Beth sydd ar gael? Cliciwch ar y dolenni isod i lywio at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi!
Mae’r canllawiau strategaeth hyn yn cydnabod yr holl heriau presennol ac yn cynnig cyngor sydd wedi’i gynllunio i fod yn realistig a chefnogol, tra’n anelu at helpu ysgolion i ddatblygu strategaeth MAT sy’n gynhwysfawr, yn hawdd ei gweithredu, ond eto’n uchelgeisiol ar gyfer datblygiad parhaus ein dysgwyr.
Cysylltwch ag aelod tîm perthnasol y GCA am gopi. Mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan rhannu gwybodaeth y GCA ar Hwb yn y ffolder 0 - Resources.
Bydd y sesiwn hon yn eich cefnogi â dealltwriaeth gyflwyniadol o'r adnodd 'Cefnogi Dysgwyr Agored i Niwed Trwy Addysgu a Dysgu Effeithiol' ac yn archwilio ‘Metawybyddiaeth’ yn un o'r pynciau, gan edych ar ddulliau a thechnegau addysgegol o gefnogi anghenion dysgu proffesiynol yn eich ysgol neu leoliad.
Mae Academi Seren yn rhaglen a ariennir yn llawn i gefnogi dyheadau ac uchelgeisiau'r dysgwyr mwyaf galluog, gan helpu i ehangu eu gorwelion, datblygu angerdd yn eu maes astudio dewisol, a chyrraedd eu potensial academaidd. Mae Academi Seren ar gael i ddysgwyr blynyddoedd 8 i 13 o ysgolion gwladol a cholegau addysg bellach ledled Cymru sydd wedi cael eu nodi gan eu sefydliad fel un sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.