Arweinyddiaeth Strategol mewn Lles Emosiynol a Meddyliol - CMI Lefel 7 

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi arweinwyr i ddatblygu eu Dull Ysgol Gyfan at Les. Mae'r rhaglen yn archwilio enghraifft o sut mae lles wedi cael sylw o fewn sefydliadau y tu allan i addysg. Mae'r rhaglen hefyd yn cyflwyno arweinwyr i fodelau sydd wedi cael eu treialu a’u profi yn helaeth.  


Amlinelliad o’r rhaglen 

Sesiwn 1: Deall y manteision i sefydliadau o iechyd meddwl a lles cadarnhaol yn y gwaith 

Sesiwn 2: Deall sut i reoli iechyd meddwl a lles 

Sesiwn 3: Adolygiad o ddulliau ar gyfer datblygu systemau gwaith iach 

Sesiwn 4: Sut i adeiladu achos busnes ar gyfer strategaeth i hybu iechyd meddwl a lles 

Sesiwn 5: Sut i gynnal diwylliant o iechyd meddwl a lles yn y gwaith 

Sesiwn 6: Adolygu'r dull strategol a nodwyd a deall sut y gellir ei ddefnyddio i gyflawni CMI Lefel 7 


Cyflwyniad y Rhaglen 

Cyflwynir y rhaglen hon yn rhithiol unwaith bob tymor gyda chwe modiwl yn cael eu darparu dros gyfnod o chwe wythnos.