpu dysgwyr i wneud cynnydd, yn ogystal â dulliau ymarferol y gellir eu haddasu.
I gofrestru:
https://tinyurl.com/PeerandSelfAssessment