Rhaglen Dysgu Proffesiynol Addysg Ôl-16
Rhaglen Dysgu Proffesiynol Ôl-16 2023-2024
Yn rhan o Gynnig Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol Consortia Addysg Cymru, mae'r Tîm Ôl-16 yn falch o gynnig cyfres newydd o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol i gefnogi datblygiad proffesiynol a blaenoriaethau ôl-16 ar gyfer 2023-2024.
Bydd y digwyddiadau’n cael eu recordio a'u rhannu â phawb sydd wedi cofrestru ac a fydd yn bresennol.
I sicrhau lle, cliciwch ar y ddolen isod a llenwi'r ffurflen gofrestru fer.
Lais y Dysgwr a Ffocws Arolygiadau yn y Dyfodol
Dydd Mawrth 26 Medi 2023
(13:00-14:00)
Defnyddio llais y dysgwr yn effeithiol mewn addysg ôl-16 a'r
diweddaraf ar feysydd ffocws ar gyfer arolygiadau.
Mesurau Perfformiad Llywodraeth Cymru
Dydd Mercher 4 Hydref 2023
(11:00-12:00)
Y diweddaraf ar y newidiadau a'r modd y gellir eu defnyddio'n
effeithiol i wella ysgolion.
Defnyddio Alps Connect i gefnogi a gwella perfformiad Ôl-16
Dydd Iau 16 Tachwedd 2023
(15:30-16:45)
Trosolwg o'r dull Alps a'r defnydd o Alps Connect i fonitro cynnydd myfyrwyr i bennu blaenoriaethau o ran ymyrraeth i gefnogi dysgwyr ôl-16.
Prosesau Pontio Di-dor:
Sicrhau Prosesau Pontio Myfyrwyr Llwyddiannus i Addysg Ôl-16, a Strategaethau Cadw
Dydd Iau 22 Chwefror 2024
(13:00-14:00)
Ffocws ar bontio i addysg ôl-16, a strategaethau cadw
i gefnogi eich gwaith cynllunio a'ch darpariaeth.
Meithrin Llesiant:
Cefnogi Dysgwyr Ôl-16 ar eu Taith i Ffynnu
Dydd Mawrth 12 Mawrth 2024
(14:00-15:00)
Ffocws ar bolisïau, strategaethau a phartneriaid allanol
a all gefnogi llesiant yn y cyfnod ôl-16.
Materion Tegwch:
Mynd i'r Afael ag Anfantais a Hyrwyddo Tegwch mewn Addysg Ôl-16
Dydd Mercher 12 Mehefin 2024
(13:00-14:00)
Ffocws ar bolisïau, strategaethau a phartneriaid allanol a all gefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais yn y cyfnod ôl-16.
Cofrestru:
https://tinyurl.com/Post16EquityMatters