Sefydlu ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Newydd eu penodi
Mae’r Rhaglen Ymsefydlu Cynorthwywyr Addysgu ar gyfer unigolion sydd newydd eu penodi i’r swydd. Bydd y rhaglen genedlaethol hon yn cael ei chyflwyno ar lwyfan digidol. Bydd modd cwblhau’r hyfforddiant ar amser sydd yn gyfleus i’r cynorthwywyr ac i’w lleoliad. Bydd unigolion yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn gynorthwyydd addysgu llwyddiannus yn ei lleoliad.
Bydd y 4 modiwl yn archwilio:
Cyd-destun Addysg yng Nghymru - fy nghyfrifoldebau fel gweithiwr proffesiynol ym myd addysg yng Nhgymru
Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu
Cwricwlwm Cymru a fframweithiau cefnogol
Addysgeg, gan ddatblygu fy nghrefft i gefnogi dysgwyr.
I gofrestru* ar gyfer y rhaglen, a derbyn y ddolen briodol, mae angen cwblhau’r ffurflen yma:
https://tinyurl.com/Ymsefydlu-Induction
* Mae’n angenrheidiol i Gynorthwywyr ddefnyddio eu cyfrif Hwb er mwyn cwblhau’r hyfforddiant. Cewch y manylion yma wrth eich ysgol