Mae Cynllun Datblygu Ysgol effeithiol a grëir gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth uniongyrchol gadarn yn elfen hanfodol i alluogi Trafodaethau Proffesiynol gwerth chweil. I gefnogi hyn bydd y GCA yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i gasglu tystiolaeth uniongyrchol gywir i werthuso cynnydd. Drwy gydol y flwyddyn bydd y GCA yn cynnal trafodaethau gydag arweinwyr ysgol i dynnu allan canfyddiadau allweddol hunanwerthuso ac i gefnogi nodi blaenoriaethau allweddol y mae angen i’r ysgol fynd i’r afael â nhw.
Bydd sesiynau dysgu proffesiynol i gefnogi arweinwyr ysgol i ddatblygu systemau a phrosesau cadarn ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwella ysgolion yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd y GCA a’r ALl yn hyrwyddo’r cynnig dysgu proffesiynol i arweinwyr ysgol, gan flaenoriaethu’r rhai sydd angen y cymorth mwyaf.
Cysylltwch ag aelod tîm perthnasol y GCA am gopi. Mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan rhannu gwybodaeth y GCA ar Hwb yn y ffolder 0 - Resources.
Cysylltwch ag aelod tîm perthnasol y GCA am gopi. Mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan rhannu gwybodaeth y GCA ar Hwb yn y ffolder 0 - Resources.